Canolfannau ailgylchu
Gwybodaeth am bopeth y mae angen i chi ei wybod am ein canolfannau ailgylchu, gan gynnwys yr hyn y gellir ei ailgychu, rheolau'r ganolfan, y cerbydau a ganiateir, hawlenni a lleoliadau.
Mae pob safle ar agor 8.30am - 5.00pm, 7 niwrnod yr wythnos (ar gau o 1.00pm ar Noswyl Nadolig a thrwy'r dydd ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).
Mae manylion pob canolfan ailgylchu ar gael isod, gan gynnwys rhestr o ba eitemau y gellir eu hailgylchu ym mhob un.Os hoffech ailgylchu rhywbeth penodol, ond nad ydych yn siŵr ble i'w ailgylchu, cymerwch gip ar y dudalen yr hyn y gellir ei ailgylchu ym mhob safle.
Cyn taflu eitemau sydd wedi torri, meddyliwch - oes ffordd o'u hatgyweirio yn lle? Atgyweirio eitemau sydd wedi torri
Cynhelir gwiriadau cerdyn adnabod - byddwch yn barod i gyflwyno prawf eich bod yn breswylydd yn Abertawe pan ofynnir i chi wneud hynny.
Cadw slot yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet Cadw slot yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet