Tueddiadau Poblogaeth Diweddar
Dadansoddiad o newid demograffig tymor hwy yn Abertawe gan ddefnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn.
Rhwng pob cyfrifiad dengmlwyddol, cyhoeddir amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar bwynt canol y flwyddyn flaenorol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Cyfrifir yr amcangyfrifon gan ddefnyddio'r cyfrifiad fel meincnod, a chyfuno cofrestriadau geni a marwolaeth blynyddol dilynol ag amcangyfrifon llifoedd ymfudo mewnol (yn y DU) a rhyngwladol.
Rhwng 2013 a 2023, cynyddodd poblogaeth amcangyfrifedig Abertawe o 7,500 neu 3.1% (o 239,200 i 246,700). Mae nodyn briffio ar gael sy'n archwilio'r newid tymor hir i'r boblogaeth yn Abertawe'n fanylach. Newid Diweddar Ym Mhoblogaeth Abertawe (i 2023) (PDF, 1 MB)
Mae mwy o wybodaeth am yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gael ar y dudalen Poblogaeth. Mae'r dudalen we poblogaeth hefyd yn cynnwys dolenni i wybodaeth leol ychwanegol am boblogaeth a demograffeg, gan gynnwys: ystadegau cyfrifiadau; amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe; dwysedd poblogaeth; amcangyfrifon aelwydydd; a'r rhagamcaniadau poblogaeth ac aelwyd swyddogol diweddaraf.
Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch ystadegau poblogaeth a demograffeg yn Abertawe, cysylltwch â ni.