Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau ar gyfer tatwyddion, trydylliadau, electrolysis ac aciwbigiadau

Mae'r gyfraith yn newid. O 29 Tachwedd 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw weithdrefn arbennig ar rywun arall yng Nghymru fod yn drwyddedig a bydd angen i mangreoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo.

Bydd y gofynion cyfreithiol presennol o ran cofrestru a gorfodi ar gyfer aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis, tatŵio a cholur lled-barhaol yn parhau yn eu lle nes bydd y cynllun trwyddedu gorfodol yn dod i rym. Mae'n rhaid i gofrestriadau newydd o dan y cynllun cofrestru presennol ddigwydd o hyd er mwyn gweithredu'n gyfreithlon cyn i'r cynllun newydd ddod i rym.

Mae'r cynllun newydd yn grwpio'r triniaethau ychydig yn wahanol yn unol â'r diffiniadau o'r pedair triniaeth yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017:

Aciwbigo - yn cynnwys aciwbigo traddodiadol yn ogystal â nodwyddo sych. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig ag aciwbigo nad yw'n cynnwys mewnosod nodwyddau yn y croen.

Tyllu'r corff - mae'n cynnwys pob rhan o'r corff, gan gynnwys tyllu'r glust a'r trwyn a rhannau personol o'r corff.

Electrolysis - yn berthnasol i'r defnyddiau lle mae nodwydd yn cael ei fewnosod yn y croen yn unig.

Tatŵio - yn cynnwys colur lled-barhaol (hy unrhyw therapi harddwch sy'n cynnwys mewnosod deunydd lliwio yn y croen) yn ogystal â thatŵio traddodiadol.

Pwy sydd angen beth?

  • Bydd y cynllun newydd yn gymwys i bawb sydd wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol ar hyn o bryd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 i ymarfer aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych), tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol), ac ar gyfer y fangre a'r cerbydau lle mae'r triniaethau hyn yn cael eu cyflawni. Bydd hefyd yn berthnasol i bob ymgeisydd newydd sy'n dymuno dod yn ymarferydd triniaeth arbennig a/neu sy'n edrych i reoli mangre/cerbyd triniaeth arbennig am y tro cyntaf.
  • Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded triniaethau arbennig ei hun a fydd yn cadarnhau'r driniaeth/triniaethau y mae wedi'i drwyddedu'n bersonol i'w cyflawni.
  • Rhaid i bob mangre neu gerbyd busnes triniaethau arbennig gael tystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd ei hun.
  • Bydd angen i bob ymarferydd sy'n gyfrifol am ei fangre/cerbyd ei hun gael trwydded triniaethau arbennig (ar gyfer ei hun) a thystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd (ar gyfer ei fangre/cerbyd).
  • Rhaid i bob un sy'n gwneud cais am drwyddedau a/neu dystysgrifau cymeradwyo fod yn o leiaf 18 oed a rhaid eu bod wedi cymryd a phasio'r cwrs Lefel 2 cymeradwy mewn Atal a Rheoli Heintiau i fod yn gymwys i wneud cais.

Rhaid i bob ymarferydd a gweithredwr mangre/cerbyd ddilyn cwrs Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau cyn y gall wneud cais am drwydded a/neu dystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd. Bydd cwblhau'r cwrs yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn gweithredu i safon gyson a mesuradwy o atal a rheoli heintiau. Bydd cwblhau'r cwrs yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn gweithredu i safon gyson a mesuradwy o atal a rheoli heintiau. Mae Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH) yn rhoi manylion yr un ar ddeg o ddarparwyr hyfforddiant sydd wedi'u cymeradwyo i gyflwyno'r cwrs hwn. Dyma unig ddarparwyr y cwrs cymeradwy hwn, ni fydd unrhyw gwrs arall a gynigir gan wahanol gwmnïau yn darparu'r cymhwyster perthnasol.

Ffioedd

Mae'r holl ffioedd sy'n ymwneud â'r cynllun trwyddedu gorfodol wedi cael eu cytuno gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun o leiaf, a byddant yr un fath ym mhob awdurdod lleol.

Y ffi ymgeisio: mae'r ffi hon yn cynnwys cost prosesu'r cais hyd at y pwynt lle mae'r awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid rhoi neu wrthod y drwydded neu dystysgrif cymeradwyo mangre/ cerbyd. Mae hefyd yn cynnwys swyddog awdurdod lleol sy'n ymweld â'r ymgeisydd yn ei fangre i gynnal ymweliad ymgeisio â'r ymarferydd neu ymweld â'r fangre/ cerbyd i gynnal asesiad cymeradwyo gyda'r ymgeisydd a chyflwyno'r gwaith papur perthnasol.

Y ffi gydymffurfio: mae'r ffi hon yn cynnwys cost rhedeg y cynllun trwyddedu cyfan o ddydd i ddydd, gan gynnwys cymorth a chyngor i ddeiliaid trwyddedau/ tystysgrifau cymeradwyo, gorfodi'r cynllun trwyddedu, a monitro cydymffurfiaeth yn ystod cyfnod 3 blynedd y drwydded a/neu'r dystysgrif cymeradwyo mangre/ cerbyd.

Pob cais cyntaf

Ar gyfer trwydded triniaeth arbennig 3 blynedd (ar gyfer ymarferwyr unigol)
ffi ymgeisio yn daladwy adeg cyflwyno'r cais£159
ffi cydymffurfio, yn daladwy ar ôl i drwydded gael ei rhoi£44

 

Ar gyfer tystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd 3 blynedd
ffi ymgeisio yn daladwy adeg cyflwyno'r cais£244
ffi cydymffurfio, yn daladwy ar ôl i dystysgrif gymeradwyo gael ei rhoi£141

Ceisiadau Adnewyddu* (yn ddyledus 3 blynedd ar ôl dyddiad rhoi'r drwydded gyntaf)

Ar gyfer adnewyddu trwydded triniaeth arbennig am y 3 blynedd nesaf
ffi ymgeisio yn daladwy adeg cyflwyno'r cais adnew£147*
ffi cydymffurfio, yn daladwy ar ôl i drwydded newydd gael ei rhoi£41*

 

Ar gyfer adnewyddu tystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd am y 3 blynedd nesaf
ffi ymgeisio yn daladwy adeg cyflwyno'r cais adnewyddu£204*
ffi cydymffurfio, yn daladwy ar ôl i dystysgrif gymeradwyo newydd gael ei rhoi£141*

* Ffioedd dangosol yn unig - mae'r rhain yn destun adolygiad a gallant newid cyn i ymarferydd gyrraedd diwedd ei gyfnod trwydded 3 blynedd presennol sef pryd y bydd angen iddo wedyn gyflwyno cais i adnewyddu am gyfnod pellach o 3 blynedd

Amrywio trwydded a thrwydded newydd yn lle hen un
Trwydded Triniaeth Arbennig - Amrywio (Ychwanegu triniaeth newydd)£131
Trwydded Triniaeth Arbennig - Amrywio (Newid manylion)£26
Trwydded Triniaeth Arbennig - Trwydded newydd yn lle hen un£13

 

Amrywio Tystysgrif Cymeradwyo a Thystysgrif Cymeradwyo newydd yn lle hen un
Mangre / cerbyd cymeradwy - Amrywio (Ychwanegu triniaeth newydd)£189
Mangre / cerbyd cymeradwy - Amrywio (Newid strwythurol)£189
Mangre / cerbyd cymeradwy - Amrywio (Newid manylion)£26
Mangre / cerbyd cymeradwy - Trwydded newydd yn lle hen un£13

Digwyddiadau Dros Dro

Trwydded Triniaethau Arbennig Dros Dro a Thystysgrif Cymeradwyaeth Dros Dro
Trwydded Triniaeth Arbennig Dros Dro (fesul unigolyn)£92
Eiddo / cerbyd cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (confensiwn / prif ddiben)£680
Eiddo / cerbyd cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (Digwyddiad ategol)£385

Hoffwn gael mwy o wybodaeth am sut y bydd y cynllun hwn yn gweithio

Bydd canllawiau ar weithrediad y cynllun Triniaethau arbennig: aciwbigo, electrolysis, tyllu'r corff a thatŵio.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Rhagfyr 2024