Trwyddedu ar gyfer triniaethau arbennig (Person) - Nodiadau cyfarwyddyd
Nodyn 1: Enw'r awdurdod lleol perthnasol sy'n dyroddi
Wrth wneud cais am drwydded triniaeth arbennig
(a) os yw'r ceisydd yn credu bod y driniaeth arbennig yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardal un awdurdod lleol yn unig, mae cais i'w wneud i'r awdurdod lleol hwnnw;
(b) os yw'r ceisydd yn credu bod y driniaeth arbennig yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, mae cais i'w wneud i un o'r awdurdodau lleol hynny.
Nodyn 2: Cymhwystra i gael tystysgrif datgeliad sylfaenol a/neu dystysgrif cofnod troseddol dramor
Rhaid i geisydd gyflwyno gyda'r ffurflen gais hon:
(a) tystysgrif datgeliad sylfaenol a ddyroddir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a/neu
(b) os yw'n gymwys, dystysgrif cofnod troseddol dramor.
Ni chaiff unrhyw dystysgrif fod yn hŷn na thri mis (o'r dyddiad dyroddi).
Pan fo'n bosibl, darparwch gopi electronig o'ch tystysgrif datgeliad sylfaenol. Wrth wneud hynny, rydych yn rhoi caniatâd i rannu'r canlyniad yn electronig â'r awdurdod lleol yr ydych yn gwneud cais iddo.
Rhaid i geisydd nad yw'n gymwys i gael tystysgrif datgeliad sylfaenol gael tystysgrif cofnod troseddol dramor. Mae'r broses o wneud cais am wiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ceisydd o dramor yn amrywio o wlad i wlad. Efallai y bydd angen i geisydd wneud cais yn y wlad honno neu i'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU. Gweler https://www.gov.uk/government/publications/criminal-records-checks-for-overseas-applicants am ganllawiau pellach.
Ni fydd tystysgrif datgeliad sylfaenol yn cwmpasu'r amser y mae ceisydd wedi ei dreulio'n byw y tu allan i'r DU. Os yw ceisydd yn gymwys i gael tystysgrif datgeliad sylfaenol ond ei fod wedi treulio mwy na 6 mis yn byw y tu allan i'r DU, rhaid i'r ceisydd gyflwyno tystysgrif cofnod troseddol dramor o'r wlad / gwledydd sy'n cwmpasu'r cyfnod a dreuliodd y ceisydd yn byw dramor.
Nodyn 3: Rhoi triniaethau arbennig ar ran bersonol o'r corff
Gweler adran 96(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 sy'n nodi beth yw rhan bersonol o'r corff.
Nodyn 4: Cyflawni gweithgareddau eraill yn nghwrs busnes
Caiff ceisydd gynnwys manylion am weithgareddau eraill y mae'r ceisydd yn eu cyflawni yng nghwrs busnes ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn driniaethau arbennig. Er enghraifft, gweithgareddau fel rhoi triniaethau harddwch, trin gwallt, manwerthu etc.
Nodyn 5: Statws gwaith mewn cysylltiad â rhoi triniaethau arbennig
Cynghorir ceiswyr i droi at y canllawiau anstatudol os nad ydynt yn siŵr ar ba "sail" y maent yn rhoi triniaethau arbennig. Er enghraifft, bydd ceisydd yn rhoi triniaeth arbennig ar "sail symudol" os rhoddir y driniaeth arbennig mewn cerbyd. Gweler hefyd adran 94 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 am ragor o wybodaeth.
Nodyn 6: Manylion mangre neu gerbyd a gymeradwywyd
Ystyr "mangre neu gerbyd a gymeradwywyd" yw mangre neu gerbyd a gymeradwyir o dan adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, gan yr awdurdod lleol.
Rhaid i geiswyr
(a) yn achos trwydded sy'n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre, bennu cyfeiriad pob un o'r mangreoedd y mae rhoi'r driniaeth arbennig i gael ei awdurdodi gan y drwydded triniaeth arbennig;
(b) yn achos trwydded sy'n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn cerbyd, bennu rhif cofrestru'r cerbyd;
(c) yn achos trwydded sy'n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn cerbyd nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae'r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol.
Nodyn 7: Rhif y dystysgrif gymeradwyo
Ystyr "rhif y dystysgrif gymeradwyo" yw'r cyfeirnod a roddir gan yr awdurdod lleol i'r dystysgrif gymeradwyo sy'n unigryw i'r dystysgrif honno ac a bennir ynddi.
Nodyn 8: Euogfarnau am droseddau perthnasol
Mae'n ofynnol i geiswyr ddatgelu euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol. Mae'r hyn sy'n cael ei ystyried yn drosedd berthnasol wedi ei nodi yn adran 66 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Bydd tystysgrif datgeliad sylfaenol yn dangos euogfarnau heb eu disbyddu a rhybuddiadau amodol ceisydd. Dylai ceiswyr geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydynt yn siŵr a yw'n ofynnol iddynt ddatgelu euogfarn am drosedd berthnasol ai peidio. Dylai ceiswyr fod yn ymwybodol y caiff awdurdod lleol ddirymu trwydded triniaeth arbennig os darperir gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas ag euogfarnau ceisydd am droseddau perthnasol (gweler adran 68 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017).
Nodyn 9: Rhif y drwydded
Ystyr "rhif y drwydded" yw'r rhif a roddir gan yr awdurdod lleol i'r drwydded triniaeth arbennig sy'n unigryw i'r drwydded honno ac a bennir ynddi.
Nodyn 10: Darparu gwybodaeth berthnasol i fynd gyda ffurflen gais
Caiff ceisydd gyflwyno unrhyw wybodaeth y mae'n ystyried ei bod yn berthnasol i'w gais. Er enghraifft, gallai hyn fod yn wybodaeth bellach (gan gynnwys unrhyw ffactorau lliniarol) mewn perthynas ag unrhyw euogfarn heb ei disbyddu am drosedd berthnasol y mae'r ceisydd wedi ei datgan ar y ffurflen gais hon.
Nodyn 11: Sicrwydd yswiriant
Rhaid i geiswyr ddatgan y byddant yn cael sicrwydd yswiriant dilys mewn cysylltiad â rhoi triniaethau arbennig a bydd y gofyniad hwnnw yn rhan o'r amodau trwyddedu mandadol a fydd ynghlwm wrth y drwydded triniaeth arbennig. Ystyr sicrwydd yswiriant yw polisi yswiriant dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio'r ceisydd mewn cysylltiad ag atebolrwyddau, mewn cysylltiad â salwch, haint, anaf ac effeithiau andwyol eraill ar iechyd nad ydynt yn heintus (gan gynnwys adweithiau alergaidd), sy'n codi drwy roi triniaeth arbennig.
Nodyn 12: Peidio â chydymffurfio â'r amodau trwyddedu mandadol
Dylai ceiswyr fod yn ymwybodol y gall trwydded triniaeth arbennig gael ei dirymu os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod deiliad y drwydded wedi methu â chydymffurfio ag amod trwyddedu mandadol cymwys, a bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol. Gweler adran 68 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 am fanylion pellach.
Nodyn 13: Talu'r ffi am gais
Cynghorir ceiswyr i gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol sy'n dyroddi i gael rhagor o wybodaeth am swm y ffi am gais sy'n ddyledus a sut y mae taliad am y ffi am gais i'w wneud. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar wefan yr awdurdod lleol.
Nodyn 14: Cyflwyno cais
Cynghorir ceiswyr i gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol sy'n dyroddi i gael rhagor o wybodaeth am sut y mae cais am drwydded triniaeth arbennig i'w gyflwyno. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar wefan yr awdurdod lleol.
Nodyn 15: Tystiolaeth o Ddyfarniad Lefel 2 a reoleiddir
Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig (dyfarniad a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru). Rhaid i geiswyr ddarparu tystiolaeth o'r dyfarniad hwn drwy amgáu naill ai'r dystysgrif wreiddiol neu gopi o'r dystysgrif. Os darperir copi o'r dystysgrif, rhaid rhoi'r dystysgrif wreiddiol ar gael, ar gais, i'r awdurdod lleol sy'n dyroddi.
Nodyn 16: Dogfennau adnabod
Rhaid i bob ceisydd ddarparu prawf o'i enw llawn a'i ddyddiad geni. Caniateir y mathau canlynol o ddogfennau adnabod ffotograffig:
- Pasbort dilys neu drwydded yrru ddilys,
- Os nad oes gan y ceisydd yr un o'r uchod yna ystyrir bod y cardiau adnabod ffotograffig canlynol yn addas; trwydded breswylio fiometrig; cerdyn adnabod Lluoedd EF; cerdyn adnabod cenedlaethol yr AEE; Cerdyn Pasbort Gwyddelig; fisa neu drwydded waith.
Caiff ceiswyr ddarparu copïau o'u dogfennau adnabod i fynd gyda'r ffurflen gais ond rhaid rhoi'r dogfennau adnabod gwreiddiol ar gael, ar gais, i'r awdurdod lleol sy'n dyroddi.
Nodyn 17: Ffotograff lliw diweddar
Rhaid i bob ceisydd gyflwyno ffotograff lliw diweddar ohono ei hun. Rhaid i'r ffotograff:
- fod yn ffotograff maint a steil pasbort y DU,
- bod wedi ei dynnu o flaen cefndir golau fel bod nodweddion y ceisydd i'w gweld yn eglur mewn gwrthgyferbyniad â'r cefndir,
- dangos wyneb y ceisydd yn glir. Rhaid i'w fynegiant fod yn niwtral ac ni chaiff wisgo unrhyw beth sy'n gorchuddio ei ben na'i wallt (ac eithrio am resymau crefyddol neu feddygol),
- bod yn wirioneddol debyg i'r ceisydd.