Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Taliadau Tai Dewisol

Mae Taliadau Tai Dewisol (TTD) yn daliadau ychwanegol i helpu gyda chostau rhent neu gostau tai. Maent ar gael i bobl sy'n derbyn naill ai Budd-dal Tai neu elfen dai o Gredyd Cynhwysol yn unig.

Mae gennym swm cyfyngedig o arian i wneud Taliad Tai Dewisol (TTD) felly gallwn ond wneud taliadau i'r rheini â'r angen mwyaf. 

Cyn cyflwyno cais

  • siaradwch â'ch landlord i weld os gallwch dalu rhent is
  • ceisiwch ddod o hyd i le rhatach i fyw
  • gofynnwch am gyngor gan sefydliadau eraill ynglŷn â sut y gallwch wella'ch sefyllfa. Gallwch ddefnyddio'n rhestr sefydliadau i helpu gyda hyn.

Sut i wneud cais

Os ydych yn cyflwyno cais am gymorth gyda'ch atebolrwydd rhent

Mae Taliadau Tai Dewisol yn cynorthwyo pobl y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i dalu eu rhent pan nad yw Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn talu'r swm llawn. Os ydych yn wynebu caledi ariannol sylweddol neu os yw eich tenantiaeth mewn perygl, efallai y gallwch gael Taliad Tai Dewisol i'ch helpu.

Ffurflen gais Taliadau Tai Dewisol (PDF) [59KB]

Os ydych yn cyflwyno cais am gymorth gyda rhent ymlaen llaw, blaendal neu gostau symud

Os ydych yn llwyddiannus yn y cais hwn, ni chewch eich ystyried fel arfer am TTD pellach ar gyfer treuliau symud yn y dyfodol. Fel arfer, ni fydd cais am TTD ar gyfer treuliau symud yn llwyddiannus os yw'ch cartref presennol yn addas i'ch gofynion ac os nad oes gennych amgylchiadau eithriadol ar gyfer symud neu os yw'n amlwg na fydd yr eiddo newydd yn fforddiadwy ac y gallai arwain at golli cartref/digartrefedd yn y dyfodol.

Ffurflen gais Taliadau Tai Dewisol ar gyfer treiliau symud (PDF) [62KB]

Pryd gallwn wneud Taliad Tai Dewisol

Dyma enghreifftiau o'r sefyllfaoedd lle gallwn dalu TTD:

  • os oes gennych dreuliau ychwanegol oherwydd amgylchiadau arbennig megis bod rhywun o'ch aelwyd yn yr ysbyty
  • os ydych yn profi caledi dros dro oherwydd colli swydd neu golli budd-dal wrth ddychwelyd i'r gwaith
  • os ydych mewn perygl o golli'ch cartref lle'r ydym yn meddwl y gallai TTD atal hyn
  • os cafodd eich dyraniad Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ei leihau oherwydd meini prawf maint y sector cymdeithasol (y dreth ystafell wely) ac mae angen cymorth arnoch gyda'r costau symud i eiddo llai
  • os oes angen cymorth ariannol pellach arnoch i dalu eich rhent ac os ydych chi'n agored i niwed e.e. os ydych yn gadael gofal neu wedi cael eich effeithio gan gam-drin yn y cartref

Pryd na allwn wneud taliad

Nid yw'r taliad ychwanegol hwn ar gael at y dibenion canlynol:

  • cymorth gyda Threth y Cyngor
  • ar gyfer dŵr, prydau, tanwydd neu unrhyw daliadau gwasanaeth anghymwys arall sydd wedi'u cynnwys yn eich rhent
  • talu am unrhyw ddiffyg mewn Budd-dal Tai oherwydd adennill unrhyw ordaliadau
  • talu rhent sy'n amlwg yn ormodol
  • talu cynnydd yn eich rhent oherwydd ôl-ddyledion rhent sy'n weddill
  • talu cost cosbau a gostyngiadau penodol mewn budd-daliadau e.e. cosb gwrth-dwyll
  • os nad yw eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys elfen tai

Ar ôl i chi wneud cais

  • os ydym yn penderfynu ein bod yn gallu gwneud taliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint gaiff ei dalu ac am faint o amser
  • os ydym yn penderfynu na allwn wneud taliad, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych y rhesymau dros ein penderfyniad
  • os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad. Rhaid i'r person a wnaeth gais am y TTD (neu ei gynrychiolydd)  wneud ei gais yn ysgrifenedig ac o fewn mis calendr o ddyddiad llythyr y penderfyniad

Telir TTD naill ai yn yr un ffordd â'ch Budd-dal Tai neu os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, drwy'r dull a ddewisoch yn eich cais.

Pethau i'w cofio

  • ni all TTD eich helpu gyda'ch Treth y Cyngor
  • cyflwynwch gais cyn gynted â'ch bod yn meddwl bod angen cymorth ychwanegol arnoch
  • rhowch gymaint o wybodaeth â phosib i'n helpu i ddeall pam mae eich amgylchiadau'n arbennig

Cwestiynau cyffredin am daliadau tai dewisol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am daliadau tai dewisol (TTD).
Close Dewis iaith