Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Cynhelir digwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas mewn lleoliad gwahanol - St David's Place, ddydd Sadwrn, 25 Hydref 2025.
Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 25 Hydref 2025 yn St David's Place!
Paratowch i gael blas ar fod yn wyddonydd gwallgof yn y digwyddiad bwganllyd a gynhelir ddydd Sadwrn 25 Hydref o 11am - 4pm yn St David's Place Abertawe! Rydym yn troi St David's Place yn labordy hwyl arswydus, gydag adloniant ar thema Calan Gaeaf, paentio wynebau a sioeau byw gan ysgolion dawns Abertawe.
Gwisgwch lan, ymunwch â ni a pharatowch i gael amser arswydus o anhygoel!
Cynnig Gofal Plant Cymru - prif bartner cefnogi Ysbrydion yn y Ddinas
Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 i 4 oed.
Oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? Dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun gofal plant hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru'n ceisio lleihau'r baich o dalu costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych wedi'i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i'ch teulu.
Mae'r cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu'n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu hyfforddiant, ond rydych yn pryderu am gostau gofal plant, gallai'r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth. Peidiwch â cholli'ch cyfran chi o'r cyllid gofal plant.