Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - llythyr penderfyniad

Cynnig i ad-drefnu ysgolion

Annwyl Riant/Ofalwr,

Mewn perthynas â gohebiaeth flaenorol,  sylwer, yn dilyn cyfnod o Hysbysiad Statudol, cymeradwywyd y cynnig i uno Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn ar safleoedd ysgol presennol o 1 Medi 2025 ac adleoli i ysgol newydd a adeiladwyd i'r diben ar 1 Ebrill 2028 gan y Cabinet ar 18 Ebrill 2024. Mae'r rheswm dros y penderfyniad wedi'i amlinellu fel a ganlyn:   

  • Mae'n gwella ansawdd a safonau addysg
  • Mae'n cefnogi'r galw a ragwelir am leoedd ar gyfer y rhai ag anghenion cymhleth
  • Mae'n darparu darpariaeth gost-effeithiol
  • Mae'n gwella hygyrchedd ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr agenda gydraddoldeb ar gyfer ein disgyblion mwyaf agored i niwed
  • Mae'n cynnig effaith gadarnhaol ar yr holl wasanaethau eraill a ddarperir yn yr ardal ar gyfer disgyblion ag anableddau a/neu anghenion dysgu ychwanegol
  • Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau ac mae proses y cynnig wedi'i chynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion

Ceir rhagor o wybodaeth sy'n berthnasol i'r cynnig hwn yn Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe

Yn gywir
 
Helen Morgan-Rees
Cyfarwyddwr Addysg

Cynnig i ad-drefnu ysgolion - Llythyr penderfyniad (Word doc) [523KB]