Toglo gwelededd dewislen symudol

Waliau cynnal

Os ydych chi'n adeiladu wal sy'n cynnal tir dros 1.5m mewn uchder, bydd angen i chi gyflwyno cais. Mae hyn yn berthnasol i waliau cynnal newydd neu estyn un sydd eisoes yn bodoli.

Wal gynnal yw wal sy'n cynnal tir neu ddeunydd tebyg ar un ochr. Mae hyn yn golygu y bydd y lefel uchaf o leiaf 1.5m yn uwch ar un ochr o'r wal na'r llall.

Sut mae gwneud cais

Mae'n rhaid i chi gyflwyno cynllun safle ar raddfa y mae'n rhaid iddo ddangos lleoliad y wal ac unrhyw ffiniau neu adeiladau cyffiniol. Dylech hefyd gynnwys manylion y gwaith adeiladu a'r deunyddiau a fydd yn cael eu defnyddio a'r holl waith cyfrifo.

Dylech gyflwyno'r ffurflen gais ar gyfer wal gynnal ynghyd â chynlluniau a dogfennau. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Gallwch wneud cais drwy wneud un o'r canlynol:

  1. e-bostiwch eich cais wedi'i gwblhau i rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk.
  2. ffoniwch ni ar 01792 635636 lle gallwn lenwi ffurflen ar eich rhan.
  3. anfonwch eich cais wedi'i gwblhau i Reoli Adeiladu Abertawe neu gallwch ei gyflwyno i'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig.

Caniatâd cynllunio

Cofiwch, gall hefyd fod angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith. Os felly, bydd angen i chi wneud cais a derbyn caniatâd cyn i chi ddechrau ar y gwaith. Mae ffurflenni cais a gwybodaeth ar gael ar ein tudalennau Cynllunio a rheoli adeiladu.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mai 2021