Y 100 niwrnod cyntaf - atyniadau
Cyfle olaf i fwynhau mynd ar fws am ddim yr Ŵyl Banc hon
Bydd miloedd o breswylwyr yn cael y cyfle olaf i fwynhau gwasanaethau bysus am ddim ar draws Abertawe y penwythnos hwn er mwyn gwneud yn fawr o dywydd braf Gŵyl y Banc.
Bythefnos yn unig sydd ar ôl i bobl sy'n dwlu ar ffitrwydd a chodi arian i elusennau gyflwyno'u ceisiadau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral eleni.
Eich cyfle olaf i gyflwyno cais ar gyfer y ras flynyddol, a gynhelir ddydd Sul 18 Medi, yw 31 Awst.
Troeon yn caniatáu i bobl gamu yn ôl i'r gorffennol!
Rhoddir bywyd newydd i hanes cyfoethog hen berfeddwlad ddiwydiannol Abertawe - gyda chyfres o droeon tywys am ddim.
Globau Abertawe'n cael eu cyflwyno yr wythnos hon
O'r wythnos hon gall pobl Abertawe fynd ar daith ddarganfod ar hyd llwybr celf gyhoeddus newydd sy'n ysgogi'r meddwl.
Ymwelwyr â'r llyfrgell yn cael mynd ar daith uwch-dechnoleg yn ôl mewn amser
Bydd ymwelwyr â Llyfrgell Ganolog Abertawe'n mwynhau cipolwg rhyfeddol ar orffennol y ddinas yr wythnos hon - gydag arddull uwch-dechnoleg newydd o adrodd straeon.
Dinasyddion a chefnogwyr yn cael eu canmol am gefnogi miloedd o athletwyr
Roedd miloedd o breswylwyr Abertawe a bro Gŵyr wedi cefnogi a mwynhau penwythnos penigamp o chwaraeon.
Alistair Brownlee ymhlith y sêr a fydd yn cymryd rhan mewn penwythnos mawr o chwaraeon yn Abertawe
Bydd rhai o dreiathletwyr a pharadreiathletwyr gorau Prydain yn arwain y ffordd wrth i Abertawe gynnal penwythnos o chwaraeon rhyngwladol o fri.
Digwyddiad chwaraeon arbennig yn y ddinas i ddenu miloedd o ymwelwyr newydd
Pan fydd Nic Beggs yn plymio i mewn i Ddoc Tywysog Cymru i ddechrau ei dreiathlon IRONMAN 70.3 Abertawe drwy nofio am 1.2 milltir, caiff ei gefnogi gan o leiaf saith perthynas agos.
Staff y llyfrgell yn helpu i ddod â straeon Abertawe'n fyw mewn ffordd hollol newydd
Mae staff Llyfrgell Abertawe'n flaenllaw wrth gyflwyno profiad adrodd straeon unigryw newydd yn y ddinas y mis hwn.
Athletwyr de Cymru yn barod ar gyfer wythnos fawr o chwaraeon
Mae athletwyr o Abertawe a rhannau eraill o dde Cymru wrthi'n paratoi ar gyfer wythnos wych o chwaraeon yn y ddinas.
Haf o hwyl y ddinas yn mynd rhagddo
Mae haf o hwyl wedi cychwyn yn Abertawe gyda gweithgareddau i gadw plant a phobl ifanc yn heini, yn iach ac yn hapus!
Penwythnos o gerddoriaeth i barhau â haf gwych o adloniant
Bydd haf anhygoel o adloniant Abertawe yn parhau gyda phenwythnos gwych o gerddoriaeth o'r radd flaenaf.
Cynlluniau wedi'u cyflwyno ar gyfer pontŵn ar afon Tawe
Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno i osod pontŵn i gychod ar afon Tawe Abertawe.
Llawer i'w wneud yn y ddinas ar gyfer Haf o Hwyl
Mae tua 100 o brosiectau gwahanol a fydd yn helpu i gadw plant a phobl ifanc yn heini, yn iach ac yn hapus trwy gydol yr haf yn cael eu cynnal ar draws Abertawe.
Gwirfoddolwyr y ddinas yn helpu digwyddiad i dynnu sylw byd-eang at Abertawe
Bydd mwy na 500 o wirfoddolwyr yn ceisio helpu digwyddiad treiathlon IRONMAN 70.3 cyntaf Abertawe fod yn un o'r goreuon yng nghalendr byd-eang disglair y brand.
Mis i fynd nes y bydd globau Abertawe'n cael eu cyflwyno
Mae pobl Abertawe ar fin mynd ar daith ddarganfod ar hyd llwybr celf gyhoeddus sy'n archwilio'u hanes cyffredin - a sut y gall pob un ohonom helpu i wneud cyfiawnder hiliol yn realiti.
Tirnod newydd yn dangos sut mae amserau'n newid er gwell
Mae un o gynlluniau adfywio allweddol Abertawe wedi dathlu moment nodedig.
Haf o hwyl gwych ar ddod yn Abertawe
Disgwylir i haf o hwyl gwych Abertawe barhau dros yr wythnosau nesaf yn dilyn llwyddiant aruthrol Sioe Awyr Cymru.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 25 Hydref 2022