Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Twyll brechlyn: byddwch yn effro

Mae troseddwyr yn defnyddio'r brechlyn COVID-19 fel ffordd o dargedu'r cyhoedd drwy eu twyllo i roi arian parod neu fanylion ariannol. Maent yn anfon negeseuon testun sy'n edrych yn argyhoeddiadol sy'n dweud wrth bobl eu bod yn gymwys ar gyfer y brechlyn neu'n ffonio pobl yn uniongyrchol gan esgus eu bod yn gweithio i'r GIG, neu mewn fferyllfa leol.

Mae angen i bobl fod yn effro i'r gweithredoedd twyllodrus hyn:

Negeseuon testun

Gofynnir i bobl wasgu rhif ar eu bysellbad neu anfon neges destun i gadarnhau eu bod am dderbyn y brechlyn; mae gwneud hynny'n debygol o arwain at godi tâl ar eu bil ffôn a thwyllwyr yn casglu gwybodaeth bersonol i'w defnyddio eto.

Galwadau Ffôn

Mae dioddefwyr yn derbyn galwad ffôn gan alwr ffug sy'n cynnig y brechlyn am ffi neu'n gofyn am fanylion banc.

Gwefannau

Dolenni URL ffug i ffurflenni archebu brechlyn y GIG sy'n edrych yn argyhoeddiadol, mae'r rhain yn debyg i ffurflenni swyddogol y GIG a gallant gynnwys rhywfaint o wybodaeth bersonol eisoes; ar ddiwedd y ffurflen mae'n gofyn am eu manylion banc.

Yn bersonol

Mae twyllwyr yn galw'n ddirybudd yng nghartrefi dioddefwyr trwy esgus eu bod yn dod ar ran y GIG i roi'r brechlyn yn y fan a'r lle, yn gyfnewid am daliad arian parod.

Ni fydd y GIG:

  • BYTH yn gofyn am daliad - mae'r brechlyn am ddim
  • BYTH yn gofyn am eich manylion banc
  • BYTH yn galw'n heibio'ch cartref yn ddirybudd i roi'r brechlyn
  • BYTH yn gofyn i chi brofi'ch hunaniaeth trwy anfon copïau o ddogfennau personol fel eich pasbort.

Fel gweithredoedd twyllodrus eraill, mae'r un cyngor yn berthnasol:

  1. Heriwch - a allai fod yn ffug? Mae'n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau nad ydynt yn teimlo'n iawn. Ewch i Gov.uk i wneud yn siŵr fod y cais yn un go iawn.
  2. Peidiwch ag ymateb i negeseuon testun sy'n ceisio'ch annog i anfon arian, neu wybodaeth bersonol bwysig fel manylion banc neu gyfrineiriau.
  3. Defnyddiwch wefannau swyddogol y llywodraeth a chyfeiriwch at adrannau 'Cysylltu â Ni' o wefannau i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaeth.
  4. Heriwch alwyr dirybudd i'ch cartref: os oes angen i'r GIG gynnal ymweliadau byddant yn cael eu cytuno â chi'n uniongyrchol neu drwy ofalwyr, ni fyddant byth yn galw heibio'n ddirybudd.