Gwastraff swmpus
Gallwn drefnu i gasglu eitemau swmpus gwastraff cartref sy'n rhy fawr ar gyfer eich bagiau du megis gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgistiau a chypyrddau dillad.
Rhaid i eitemau y trefnwyd i'w casglu fod allan ar ymyl y ffordd ar y diwrnod dynodedig. Ni fydd criwiau'n gallu mynd i mewn i eiddo dan unrhyw amgylchiadau.
Trefnir yr holl eitemau a gesglir i gael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
Mae'n rhaid trefnu a thalu am bob casgliad ymlaen llaw. Gallwn gasglu:
- 1 i 3 eitem am £23
- 4 i 6 eitem (uchafswm) am £46
Os yw'n well gennych, gallwch roi eitemau swmpus ailddefnyddiadwy i'n siop ailddefnyddio neu i elusen neu sefydliad ailddefnyddio leol. Gallwch hefyd werthu neu roi eich eitem fel rhodd drwy farchnad ar-lein.
Gallwch gael gwared ar rai eitemau am ddim os ewch chi â nhw i ganolfan ailgylchu gwastraff cartref.
Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer gwastraff busnes, gan gynnwys nwyddau trydanol neu ddodrefn sy'n berchen i landlord eiddo rhent. Er mwyn atal camddefnydd o'r gwasanaeth hwn byddwn yn casglu uchafswm o 2 oergell neu 2 fatres yn unig o unrhyw eiddo. Os hoffech drefnu casgliad busnes o wastraff swmpus, gallwch gysylltu â'r tîm Gwastraff Masnachol.
Sut i drefnu a thalu am gasgliad
Cyn i chi drefnu casgliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r rhestr o eitemau dydyn ni ddim yn gallu eu casglu.
Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein Trefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein
Neu:
- ffonio (01792) 635600
- yn bersonol yn y Ganolfan Gyswllt (Canolfan Ddinesig)
Os ydych yn derbyn cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm neu gredyd pensiwn gwarantedig neu Credyd Cynhwysol mae gennych yr hawl i uchafswm o 3 chasgliad ar gyfer hyd at 3 eitem am hanner pris dros gyfnod o 12 mis.
Nodwch fod angen i eitemau fod allan ar ymyl y ffordd er mwyn eu casglu ar y dyddiad cytunedig. Ni fydd y tîm casgliadau yn dod i mewn i'ch eiddo.
Bydd y casgliad ar yr un diwrnod â'ch casgliadau ailgylchu a sbwriel fel arfer. Rydym ar hyn o bryd yn derbyn archebion o leiaf 3 i 4 wythnos cyn y casgliad.
Unwaith y byddwch wedi trefnu casgliad, byddwn yn eich e-bostio o fewn 3 diwrnod gwaith i gadarnhau'r dyddiad casglu. Ar ôl archebu casgliad, anfonir e-bost o fewn 3 diwrnod gwaith i gadarnhau'r dyddiad casglu. Gwiriwch eich ffolderi e-bost sbam/sothach rhag ofn nad yw'n ymddangos yn eich prif ffolder e-bost. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad ar ôl 3 diwrnod gwaith, ffoniwch y tîm ar 01792 635600.
Er mwyn sicrhau y cesglir eich eitemau mae'n rhaid i chi:
- roi'r eitemau allan y disgrifiwyd gennych wrth drefnu'r casgliad yn unig.
- rhoi'r eitemau allan i'w casglu ar ochr y ffordd rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 7.00am ar fore eich diwrnod casglu.
- ceisio cadw eitemau'n sych a pheidiwch â'u gadael allan am amser hir ym mhob tywydd. Os ydych yn gadael eitem allan a allai amsugno dŵr (e.e. matres neu soffa), gorchuddiwch hwy. Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac ni chesglir hwy.
NI FYDDWN yn casglu:
- eitemau sy'n rhy drwm i'w codi yn ddiogel gan y criw casglu
- eitemau o tu mewn i'r eiddo neu'r ardd
- o eiddo masnachol (busnesau)
- gwastraff peryglus, e.e. asbestos, batris ceir, paent, etc
- eitemau sy'n cynnwys gwydr neu ddrychau
- drysau allanol
- darnau gosod fel switiau ystafelloedd ymolchi
- boeleri, poteli nwy neu danciau olew
- rwbel adeiladu
- teiars ceir/ olwynion
- rhannau/ darnau mewnol ceir (fel seddi, ayyb)
- rhannau/darnau ceir (fel bwmperi, ayyb)
- sied garddio
- rheiddiaduron
- paledi pren
- pianos
- deunydd PVC
- mwy na 2 oergell a rhewgell fesul archeb
Polisi canslo
Mae angen arnom o leiaf 24 awr o rybudd i ganslo casgliad; ar ôl yr amser hwnnw, bydd y criw casglu'n ymrwymedig i'r casgliad a bydd treuliau'n deillio o'r herwydd. Sylwer os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu, bydd angen i ni wybod erbyn 12.00pm ar y dydd Gwener cynt.