Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Trysorau'r Tip - Siopa Ailddenfyddio

Atgyweirio, aildefnyddio, benthyg, prynu.

Sylwch nid oes angen archebu ymlaen llaw i ymweld â'r siop - dim ond os ewch ag eitemau i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet cyn neu ar ôl ymweld y siop y mae angen archebu o flaen llaw. Archebwch ar-lein yma cyn ymweld os felly.

Tip Treasures logo.
Mae'r holl eitemau a werthir yn ein siop wedi'u dargyfeirio o'r llif gwastraff a defnyddir yr incwm a gaiff ei greu i ariannu a datblygu'r prosiect ymhellach. Trwy werthu'r eitemau hyn i'w hailddefnyddio rydym yn lleihau swm y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi'n sylweddol, ac yn helpu i gefnogi cymunedau a phreswylwyr lleol sy'n elwa o werthu'r eitemau cost isel.

Os oes angen i chi gael gwared ar eitemau cartref sy'n rhy dda i'w tipio, cyflwynwch hwy i'r siop yn uniongyrchol neu ewch â hwy i unrhyw un o'n 5 canolfan ailgylchu gwastraff cartref.

Derbynnir taliadau arian parod a cherdyn.

Oriau agor

Oriau agor dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Dydd Llun 23 Rhagfyr: 9.30am - 4.30pm
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr: 9.30am - 12.00pm
Dydd Mercher 25 - dydd Gwener 27 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr: 9.30am - 4.30pm
Dydd Sul 29 Rhagfyr: 9.30am - 4.30pm
Dydd Llun 30 Rhagfyr: 9.30am - 4.30pm
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr: 9.30am - 4.30pm
Dydd Mercher 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Iau 2 Ionawr: 9.30am - 4.30pm

7 niwrnod yr wythnos, 9.30am - 4.30pm

Ar gau ar wyliau banc.

Mae'r eitemau sydd ar gael i'w gwerthu ac sy'n cael eu derbyn

Nwyddau trydanol

  • Setiau teledu sgrîn wastad 
  • Peiriannau chwarae cerddoriaeth 
  • Sugnwyr llwch 
  • Goleuadau 
  • Consolau gemau
  • Offer pŵer

Celfi

  • Byrddau a cadeiriau
  • Soffas a chadeiriau esmwyth 
  • Silffoedd
  • Cabinetau, cistiau a chyfarpar storio arall

Dillad

  • Dillad dynion, menywod a phlant
  • Cotiau a siacedi
  • Esgidiau 
  • Bagiau llaw ac ategolion

Nwyddau cartref

  • Celf wal a drychau
  • Llestri ac addurniadau
  • Bric a brac

Arall

  • DVDs, CDs a gemau cyfrifiadur
  • Teganau plant
  • Recordiau finyl
  • Cyfarpar gardd
  • Cyfarpar ymarfer corff a chwaraeon
  • Beiciau
  • Offerynnau cerdd

...a llawer mwy!

Sut i ddod o hyd i ni

Rydym yn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet


View Larger Map

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2024