Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedu ar gyfer triniaethau arbennig (Mangreoedd a Cherbydau) - Nodiadau cyfarwyddyd

Nodyn 1: Enw'r awdurdod lleol perthnasol sy'n dyroddi

Wrth wneud cais am dystysgrif gymeradwyo

(a) os yw'r fangre yn ardal yr awdurdod lleol, mae cais i'w wneud i'r awdurdod lleol hwnnw;

(b) os ystyrir bod y cerbyd yn cael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yn ardal yr awdurdod lleol, neu ei fod yn debygol o gael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yn ardal yr awdurdod hwnnw, mae cais i'w wneud i'r awdurdod lleol hwnnw.

Nodyn 2: Nodi'r person yn Rhan 2, Adran B 2.14

Os yw cais yn cael ei wneud ar ran busnes/sefydliad, enw unigolyn fel y Perchennog, y Rheolwr, Cyfarwyddwr y cwmni neu Gyfarwyddwr gweithredol y busnes/sefydliad yw'r enw y mae'n ofynnol ei roi yn y ffurflen gais.

Nodyn 3: Nodi'r person yn Rhan 2, Adran B 2.16

Rhaid i geiswyr nodi unigolyn a fydd yn berson cyswllt ar gyfer y cais ac yn ystod cyfnod para'r dystysgrif gymeradwyo arfaethedig. Caiff yr unigolyn hwn fod yn Rheolwr rhanbarthol, yn Rheolwr ardal, neu'n Rheolwr safle ar gyfer y fangre/cerbyd a chaiff ymwneud â rheoli'r fangre/cerbyd yn weithredol/o ddydd i ddydd. Caiff yr unigolyn hwn fod yr un unigolyn â'r person sydd wedi ei nodi yn Rhan 2, Adran B 2.14 ond bydd yn ofynnol iddo ddarparu dogfennau hunaniaeth a rhaid iddo feddu ar Ddyfarniad Lefel 2 a reoleiddir dilys.

Nodyn 4: Ystyr triniaeth arbennig

Mae i'r triniaethau arbennig aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio oll yr un ystyron ag a roddir yn adran 94(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Nodyn 5: Cyflawni gweithgareddau eraill yng nghwrs busnes

Caiff ceisydd gynnwys manylion ynghylch gweithgareddau eraill a gyflawnir yn y fangre/cerbyd yng nghwrs busnes ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn driniaethau arbennig. Er enghraifft, gweithgareddau fel rhoi triniaethau harddwch, trin gwallt, manwerthu etc.

Nodyn 6: Nifer y gweithfannau

Ystyr y term "gweithfan" yw'r rhan o'r man gwaith triniaethau arbennig sy'n cynnwys y canlynol

(a) gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu'n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,

(b) cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi'r driniaeth arbennig (os yw'n gymwys), ac

(c) arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio'r offerynnau a'r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi'r driniaeth arbennig.

Wrth benderfynu faint o weithfannau y mae ceisydd yn ceisio cymeradwyaeth ar eu cyfer, rhaid i'r ceisydd ystyried maint a siâp y fangre/cerbyd a sicrhau bod digon o le rhwng pob gweithfan er mwyn galluogi rhoi'r driniaeth/triniaethau arbennig yn ddiogel ac yn hylan. Gweler y cyfarwyddyd anstatudol am ragor o wybodaeth.

Nodyn 7: Man gwaith triniaethau arbennig

Ystyr y term "man gwaith triniaethau arbennig" yw man neu ystafell ddynodedig a ddefnyddir at ddiben rhoi triniaeth arbennig, ac o ran man gwaith triniaethau arbennig

(a) rhaid iddo gynnwys o leiaf

(i) 1 weithfan,

(ii) 1 basn golchi dwylo,

(iii) 1 bin gwastraff,

(iv) 1 bin offer miniog (os yw'n gymwys), a

(b) caiff hefyd gynnwys cyfleusterau eraill a chyfarpar arall i gefnogi'r gwaith o roi'r driniaeth arbennig.

Nodyn 8: Offer miniog

Ystyr y term "offer miniog" yw gwrthrychau neu offerynnau sy'n gallu torri, crafu, pricio neu achosi anaf i'r croen, ac mae'n cynnwys pob math o nodwydd a rasel untro.

Nodyn 9: Ffotograff o'r cerbyd

Mae'n ofynnol i geiswyr gyflwyno ffotograff lliw diweddar o'r cerbyd sy'n ddarostyngedig i'w gymeradwyo gan yr awdurdod lleol. Mae ffotograff yn ofynnol ar gyfer pob cerbyd, gan gynnwys cerbydau sydd â phlatiau cofrestru.

Nodyn 10: Lleoliad y cerbyd

Er y bydd tystysgrif gymeradwyo yn awdurdodi rhoi triniaethau arbennig mewn cerbyd yn unrhyw le yng Nghymru, gofynnir i geiswyr ddarparu manylion pellach ynghylch lleoliad arferol y cerbyd yng Nghymru ac ynghylch ardaloedd awdurdodau lleol lle y mae'r cerbyd yn debygol o gael ei ddefnyddio i roi triniaethau arbennig.

Nodyn 11: Trwydded triniaeth arbennig

Mae i trwydded triniaeth arbennig yr un ystyr ag a roddir yn adran 59 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, h.y. trwydded a ddyroddir gan awdurdod lleol, sy'n awdurdodi i'r driniaeth arbennig (neu'r triniaethau arbennig) a bennir yn y drwydded gaei ei rhoi (neu eu rhoi) gan ddeiliad y drwydded.

Nodyn 12: Rhif y drwydded

Ystyr rhif y drwydded yw'r cyfeirnod a roddir gan yr awdurdod lleol i'r drwydded triniaeth arbennig sy'n unigryw i'r drwydded honno ac a bennir ynddi.

Nodyn 13: Sicrwydd yswiriant

Ystyr y term "sicrwydd yswiriant" yw polisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio'r ceisydd mewn perthynas â'r fangre neu'r cerbyd a gymeradwywyd.

Nodyn 14: Peidio â chydymffurfio â'r amodau cymeradwyo mandadol

Dylai ceiswyr fod yn ymwybodol y gall tystysgrif gymeradwyo gael ei dirymu os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod deiliad y dystysgrif wedi methu â chydymffurfio ag amod cymeradwyo mandadol cymwys, a bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol. Gweler adran 73 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 am fanylion pellach.

Nodyn 15: Talu'r ffi am gais

Cynghorir ceiswyr i gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol sy'n dyroddi i gael rhagor o wybodaeth am swm y ffi am gais sy'n ddyledus a sut y mae taliad am y ffi am gais i'w wneud. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar wefan yr awdurdod lleol.

Nodyn 16: Cyflwyno cais

Cynghorir ceiswyr i gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol sy'n dyroddi i gael rhagor o wybodaeth am sut y mae cais am dystysgrif gymeradwyo i'w gyflwyno. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar wefan yr awdurdod lleol.

Nodyn 17: Plan o fangre neu gerbyd

Rhaid i blan ddod gyda'r cais a rhaid i'r plan gynnwys y canlynol (pan fo'n briodol)

(a) y mynedfeydd i'r fangre neu'r cerbyd a'r allanfeydd ohoni neu ohono,

(b) mesuriadau a disgrifiad o siâp y mannau (megis ystafelloedd) (os oes rhai) sydd yn y fangre neu'r cerbyd,

(c) y mynedfeydd i'r mannau (megis ystafelloedd) (os oes rhai) sydd yn y fangre neu'r cerbyd, a'r allanfeydd ohonynt,

(d) lleoliad y canlynol (os oes rhai)

(i) sinciau cyfarpar,

(ii) biniau offer miniog,

(iii) ystafelloedd staff,

(iv) mannau, cyfleusterau neu ystafelloedd storio ar gyfer cynhyrchion a/neu gyfarpar,

(v) toiledau,

(vi) mannau neu ystafelloedd aros,

(vii) basnau golchi dwylo,

(viii) biniau gwastraff,

(ix) ffenestri, a

(x) gweithfannau.

Nodyn 18: Tystiolaeth o Ddyfarniad Lefel 2 a reoleiddir

Rhaid i geiswyr feddu ar Ddyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig (dyfarniad a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru). Rhaid i geiswyr ddarparu tystiolaeth o'r dyfarniad hwn drwy amgáu naill ai'r dystysgrif wreiddiol neu gopi o'r dystysgrif. Os darperir copi o'r dystysgrif, rhaid rhoi'r dystysgrif wreiddiol ar gael, ar gais, i'r awdurdod lleol sy'n dyroddi.

Yn achos unigolyn sy'n gwneud cais am dystysgrif gymeradwyo, rhaid i'r Dyfarniad Lefel 2 a reoleiddir fod wedi ei ddyfarnu i'r unigolyn hwnnw.

Os yw'r cais yn cael ei wneud ar ran busnes/sefydliad, rhaid i'r Dyfarniad Lefel 2 a reoleiddir fod wedi ei ddyfarnu i'r unigolyn a enwir/sydd wedi ei nodi yn Rhan 2, Adran B 2.16 o'r ffurflen gais.

Mwy o wybodaeth am Ddyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig ar wefan RSPH.

Nodyn 19: Dogfennau adnabod

Yn achos unigolyn sy'n gwneud cais am dystysgrif gymeradwyo, rhaid iddo ddarparu prawf o'i enw llawn a'i ddyddiad geni.

Yn achos cais sy'n cael ei wneud ar ran busnes/sefydliad, rhaid i'r unigolyn sydd wedi ei nodi yn Rhan 2, Adran B 2.16 o'r ffurflen gais ddarparu ei ddogfennau adnabod.

Caniateir y mathau canlynol o ddogfennau adnabod ffotograffig:

  • Pasbort dilys neu drwydded yrru ddilys,
  • Os nad oes gan y ceisydd yr un o'r uchod yna ystyrir bod y cardiau adnabod ffotograffig canlynol yn addas: trwydded breswylio fiometrig; cerdyn adnabod Lluoedd EF; cerdyn adnabod cenedlaethol yr AEE; Cerdyn Pasbort Gwyddelig; fisa neu drwydded waith.

Caiff ceiswyr ddarparu copïau o'u dogfennau adnabod i ddod gyda'r ffurflen gais ond rhaid rhoi'r dogfennau adnabod gwreiddiol ar gael, ar gais, i'r awdurdod lleol sy'n dyroddi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Rhagfyr 2024