Addysg ddewisol yn y cartref - y cefndir cyfreithiol
Mae gan rieni'r hawl i addysgu eu plentyn gartref.
Mae Cyngor Abertawe'n cydnabod bod gan rieni hawl i addysgu eu plant gartref ar yr amod eu bod yn cyflawni gofynion Adran 7 Deddf Addysg 1996, sy'n rhoi dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i beri iddo dderbyn addysg amser llawn effeithlon sy'n addas ar gyfer ei oedran, ei allu a'i ddawn, ac ar gyfer unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo, naill ai drwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall.
Pan fydd plentyn yn cael ei addysgu gartref, penderfyniad y rhiant yw beth mae'r plentyn yn ei ddysgu a sut. Gall addysg gael ei darparu mewn amrywiaeth o ffyrdd: gan y rhieni, gan aelodau o'r teulu, grwpiau bach o deuluoedd sy'n addysgu gartref neu diwtoriaid preifat. Eich cyfrifoldeb fel rhiant yw sicrhau bod yr hyn a addysgir yn helpu eich plentyn i ddysgu. Ystyrir bod addysg yn effeithlon ac yn addas os yw'n caniatáu i blentyn gyflawni ei botensial ac os yw'n ei baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn dderbyn addysg o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn ysgol pan fydd yn 16 oed.
Nid yw'r ALl yn gyfrifol am ddarparu Addysg Ddewisol yn y Cartref neu dan unrhyw ymrwymiad statudol i'w chefnogi. Fodd bynnag, o dan Adran 436A o Ddeddf Addysg 1996, mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn derbyn addysg addas.
Tynnu enw disgybl oddi ar y gofrestr derbyniadau ysgolion
Pan fydd plentyn wedi'i gofrestru yn yr ysgol ac mae'r rhiant yn dymuno rhoi addysg gartref iddo, mae'n rhaid i'r rhiant ysgrifennu i'r ysgol a gofyn i dynnu enw ei blentyn oddi ar gofrestr yr ysgol. Bydd yr ysgol yn tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr derbyniadau a rhaid iddi roi enw a chyfeiriad y plentyn i'r Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref o fewn 10 niwrnod ysgol yn dilyn dyddiad tynnu'r enw.
Bydd y Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yn anfon e-bost cydnabyddiaeth at y rhiant sy'n cadarnhau bod enw'r plentyn wedi'i dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol o dan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010.
Os nad yw rhiant yn anfon y plentyn i'r ysgol ac nid yw'n dadgofrestru'r plentyn yn gywir, yna gellid ei erlyn o dan Adran 444 (1) (1A) Deddf Addysg 1996 a gellid hefyd ystyried y plentyn fel: plentyn ar goll o'r system addysg.
Os yw eich plentyn o oedran cyn ysgol (yn iau na 5 oed), nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw beth. Fodd bynnag, os nad ydych yn bwriadu anfon eich plentyn i'r ysgol ar ôl iddo gyrraedd oedran ysgol gorfodol, byddem yn gwerthfawrogi cael gwybod am eich bwriad i barhau ag addysg yn y cartref heb gofrestru mewn unrhyw ysgol.
Er mwyn cadw cofnodion cywir, byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i ni am hyn drwy e-bostio: electivehomeeducation@abertawe.gov.uk (bydd hyn yn atal y plentyn rhag cael ei ystyried yn blentyn coll).
Gweithio gydag addysgwyr cartref
Bydd yr ALl yn ceisio meithrin perthnasoedd effeithiol ag addysgwyr cartref er mwyn diogelu diddordeb addysgol a lles plant a phobl ifanc.
Ar gyfer rhieni sy'n addysgu yn y cartref neu sy'n ystyried addysgu yn y cartref, byddwn yn darparu enw cyswllt o'r ALl sy'n gyfarwydd â pholisi ac arfer addysg yn y cartref ac sydd â dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol ac amrywiaeth o athronyddiaethau addysgol.