Twyll budd-dal
Cewch wybod mwy am dwyll budd-dal a sut gallwch helpu i'w atal.
Sut gallaf roi gwybod am dwyll?
Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor
Os ydych yn credu fod rhywun yn cyflawni twyll Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwch adrodd amdano ar-lein. Gweler isod am y gwahanol fathau o dwyll budd-daliadau.
Mae'n rhaid i ni gael rheswm da dros ymchwilio i rhywun am dwyll budd-daliadau felly bydd y ffurflen yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw os nad ydych yn dymuno.
Twyll Budd-dal Tai a budd-daliadau eraill
Os ydych yn credu bod rhywun yn cyflawni twyll budd-dal tai neu dwyll budd-daliadau eraill gallwch roi gwybod amdano ar-lein i'r Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch wneud adroddiad yn ddienw - nid oes rhaid i chi roi eich enw na'ch manylion cyswllt oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.
Bydd yn ystyried yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu ac yn cysylltu â'r cyngor lle bo hynny'n berthnasol.
Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y person rydych yn rhoi gwybod amdano. Gallai hyn gynnwys:
- ei enw
- ei gyfeiriad
- y math o dwyll rydych yn credu y mae'n ei gyflawni.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi adrodd am rywun?
Byddwn yn edrych ar yr wybodaeth rydych yn ei rhoi ac os ydych wedi rhoi digon o wybodaeth byddwn yn gallu gwirio cais y person ond ni allwn ddweud canlyniad ein hymchwiliadau wrthych.
Weithiau ni fydd unrhyw gamau'n cael eu gweithredu. Efallai bod y person wedi datgan newid yn ei amgylchiadau ac nid yw ei fudd-dal yn cael ei effeithio ganddo.
Byddwn yn cymryd camau gweithredu os byddwn yn darganfod fod y person wedi bod yn twyllo. Gall camau gynnwys tynnu budd-daliadau oddi ar berson a'i erlyn yn y llys.