Toglo gwelededd dewislen symudol

Twyll cardiau banc

Roedd preswylydd o Abertawe gartref pan dderbyniodd alwad ffôn ar ei linell dir. Dywedodd llais gwrywaidd wrtho mai'r heddlu oedd yno a'i fod wedi bod yn destun gweithred dwyllodrus gyda swm o arian wedi'i dynnu o'i fanc.

Dywedodd y galwr wrtho fod ei rif pin wedi'i beryglu ar ddau gerdyn banc a rhoddodd ddau rif pin newydd iddo. Yn anffodus, credodd y dioddefwr y galwr a datgelodd ei rif pin ar gyfer ei gardiau banc ei hun. Gofynnodd y galwr iddo hefyd roi ei gardiau banc mewn amlen a'u rhoi ar garreg y drws i swyddogion eu casglu fel rhan o'r ymchwiliad.

Tua deng munud yn ddiweddarach, curodd dyn ei ddrws a gofynnodd am y cardiau banc. Roedd gan y preswylydd y rhagwelediad i sylweddoli mai gweithred dwyllodrus ydoedd a gwrthododd drosglwyddo'r cardiau gan ddweud wrth y dyn i fynd i ffwrdd.

Cofiwch na fyddai'r heddlu na'r banciau'n gofyn am y math hwn o wybodaeth. Os ydych chi'n poeni eich bod chi'n cael eich twyllo, rhowch yn ffôn i lawr a ffoniwch eich banc gan ddefnyddio rhif rydych chi'n ymddiried ynddo (ceisiwch edrych ar eich datganiad banc).

 

Daw'r rhybudd o dwyll hwn o fis Ebrill 2020.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023