Sut gallaf ymuno â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)?
Gall unigolion gael eu hatgyfeirio gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys practis, dietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig neu therapyddion galwedigaethol.
![NERS Family (IS)](/image/1587/NERS-Family-IS/gi-responsive__100.jpg?m=1624453744653)
- Cysylltwch â gweithiwr iechyd proffesiynol i gael rhagor o wybodaeth ac i drafod y cynllun atgyfeirio. Yn seiliedig ar eich anghenion a'ch gofynion, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cwblhau ffurflen atgyfeirio ymarfer corff a ffurflen ganiatâd.
- Caiff eich manylion eu trosglwyddo i un o'n hyfforddwyr atgyfeirio ymarfer corff.
- Bydd aelod o'r tîm atgyfeirio'n eich gwahodd i sesiwn yn y lleoliad sydd fwyaf cyfleus i chi. Bydd y sesiwn gyntaf yn cynnwys taith o gyfleusterau'r ganolfan hamdden a throsolwg byr o'r cynllun.
- Gofynnir i chi ddod i gyfarfod ychwanegol a fydd yn gyfarfod un i un neu grŵp. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys asesiad iechyd (gwiriadau pwysedd gwaed a phwysau).
Caiff y rhaglen ei haddasu ar gyfer eich anghenion a'ch gofynion, gan eich helpu i gyflawni'r nod/canlyniadau terfynol.
Pwy sy'n gallu cael ei gyfeirio i'r cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff?
Cleifion:
- sydd dros 16 oed
- nad ydynt yn weddol weithgar
- sydd ag iechyd gwael oherwydd oedran neu anweithgarwch
- sydd â phwysau gwaed uwchsydd â phroblemau rheoli pwysau
- sydd â diabetes a reolir
- sydd â cholesterol uchel
- sydd â hanes teuluol o glefyd y galon/diabetes
- sydd wedi'u cyfeirio o gynlluniau adsefydlu cardiaidd (cyfnod iv)
- sy'n dioddef gofid, iselder neu straen ysgafn
- sydd mewn perygl o gael osteoporosis
- sy'n dioddef crydcymalau (ysgafn)
- sydd â symudedd gwael
- sy'n dioddef poen gyhyrysgerbydol gan gynnwys poen yn y cefn
- sy'n dioddef clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint - ysgafn/cymedrol a reolir yn dda (asthma, broncitis, emffysema)
- sydd â sglerosis ymledol
- sy'n smygusy'n dioddef
- blinder cronig