Tywydd garw - esbonio cau ysgolion
Yn ystod misoedd y gaeaf, gall tywydd garw effeithio ar Abertawe a'r cyffiniau. Gall hyn arwain at gau rhai ysgolion dros dro.
Pam mae ysgolion yn penderfynu cau weithiau
Y pennaeth sy'n gyfrifol am benderfynu cau ysgol, ar ôl cynnal asesiad risg sy'n seiliedig ar nifer o ffactorau. Rhaid gwneud y penderfyniad hwn heb wybod sut bydd y tywydd yn newid yn ystod y dydd.
Mae'r materion sy'n cael eu hystyried yn cynnwys a oes arlwyaeth ar gael, a yw gwasanaethau bysus yn gweithredu, a yw'n ddiogel i'r disgyblion/staff ac, os bydd y tywydd yn gwaethygu, a fydd modd i'r disgyblion ddychwelyd adref yn ddiogel.
Os bo modd, bydd yr ysgol yn parhau ar agor.
Er lles y disgyblion, os bydd angen cau ysgol oherwydd tywydd eithafol, byddwch yn cael eich hysbysu yn y ffyrdd canlynol:
- Bydd tudalen y rhestr o ysgolion sy'n cau yn arddangos yr wybodaeth ddiweddaraf o 7.00am (cyn gynted ag yr ydym yn derbyn cadarnhad gan y penaethiaid);
- Gorsafoedd radio lleol: The Wave a Sain Abertawe;
- Gorsafoedd radio cenedlaethol: Radio Wales a Radio Cymru;
- Hefyd gallwch ddilyn unrhyw ffrwd negeseuon fyw a ddarparwn ar Facebook neu Twitter
- Gallwch hefyd wirio gwefan neu ffrwd Twitter eich ysgol, os oes un ganddi - ceir manylion eich ysgol trwy ddilyn y ddolen hon: Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol
Rydym yn ymwybodol fod rhai wedi profi trafferthion wrth geisio cael mynediad i'r wefan hon yn ystod y trafferthion diweddar. Roedd hyn o ganlyniad i'r nifer fawr o bobl a oedd yn ceisio ymweld a'r wefan ar yr un pryd. Diolchaf i chi am eich amynedd, ac os digwyddir hyn eto, cofiwch fod yr ysgolion yn cysylltu yn uniongyrchol gyda'r Gorsafoedd Radio Lleol os gwneir penderfyniad i gau am y dydd.