Polisi Trwyddedu HMO 2025
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn adolygu ei Bolisi Trwyddedu HMO gyda'r bwriad o fabwysiadu polisi newydd ar gyfer 2025. Byddai hyn yn cynnwys adnewyddu'r cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol ar gyfer wardiau'r Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y polisi bellach wedi dod i ben. Diolch os ydych chi wedi rhoi'ch adborth sy'n werthfawr i ni wrth ystyried y fersiwn derfynol.
Gallwch ddarllen y polisi arfaethedig, sydd wedi'i ddiwygio o ganlyniad i ymatebion yr ymgynghoriad a'r atodiadau yn yr adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.
Bydd y polisi'n mynd gerbron y cyngor ar 2 Hydref 2025 gyda'r bwriad y bydd yn dod i rym o 14 Chwefror 2026. Tan hynny, bydd y polisi presennol yn berthnasol.