Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Manylion gweithredoedd twyllodrus sy'n ymwneud â COVID-19. Mae nifer o weithredoedd twyllodrus i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i ni gael gwybod am weithredoedd twyllodrus newydd.
Mae Safonau Masnach Abertawe yn rhybuddio pobl i fod yn arbennig o wyliadwrus rhag nifer o weithredoedd twyllodrus sydd ar waith ar hyn o bryd ac sy'n manteisio ar bryderon pobl ynghylch Coronafeirws.
Diweddariad 16 Chwefror 2022
Grantiau a chronfeydd cymorth
Sylwer bod cynnydd yn ddiweddar yn nifer y sgamiau sy'n ymwneud â COVID-19 lle mae troseddwyr yn cysylltu â busnesau/phobl dros y ffôn a thrwy e-bost gan ddweud wrthynt fod eu grant COVID wedi'i gymeradwyo ac yn gofyn am eu manylion personol i gwblhau'r cais.
Mae ein timau Cyllid wedi derbyn nifer o alwadau yn ddiweddar gan aelodau pryderus o'r cyhoedd y cysylltwyd â nhw o ffynhonnell anhysbys. Mae'r manylion hyn yn rhan o weithred droseddol ac unig fwriad y twyllwr a gysylltodd yw dwyn eich arian a'ch data.
Mae Cyngor Abertawe ar hyn o bryd yn gweithredu nifer o grantiau a chronfeydd cymorth COVID ar ran Llywodraeth Cymru.Dyma rai pwyntiau allweddol:
O bryd i'w gilydd bydd y cyngor yn anfon e-byst yn gwahodd ceisiadau gan aelodau'r cyhoedd neu fusnesau lle bo'n briodol gwneud hynny er mwyn sicrhau bod cymaint â phosib yn manteisio ar y cymorth ariannol yn ein hardal. Defnyddir cyfeiriad e-bost cyfreithlon abertawe.gov.uk neu lythyr gyda'n logo swyddogol i gysylltu a'r bobl hynny.
O bryd i'w gilydd bydd y cyngor yn ffonio aelodau o'r cyhoedd i ddweud wrthynt am wneud cais am grant ond byddem yn dweud wrthynt am wneud cais drwy ffurflen ar-lein. Ni fyddem yn gofyn am unrhyw fanylion personol. Fodd bynnag, os byddwch yn ein ffonio ac yn gofyn am gymorth wrth lenwi'r ffurflen, bydd yn rhaid i ni ofyn i chi am unrhyw fanylion personol sydd eu hangen i ni ddarparu'r cymorth hwnnw.
Os bydd aelod o'r cyhoedd yn derbyn galwad ffôn o ffynhonnell anhysbys ac yn pryderu nad yw'r cyswllt yn ddilys, dylent ddod â'r sgwrs i ben ac e-bostio budd-daliadau@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes unrhyw fusnes am fynegi pryder dylai e-bostio trethibusnes@abertawe.gov.uk.
Sgamiau CThEM
Mae Cyllid a Thollau EM yn ymwybodol o sgam galwad ffôn awtomataidd a fydd yn dweud wrthych fod CThEM yn cyflwyno achos cyfreithiol yn eich erbyn, ac i bwyso 1 i siarad â gweithiwr achos. Sgam yw hwn a dylech ddod â'r alwad i ben ar unwaith. Os ydych yn gwasgu 1, mae'n debyg y byddwch yn wynebu bil ffôn mawr.
Mae sgamiau eraill CThEM yn cynnwys derbyn credyd cynllun cymhorthdal incwm cyflogaeth neu gynnig ad-daliad treth mewn cysylltiad â phandemig COVID-19. Cofiwch, ni fydd CThEM byth yn anfon hysbysiadau drwy e-bost am ad-daliadau treth neu ad-daliadau ac ni fyddant byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol pan fyddant yn anfon negeseuon testun. Gellir cael rhagor o wybodaeth am CThEM ar eu gwefan.
Rhowch wybod i'ch teulu a'ch ffrindiau am y pwyntiau uchod fel y gallant gadw'n ddiogel ac osgoi cael eu twyllo. Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir i'r twyllwr yn cael ei ddefnyddio'n dwyllodrus. Yn anffodus, mae gan dwyllwyr y gallu i ffugio cyfeiriad e-bost dilys neu newid yr 'enw arddangos' i wneud iddo ymddangos yn ddilys felly mae angen i chi fod yn ymwybodol o hynny. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch ag ymateb a defnyddiwch y manylion cyswllt uchod.
Diweddariad 5 Hydref 2021
Mae nifer o weithredoedd twyllodrus i chi fod yn ymwybodol ohonynt o hyd. Os ydych yn poeni am neges destun, e-bost neu bost ar gyfryngau cymdeithasol, peidiwch â chlicio ar unrhyw un o'r dolenni a chysylltwch ag Action Fraud. Ni ddylech drosglwyddo unrhyw arian na manylion personol drwy'r negeseuon hyn.
Twyll pas COVID
Mae negeseuon yn cael eu hanfon sy'n dweud wrthych i gyflwyno cais am bas COVID ac yn eich hysbysu y gallech wynebu dirwy os nad ydych yn gwneud hynny.
Mae hwn yn weithred dwyllodrus. Mae'r negeseuon hyn yn cael eu hanfon mewn sawl fformat - gwiriwch yn ofalus unrhyw neges destun rydych yn ei derbyn mewn perthynas â COVID neu oddi wrth y GIG.
Gallwch gael gwybodaeth am basiau COVID swyddogol o wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r pasiau hyn am ddim.
Twyll taliad Llywodraeth y DU
Mae un weithred dwyllodrus sy'n honni ei fod yn dod o Gyngor Abertawe drwy wefan Llywodraeth y DU ac yn addo taliad os bydd pobl yn darparu manylion cerdyn, gan gynnwys eu rhif côd diogelwch.
Twyll yw hwn.Nid menter gan y cyngor ydyw. Peidiwch ag ymateb iddo.
Diweddariad 1 Mai 2020
Gweithredoedd twyllodrus eraill sy'n ymwneud â Coronafeirws
Dyma rai o'r gweithredoedd twyllodrus rydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw, ond sylwer bod troseddwyr o bob lliw a llun o'n cwmpas a gallant gysylltu â chi wrth y drws, dros y ffôn, drwy'r post neu ar-lein:
Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n cynnig gwellhad gwyrthiol - does dim ffordd o iacháu pobl o Coronafeirws ar hyn o bryd. Bwriad y driniaeth yw lliniaru'r symptomau nes i chi wella.
Gwasanaethau Diheintio'r Cartref.
Pobl yn dynwared gweithwyr gofal iechyd, gan honni eu bod yn cynnig 'profion cartref' ar gyfer Coronafeirws.
Mae e-byst sy'n dweud y gallwch gael ad-daliad ar drethi, biliau cyfleustodau neu debyg fel arfer yn ffug ac maent yn ceisio cael gafael ar eich manylion personol ac ariannol.
Mae llawer o gynhyrchion ffug ar gael i'w prynu ar-lein sy'n dweud y gallant eich amddiffyn rhag Coronafeirws. Dilynwch gyngor y llywodraeth ar amddiffyn eich hun a sicrhewch eich bod yn prynu unrhyw gynhyrchion amddiffynnol (fel hylif diheintio dwylo) oddi wrth gwmnïau dilys.
Mae rhaglenni ffônau symudol newydd sy'n honni eu bod yn rhoi diweddariadau i chi ar y feirws ond yn lle gwneud hynny, maen nhw'n cloi eich ffôn ac yn eich bygwth am arian.
Ni fydd eich banc na'r heddlu yn gofyn am eich manylion banc dros y ffôn.
Pobl yn cynnig gwneud eich siopa neu gasglu meddyginiaeth a gofyn am arian ymlaen llaw ac yna'n diflannu.
Dynwared swyddogion, gan gynnwys swyddogion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac asiantaethau'r llywodraeth.
E-byst gwasanaeth tanysgrifio a ffrydio yn gofyn i chi ddiweddaru'ch cyfrif neu'n gofyn am fanylion personol.
Awgrymiadau ar gyfer sut i osgoi gweithredoedd twyllodrus:
Cymerwch eich amser; peidiwch â rhuthro.
Os bydd rhywun yn honni ei fod yn cynrychioli elusen, gofynnwch iddo am ei gerdyn adnabod. Byddwch yn amheus o geisiadau am arian ymlaen llaw.
Peidiwch â thybio bod pawb yn onest. Mae'n iawn i chi wrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio'ch rhuthro neu'ch dychryn. Holwch deulu a ffrindiau cyn derbyn cynigion am gymorth os ydych yn ansicr.
Os ydych ar-lein, byddwch yn ymwybodol o newyddion ffug a defnyddiwch ffynonellau dibynadwy fel gwefannau www.gov.uk neu'r www.nhs.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn teipio'r cyfeiriadau wrth chwilio am bethau a pheidiwch â chlicio ar ddolenni mewn e-byst na negeseuon.
Prynwch nwyddau gan fanwerthwyr cyfreithlon yn unig a phwyllwch a meddyliwch cyn rhoi arian neu wybodaeth bersonol i unrhyw un.
Byddwch yn ymwybodol o bwy rydych chi'n delio ag ef - os oes angen help arnoch, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
Diogelwch eich gwybodaeth ariannol, yn enwedig wrth ymdrin â phobl nad ydych yn eu hadnabod. Peidiwch byth â rhoi eich cerdyn banc na'ch PIN i ddieithryn.
Byddwch yn amheus o geisiadau sy'n gofyn i chi ddiweddaru manylion eich cyfrif. Os bydd rhywun yn rhoi pwysau arnoch, mae'n annhebygol ei fod yn ddilys.