Trwydded ymwelydd teuluol
Os ydych yn berthynas person y mae angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth arno oherwydd salwch neu oedran, gallwch wneud cais am drwydded i barcio yn y lleoedd parcio i breswylwyr yn ei stryd.
Cost: £120 y flwyddyn, yn daladwy ar adeg cyflwyno'r cais. Yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad cyflwyno.
- Mae trwyddedau'n caniatáu parcio ar y stryd lle mae'r person sy'n derbyn gofal yn byw
- Os bydd dwy drwydded parcio preswylydd eisoes wedi cael eu cyflwyno ar gyfer yr eiddo, nid oes modd defnyddio trwydded parcio ymwelydd teuluol
- Dyrennir un drwydded parcio ymwelydd teuluol yn unig fesul aelwyd - os cymeradwyir y drwydded, gellir diweddaru rhif cofrestru'r cerbyd gan ddefnyddio MiPermit os oes angen defnyddio cerbyd arall i ymweld â'r unigolyn sy'n derbyn gofal
- Un rhif cofrestru cerbyd yn unig fydd yn weithredol ar y drwydded parcio ymwelydd teuluol ar unrhyw adeg
Tystiolaeth sydd ei hangen i wneud cais am hawlen barcio ar gyfer ymwelydd teuluol
Bydd angen i chi lanlwytho UN o'r canlynol gyda'ch cais:
- Llythyr oddi wrth feddyg y person y mae angen cefnogaeth/gofal arno, sy'n cadarnhau'r angen am gefnogaeth a gofal sylweddol - gofynnwch i'r meddyg lenwi'r ffurflen ganlynol:
Hawlen Barcio i Ymwelydd Teuluol - Cadarnhad o gefnogaeth gan feddyg (Word doc, 64 KB)
NEU - Fathodyn Glas, os yw'r person y mae angen gofal ychwanegol arno yn meddu ar un.
Os nad oes gennych gyfrif MiPermit eisoes, bydd angen i chi gofrestru am un cyn gwneud cais am hawlen drwy fynd i'r ddolen isod.
Gwybodaeth ychwanegol
- Gall gymryd hyd at bum niwrnod gwaith i wirio a phrosesu ceisiadau
- Caiff cadarnhad ei anfon drwy e-bost unwaith i'r drwydded gael ei chyflwyno
- Ni chaniateir i chi barcio yn y gilfach i breswylwyr y gwnaed cais amdani nes eich bod yn derbyn eich hawlen ddigidol
- Nid yw trwydded parcio ymwelydd teuluol yn sicrhau cilfach i breswylwyr
- Mae trwyddedau parcio ymwelydd teuluol yn ddigidol; ni chaiff trwydded bapur ei chyflwyno
- Ni ellir ad-dalu'r drwydded, heblaw am mewn amgylchiadau penodol megis marwolaeth deiliad y drwydded neu'r person sy'n derbyn gofal neu gefnogaeth
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 06 Ionawr 2025