Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawlen parcio ar gyfer Ymwelwyr ar eu Gwyliau

Gall ymwelwyr sy'n byw y tu allan i Abertawe fel arfer ac a fydd yn aros yn yr ardal ddefnyddio'r hawlen barcio hon i barcio mewn cilfach parcio i breswylwyr pan fyddant yma.

Gellir defnyddio'r hawlen hon ar gyfer pobl sy'n rhentu eiddo ar gyfer gwyliau (tai masnachol) neu ar gyfer unrhyw un sy'n ymweld â theulu neu ffrindiau.

  • RHAID i berchennog neu asiant yr eiddo wneud cais am yr hawlen hon, nid y person sy'n ymweld â'r eiddo. 
  • Mae angen talu ar adeg cyflwyno'r cais. Caniatewch 3 diwrnod gwaith i brosesu'ch cais.
  • Un drwydded ymwelwyr ar eu gwyliau yn unig y gellir ei rhoi ar gyfer cyfeiriad ar un adeg, ond nid oes cyfyngiad ar faint o hawlenni o'r math hwn y gellir eu rhoi yn olynol. 
  • Mae'r hawlen rithwir yn ddilys am wythnos ac yn berthnasol ar gyfer y stryd a enwir yn unig.
  • Codir tâl o £25.00 yr wythnos am bob hawlen (nid oes unrhyw ostyngiad yn y pris os ydych yn aros am lai nag wythnos). Sylwer taw ffi na ellir ei had-dalu yw hon. 
  • Mae angen awdurdodiad ar gyfer yr hawlen rithwir ac unwaith y caiff ei chymeradwyo, anfonir e-bost cadarnhau atoch. 
  • Rhaid bod yr ymwelwyr yn byw y tu allan i ardal Abertawe fel arfer. 
  • Gallwch gyflwyno cais am hyd at bythefnos ar unrhyw adeg.

Tystiolaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud cais am Hawlen Parcio ar gyfer Ymwelwyr

  1. Bil cyfleustodau neu fil Treth y Cyngor - mae'n rhaid iddo ddangos y cyfeiriad yn Abertawe a bod o fewn dyddiad.

Cyflwyno cais am hawlen ymwelydd gwyliau (MiPermit) Cyflwyno cais am hawlen ymwelydd gwyliau (MiPermit)

Close Dewis iaith