Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedu Tai Amlbreswyl

Mae'n rhaid I landlordiaid rhai tai amlbreswyl (HMOs) wneud cais I drwyddedu eu heiddo.

Trwyddedu gorfodol

Mae hyn yn berthnasol I HMO â thri llaw neu fwy ac hefyd phump neu fwy o breswylwyr yno nad ydynt yn rhan o un aelwyd. Mae nifer y lloriau'n cynnwys basioriau ac atigau y mae modd byw ynyddynt. Mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol ar draws Abertawe gyfan.

Trwyddedu ychwanegol

Mae trwyddedu ychwanegol yn berthnasol yn wardiau'r Castell, Uplands, Glannau ac St Thomas yn Abertawe. Mae'n rhaid bob HMO yn y ward hyn gael trwydded, ni waeth beth yw eu maint. Mae hyn yn cynnwys HMO a eithrir o'r cynllun trwyddedu HMO gorfodol.

Mae llety i fyfyrwyr sy'n eiddo ac yn cael ei reoli gan brifysgol yn cael ei eithrio rhag trwyddedu. Mae'n rhaid i brifysgolion gydymffurfio â chôd ymddygiad ar wahân ar gyfer eu llety..

Beth yw hanfod trwyddedu HMO?

Mae trwyddedu'n edrych ar yr HMO ei hun (yr amodau, yr amwynderau ac addasrwydd ar gyfer uchafswm y deiliaid) a hefyd y trefniadau rheoli. Rhaid i ddeiliad y drwydded ac unrhyw reolwr fod yn addas (weithiau fe'i gelwir yn 'addas a phriodol') ac yn gymwys, rhaid cael strwythur rheoli addas yn ei le yn ogystal â threfniadau ariannu addas.

Mae amodau'n gysylltiedig â thrwydded sy'n ceisio sicrhau bod HMO yn ddiogel i'r tenantiaid ac nid ydynt yn achosi pryderon diangen i breswylwyr lleol eraill.

In partnership with EUGO logo
Sut gallaf wneud cais am drwydded HMO?

Bydd angen i chi lawrlwytho'r ffurflen gais gywir a'i llenwi. Yna gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i nodi eich manylion a lanlwytho'r ffurflen gais wedi'i llenwi. Bydd angen i chi hefyd lanlwytho copïau o'r dogfennau ategol.

Dylech ddefnyddio ffurflen gais i adnewyddu trwydded dim ond os na fu unrhyw newidiadau i berchnogaeth a bod deiliad y drwydded yn aros yr un fath.  Fodd bynnag, os derbynnir eich ffurflen i adnewyddu trwydded ar ôl i'ch trwydded gyfredol ddod i ben, bydd y ffi gwneud cais am drwydded newydd yn berthnasol.

Pan fyddwch yn cyflwyno'r ffurflen ar-lein byddwch yn gallu talu'r swm llawn ar gyfer y drwydded neu dalu'r cyntaf o ddau randaliad.

Mae canllawiau ar ba ddogfennau y mae angen i chi eu darparu a sut i'w lanlwytho i'r ffurflen ar-lein ar gael ar y dudalen cyflwyno cais.

Cais am drwydded HMO Cais am drwydded HMO

Os nad ydych yn gallu llenwi'r ffurflen ar-lein, dylech e-bostio hph@abertawe.gov.uk yn gyntaf.

Ar ôl i chi gysylltu â ni gallwch naill ai lenwi'r ffurflen gais a'i e-bostio gyda'r dogfennau sydd eu hangen i hph@abertawe.gov.uk. Byddwn yn gwirio'r cais ac yn anfon dolen atoch er mwyn i chi dalu'r ffïoedd ar-lein.

Os na allwch gyflwyno eich ffurflen ar-lein, gallwch gyflwyno cais drwy'r post drwy anfon y ffurflen gais wedi'i llenwi, y tystysgrifau a siec i'r cyfeiriad ar y ffurflen. Fel arall gallwch gyflwyno'r ffurflen yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig lle bydd angen i chi dalu am y drwydded.  

Os yw'ch cais yn anghyflawn, byddwn yn cysylltu â chi ac yn egluro pam na allwn ei dderbyn.

Mae ein gwasanaeth Cynghori HMOau wedi'i ohirio ar hyn o bryd.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

Rydym yn archwilio'r holl HMOs cyn rhoi trwydded felly byddwn yn trefnu apwyntiad gyda'r ymgeisydd sy'n gwneud cais am drwydded ac yn disgwyl iddynt sicrhau eu bod nhw, neu reolwr yr eiddo, yn cwrdd â ni yn yr eiddo gydag allweddi fel y gallwn wneud archwiliad llawn o'r eiddo cyfan. Os oes gennych denantiaid, cofiwch roi gwybod iddynt am yr archwiliad.

Yn yr archwiliad, byddwn yn dweud pa waith, os o gwbl, y mae'n rhaid ei wneud ac yna byddwn yn ysgrifennu atoch gan anfon trwydded ddrafft gyda chynllun ac amserlen waith manwl. Gallai hyn gynnwys gwaith trwsio neu gynnal a chadw, gwaith diogelwch tân, diweddaru amwynderau ar gyfer coginio neu olchi, darparu tystysgrifau nwy, trydan, larymau neu ddiffoddiaduron tân, darparu cyfleusterau sbwriel ac ailgylchu neu roi gwybodaeth i breswylwyr. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi faint o amser sydd gennych i wneud y newidiadau neu'r atgyweiriadau hyn.

Byddwn hefyd yn anfon copi o'r drwydded ddrafft i unrhyw berson arall â diddordeb perchnogaeth yn yr eiddo, unrhyw reolwr ac unrhyw un â morgais ar yr eiddo (gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth hon yn gyflawn yn y datganiad ar y ffurflen gais). Bydd ganddynt bythefnos i gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau am y drwydded ddrafft.

Bydd pythefnos o ymgynghoriad ar eich trwydded ddrafft a byddwn yn trafod ac yn diwygio'r drwydded yn dilyn hyn os oes angen. Ar ôl i'r drwydded gael ei chyflwyno'n llawn byddwn yn archwilio'r eiddo eto i sicrhau bod y newidiadau neu'r atgyweiriadau a amlygwyd ar y drwydded ddrafft wedi'u gwneud.

Os nad yw'r holl waith wedi'i gwblhau erbyn y dyddiad penodol, ni fyddwch yn cydymffurfio ag amodau trwyddedu a gallech gael eich erlyn. Gallai hyn leihau cyfnod unrhyw drwydded a roddir i chi yn y dyfodol.

Rhoddir trwydded HMO i un person ac ni ellir ei throsglwyddo i unrhyw un arall. Os oes gennych drwydded am HMO ac rydych yn gwerthu'r eiddo, ni fydd eich trwydded yn ddilys a bydd yn rhaid i'r perchennog newydd gyflwyno cais am drwydded newydd. Os ydych yn newid trefniadau rheoli neu fanylion cyswllt, rhaid i chi ddweud wrthym o fewn saith niwrnod o'r newid.

Os ydych am gynyddu nifer y preswylwyr, rhaid i chi ysgrifennu atom a chyflwyno cais am amrywiad. Byddwn yn ystyried eich cais ac os bydd popeth yn foddhaol, byddwn yn rhoi trwydded amrywiad i chi.

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn trwyddedu f'eiddo?

Mae methu trwyddedu HMO yn drosedd y gall perchennog gael ei erlyn amdani a chael dirwy hyd at £20,000.

Lle mae perchnogion wedi'u herlyn, gall tenantiaid hawlio'n ôl unrhyw rent meant wedi'i dalu i'r landlord pan nad oedd yr eiddo wedi'I drwyddedu. I wneud hyn, mae'n rhaid i denantiaid wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am Orchymyn Ad-dalu Rhent. Ffoniwch nhw ar 02920 231687 neu e-bostiwch rpt@wales.gsi.gov.uk.

Mae methu cydymffurfio ag amodau trwyddedu hefyd yn drosedd a gall y ddirwy fod hyd at £5,000. Gellir tynnu trwyddedau'n ôl os yw landlord yn methu cydymffurfio ag amodau trwyddedu.

Mewn rhai achosion, os yw'r perchennog yn methu trwyddedu, caiff y cyngor wneud Gorchymyn Rheoli a chymryd dros reolaeth o'r eiddo. Ni fydd gan y perchennog fynediad i'r eiddo a chaiff y rhent ei gasglu gan y cyngor.

Sut gallaf gael gwybod a yw fy landlord wedi trwyddedu'r HMO lle dwi'n byw?

Mae manylion HMO â thrwydded yn cael eu cad war gofrestr gyhoeddus. Os nad yw'r eiddo rydych chi'n chwilio amdano yma, rhowch wybod i ni.

Mae amodau'r drwydded hefyd yn golygu y dylid arddangos copi o'r drwydded yn glir mewn safle amlwg yn yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 635600 neu e-bostiwch evh@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo neu sydd am apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio i dribiwnlys eiddo preswyl o fewn 28 niwrnod o wneud y penderfyniad.

Cais am drwydded HMO

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon i anfon eich cais am drwydded HMO wedi'i gwblhau atom a gwneud y taliad. Mae'r ffurflen hon yn addas ar gyfer ceisiadau am drwyddedau newydd, adnewyddu ac amrywio trwyddedau HMO.

Ffïoedd ar gyfer trwyddedau tai amlfeddiannaeth

Manylion y costau ar gyfer trwyddedau tai amlfeddiannaeth gan gynnwys ffïoedd ar gyfer deiliaid ychwanegol.

Cysylltu â'r adran tai a rentir yn breifat

Enw
Cysylltu â'r adran tai a rentir yn breifat
Rhif ffôn
01792 635600

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2024