Twyll ad-daliadau treth cerbyd y DVLA
Dywedir wrthym yn aml am e-byst, negeseuon testun a galwadau ffôn sy'n honni eu bod o'r DVLA. Mae gweithredoedd twyllodrus amrywiol wedi bod yn digwydd ers dros 4 blynedd. Maent yn cynnwys negeseuon testun sy'n honni na wnaed taliad ar dreth cerbyd neu bod ad-daliad am ordaliad yn aros. Mae'r gweithredoedd twyllodrus wedi'u cynllunio i'ch twyllo i anfon eich manylion banc neu daliad i'r twyllwyr.
Gall y negeseuon fod yn neges destun syml neu gallant gynnwys dolenni i wefan ffug sydd wedi'i i chreu i edrych fel gwasanaeth ar-lein y DVLA.
Nid yw'r DVLA yn anfon e-byst na negeseuon testun â dolenni i wefannau sy'n gofyn i chi gadarnhau eich manylion personol neu wybodaeth am daliad. Rydym yn cynghori unrhyw un sy'n derbyn y fath gais i beidio ag agor y ddolen ac i ddileu'r eitem.
Dangosir enghraifft o'r wybodaeth yn y lluniau hyn. Mae hyn yn cynnwys manylion cyfrif banc, dyddiad geni, enw morwynol eich mam a rhif YG. Gyda'r wybodaeth hon, gallai'r twyllwyr gael mynediad i'ch cyfrif banc neu ddefnyddio'ch hunaniaeth.
Mae gwasanaethau trwyddedau gyrru a threth cerbyd ar-lein yn adrannau trwyddedau gyrru a threth cerbyd GOV.UK (www.gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)).
Drwy ddefnyddio'r gweithrediadau trwyddedau gyrru neu dreth cerbyd ar-lein ar GOV.UK gallwch fod yn siŵr eich bod yn delio'n uniongyrchol â'r DVLA.
Ychwanegwyd y rhybudd hwn am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2017 ac fe'i diweddarwyd ym mis Medi 2019.