Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Priodasau a Phartneriaethau Sifil yn y Ganolfan Ddinesig

Mae'r Ganolfan Ddinesig ar y promenâd glan môr gyda golygfeydd godidog dros Fae anhygoel Abertawe.

Y tu allan i'r ystafelloedd priodas mae gennym ardd gyda chwrt a deildy priodas ac mae ein patio ar glawntiau yn edrych dros y traeth. Maent yn darparu cefndir gwych ar gyfer eich ffotograffau ar ôl eich seremoni.

Mae lle i hyd at 55 o bobl yn Ystafelloedd Seremoni Bae Abertawe. Mae system CD yno ac mae croeso i chi ddod â cherddoriaeth o'ch dewis i bersonoli'ch seremoni.

Ni all priodas sifil/seremoni partneriaeth sifil gael unrhyw gynnwys crefyddol. Gallwch ychwanegu cyffyrddiadau unigol fel cerddoriaeth anghrefyddol a darlleniadau i'ch seremoni.

Mae hefyd gennym Swyddfa Gofrestru statudol i'r cyplau hynny sydd am gwblhau'r elfennau cyfreithiol o seremoni briodas/partneriaeth sifil yn unig. Ystafell fach yw hon lle y bydd cyplau a dau dyst yn unig yn mynd iddi.

Trefnu eich seremoni

Mae'r ystafelloedd hyn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn y bore a'r prynhawn a boreau Sadwrn. Mae'r Swyddfa Gofrestru statudol ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau yn unig. Gellir cymryd archebion dros dro hyd at ddwy flynedd cyn eich seremoni dros y ffôn ar 01792 636188.

Sylwer na chaiff eich trefniadau eu cadarnhau'n derfynol nes i chi gyflwyno'ch hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil o fewn yr amserlenni statudol.