Rydym yn derbyn nifer mawr o archebion ar gyfer casgliadau gwastraff swmpus. Ar hyn o bryd rydym yn trefnu bum wythnos ymlaen llaw. Rhaid i eitemau y trefnwyd i'w casglu fod allan ar ymyl y ffordd ar y diwrnod dynodedig. Ni fydd criwiau'n gallu mynd i mewn i eiddo dan unrhyw amgylchiadau. Diolch yn fawr am eich dealltwriaeth.
Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein
Gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Ar hyn o bryd rydym yn trefnu casgliad 2 wythnos ymlaen llaw. Byddwn yn eich e-bostio'n ôl o fewn 3 diwrnod gwaith gyda'r union ddiwrnod/ddyddiad casglu.
Sylwer ein bod yn casglu o eiddo preswyl yn unig. Ni allwn gynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau.
Cyn i chi drefnu casgliad
- Os yw aelod o'ch cartref wedi arddangos symptomau o coronafeirws neu'n gwneud hynny ar hyn o bryd, peidiwch â threfnu casgliad.
- Os yw aelod o'ch cartref wedi bod yn symptomatig ond mae wedi hunanynysu am 14 diwrnod, gwnewch yn siŵr bod eitemau i'w casglu wedi cael eu glanhau'n drylwyr â hancesi sychu gwrth-feirol neu chwistrell ddiheintiol.
- Os gallwch storio'r eitemau nes bod mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi'u llacio, gwnewch hynny.
- Rhaid cadw pellter cymdeithasol rhwng gweithwyr a phreswylwyr wrth gasglu'r eitemau. Os nad oes modd gwneud hyn, ni fydd yr eitemau'n cael eu casglu.
- Rhaid rhoi'r eitemau wrth ymyl y ffordd y noson cyn y casgliad a drefnwyd neu ar y bore hwnnw. Am resymau diogelwch ni allwn helpu pobl i wneud hyn.