Gwasanaeth ymchwil llyfrgell
Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil i'r rheini nad ydynt yn gallu ymweld â'r Llyfrgell Ganolog yn bersonol, neu'r rheini y gall fod angen cefnogaeth mwy arbenigol arnynt.
Cyn i chi wneud cais am y gwasanaeth hwn e-bostiwch ni yn llinelllyfrgelloedd@abertawe.gov.uk a byddwn yn rhoi gwybod a allwn eich helpu. Gallwn wirio adnoddau a gedwir yn y llyfrgell neu sydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein yn unig.
Unwaith y byddwch wedi gwirio gyda ni, gallwch gwblhau'r ffurflen isod a thalu ar gyfer y gwaith ymchwil. Byddwch yn syml ac yn benodol yn eich cais. Os oes angen mwy nag un darn o wybodaeth arnoch, gadewch i ni wybod p'un sydd bwysicaf er mwyn i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud y gwaith ymchwil hwnnw yn ystod yr amser rydych yn talu amdano.
I unigolion preifat, codir tâl o £35 yr awr am y gwasanaeth hwn (£17.50 am ymchwiliad byr o hanner awr) sy'n cynnwys pris postio ac unrhyw lungopïau neu argraffiadau perthnasol. Rhaid talu wrth wneud cais am yr ymchwil. Os na fydd canlyniadau i'ch ymchwiliad, ni allwn ad-dalu unrhyw ran o'r ffi hon.
Sylwer bod holl gyfyngiadau hawlfraint safonol yn berthnasol.
Gwneud cais a thalu am ymchwil llyfrgell ar-lein Gwneud cais a thalu am ymchwil llyfrgell ar-lein