Us Girls
Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.


Mae gweithdai hefyd yn gyffredin yn y gwersylloedd a bydd cyfle yno i chi drafod eich barn a'ch pryderon ynghylch gwahanol bynciau fel cyfryngau cymdeithasol, hyder a hunan-barch, iechyd emosiynol, modelau rôl a mwy. Efallai yr hoffech ddod yn wirfoddolwr Us Girls neu'n arweinydd ifanc ac os felly, byddwn yn eich cefnogi ac yn rhoi'r holl bethau angenrheidiol i chi gyflawni'r rôl hon yn hyderus.
Os hoffech ddod i wersyll Us Girls, cwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar ein gweithgareddau newydd, cadwch lygad ar ein Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Twitter (Yn agor ffenestr newydd) am fanylion ein gwersylloedd Us Girls sydd ar ddod a gwybodaeth am sut i gadw lle.
Gweithgareddau hanner tymor y Us Girls
Mae ein Gwersyll Us Girls arobryn yn ôl! Ymunwch â ni yr hanner tymor hwn yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan am ddiwrnod difyr llawn gweithgareddau. Cynhelir y Gwersyll ddydd Mawrth 30 Mai o 10.00am tan 3.00pm. Bydd y drysau'n agor am 9.30am er mwyn cofrestru. Bydd angen pecyn cinio a gwisg nofio. I gadw lle ffoniwch Ganolfan Hamdden Pen-lan ar 01792 588079. Bydd lleoedd yn llenwi'n gyflym, y pris yw £7.50 y person.