Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - hawliau a chyfrifoldebau rhieni

Mae'r gyfraith yn datgan bod dyletswydd ar bob rhiant i sicrhau bod ei blentyn yn cael addysg effeithlon, amser llawn sy'n addas i'w oedran, ei allu a'i ddawn, ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddo naill ai drwy fynychu'r ysgol yn rheolaidd neu fel arall. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ysgol ddarparu addysg eu plentyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ysgol ddarparu addysg eu plentyn. O bryd i'w gilydd, mae'n well gan rieni drefnu addysg eu plentyn mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol. (Adran 7, Deddf Addysg 1996).

Pan fydd plentyn yn cael ei addysgu gartref, penderfyniad y rhiant yw beth mae'r plentyn yn ei ddysgu a sut. Gall addysg gael ei darparu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan y rhieni, gan aelodau o'r teulu, grwpiau bach o deuluoedd sy'n addysgu gartref neu diwtoriaid preifat. Eich cyfrifoldeb fel rhiant yw sicrhau bod yr hyn a addysgir yn helpu eich plentyn i ddysgu. Ystyrir bod addysg yn effeithlon ac yn addas os yw'n caniatáu i blentyn gyflawni ei botensial ac os yw'n ei baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Pan fydd plentyn wedi'i gofrestru yn yr ysgol ac mae'r rhiant yn dymuno'i addysgu yn y cartref, mae'n rhaid i'r rhiant ysgrifennu i'r ysgol i ofyn iddynt dynnu enw ei blentyn oddi ar gofrestr yr ysgol. Bydd yr ysgol yn tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr derbyniadau a rhaid iddi roi enw a chyfeiriad y plentyn i'r ALl o fewn 10 niwrnod ysgol yn dilyn dyddiad tynnu'r enw.

Os yw eich plentyn o oedran cyn ysgol (yn iau na 5 oed), nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw beth. Fodd bynnag, os nad ydych yn bwriadu anfon eich plentyn i'r ysgol ar ôl iddo gyrraedd oedran ysgol gorfodol, byddem yn gwerthfawrogi cael gwybod am eich bwriad i barhau ag addysg yn y cartref heb gofrestru mewn unrhyw ysgol.

Er mwyn cadw cofnodion cywir, byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i ni am hyn drwy e-bostio: electivehomeeducation@abertawe.gov.uk (bydd hyn yn atal y plentyn rhag cael ei ystyried yn blentyn coll).

Felly beth yw nodweddion awgrymedig addysg addas ac effeithlon?

Mae sefyllfa'r awdurdod lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref yn unol ag un Llywodraeth Cymru a CCUHP sef mai nod addysg addas yw sicrhau bod plentyn yn gallu datblygu'r sgiliau i gymryd rhan mewn cymdeithas a gweithredu ynddi.

Yn achos Harrison & Harrison v Stevenson, diffiniodd y barnwr ganlyniadau addysg addas fel a ganlyn:

'In our judgement education demands at least an element of supervision; merely to allow a child to follow its own devices in the hope that it will acquire knowledge by imitation, experiment or experience in its own way and in its own good time is neither systematic nor instructive...such a course would not be education but, at best, child-minding. We should not, in the ordinary case, regard a system of education as suitable for any child capable of learning such skills, if it failed to instil in the child the ability to read, write or cope with arithmetical problems, leaving it to time, chance, and the inclination of the child to determine whether - if ever - the child eventually achieved even elementary proficiency in those skills'.
(Harrison and Harrison v Stevenson [1982] (QB (DC) 729/81).

Ni waeth pa ymagwedd a gymerir at gyflwyno addysg addas, mae'n bwysig eich bod yn ystyried a yw'r ymagwedd a roddir ar waith yn addas ar gyfer anghenion y plentyn unigol sy'n golygu addysg effeithlon sy'n addas i oed, gallu a doniau eich plentyn ac unrhyw Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sydd efallai ganddo.

Dylai rhieni sy'n addysgu yn y cartref ddarparu addysg sy'n cynnig cyfleoedd i'w plentyn ddatblygu ei ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Dylai gynnwys darpariaeth mewn sgiliau rhifedd, llythrennedd ac iaith, sy'n addas i oedran, gallu a doniau eich plentyn ac unrhyw AAA/ADY sydd efallai ganddo. Nid yw addysg addas yn fater o ddysgu academaidd yn unig, dylai gynnwys cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn rhyngweithiadau'r plentyn ag eraill. Maent yn hanfodol wrth baratoi eich plentyn i gymryd rhan mewn cymdeithas a gweithredu ynddi.

Rhai nodweddion posib y gall addysg addas eu darparu, eu datblygu neu eu cynnwys:

  • Sgiliau iaith, llythrennedd a rhifedd
  • Cyfranogiad cyson gan rieni neu ofalwyr pwysig eraill
  • Ymateb i anghenion a lles gorau'r plentyn, gan ystyried meysydd dysgu sydd o ddiddordeb i'r plentyn, ac sy'n hyrwyddo potensial y plentyn
  • Sicrhau bod gan y plentyn gyfleoedd i gael amrywiaeth gweddol eang o brofiadau dysgu
  • Rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol er mwyn helpu'r plentyn yn ddiweddarach yn ei fywyd a'i alluogi i fod yn ddinesydd rhagweithiol 
  • Sicrhau bod y plentyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau sylfaenol (gan ystyried unrhyw AAA/ADY sydd ganddo)
  • Athroniaeth neu ethos lle mae rhieni'n dangos ymrwymiad, brwdfrydedd a chydnabyddiaeth o anghenion, agweddau ac uchelgeisiau'r plentyn
  • Cyfleoedd i'r plentyn gael ei ysgogi gan ei brofiadau dysgu
  • Cymryd rhan mewn sbectrwm eang o gyfleoedd a gweithgareddau dysgu sy'n briodol i gam datblygiad y plentyn
  • Mynediad at adnoddau a deunyddiau priodol
  • Cyfleoedd i ddatblygu llythrennedd digidol
  • Cyfleoedd am lefel briodol o weithgarwch corfforol a chwarae
  • Cyfleoedd i ryngweithio â phlant ac oedolion eraill.

Nid oes disgwyliad y bydd addysgwyr cartref yn:

  • Addysgu yn ôl y Cwricwlwm i Gymru
  • Dilyn amserlen
  • Trefnu bod y cartref yn cael ei ddodrefnu/offeru i safon benodol
  • Marcio gwaith a wneir gan eu plentyn
  • Addysgu yn ystod oriau penodol
  • Meddu ar unrhyw gymwysterau penodol
  • Cyflwyno'r un maes llafur ag unrhyw ysgol
  • Gwneud cynlluniau manwl o flaen llaw
  • Cadw at oriau, diwrnodau neu dymhorau ysgol
  • Rhoi gwersi ffurfiol
  • Atgynhyrchu'r math o gymdeithasu a geir yn yr ysgol rhwng grwpiau cyfoedion
  • Cyd-fynd â safonau ysgol sy'n benodol i oedran y plentyn.

Ydy fy mhlentyn yn gallu dychwelyd i'r ysgol?

Gallwch gyflwyno cais aim le yn yr ysgol ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd lle yn yr ysgol yr aeth eich plentyn iddi o'r blaen.

Gellir cael gwybodaeth am gais am le mewn ysgol ar y dudalen hon: Gwneud cais am le ysgol yng nghanol y flwyddyn (trosglwyddo o ysgol arall) neu drwy e-bostio derbyniadau@abertawe.gov.uk

Profiad gwaith

Mae rhieni'n gyfrifol am drefnur yswiriant ar gyfer unrhyw leoliadau profiad gwaith y maent yn dymuno i'r plentyn eu profi. Gellir gwneud hyn yn ystod blynyddoedd 10 ac 11 yn unig.

Cyflogi plant

Rhaid i unrhyw blentyn sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref gael yr un drwydded waith ag y byddai plentyn sy'n mynychu ysgol.

Os bydd rhiant dysgwr sy'n cael ei addysgu gartref yn cyflwyno cais am drwydded waith, bydd yr ALI yn gofyn am fanylion addysg y plentyn, yr hyn sy'n cael ei ddarparu, amserau'r sesiynau a sut byddai unrhyw waith rhanamser arfaethedig yn ategu ei addysg yn y cartref fel rhan o'r broses o gyflwyno'r drwydded waith.

Arholiadau

Mae'n rhaid i rieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i gymryd yr holl gyfrifoldeb ariannol dros gostau arholiadau. Rhaid sefyll arholiadau mewn canolfan arholiadau sydd wedi'i chymeradwyo, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i alluogi teuluoedd sy'n addysgu eu plant gartref i gael mynediad at arholiadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru mewn canolfan arholiadau ddynodedig.

Bydd angen i rieni gysylltu â'r ALI i wneud ymholiadau a bydd yr ALI yn eich cyfeirio at ysgolion a chanolfannau a fydd yn gadael i'ch plentyn sefyll arholiadau. Effallai bydd yn rhaid i'r rhiant dalu ffioedd cofrestru neu ffioedd asesu gwaith cwrs gan berson achrededig.

Mae gan rai grwpiau addysgu yn y cartref grwpiau astudio TGAU bach ac maent yn gysylltiedig â chanolfannau arholi er mwyn cadw costau mor isel â phosib.

Diogelu

Nid yw dewis rhieni i addysgu eu plentyn / plant gartref yn lliniaru cyfrifoldeb yr awdurdod lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn.

Mae lles ac amddiffyniad pob plentyn, y rheini sy'n mynychu'r ysgol a'r rheini sy'n cael eu haddysgu drwy ddulliau eraill, o'r pwys mwyaf ac yn gyfrifoldeb i'r gymuned gyfan. Yn yr un modd â phlant sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol, gall materion amddiffyn plant godi mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Os daw unrhyw bryderon amddiffyn plant i'r amlwg wrth gyfathrebu â phlant a theuluoedd, bydd y pryderon hyn yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau priodol, gan ddefnyddio protocolau sefydledig.

Gellir hysbysu'n hasiantaehau partner, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Tai, Gyrfa Cymru a'r Heddlu, eich bod yn addysgu eich plentyn / plant y tu allan i'r system ysgolion.

Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) fel sail i'w holl waith dros blant a phobl ifanc ac wedi'i roi ar waith.

Mynediad at wasanaethau cefnogi

Gall plentyn sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref gael mynediad at wasanaethau cyffredinol fel Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, cwnsela a gwasanaethau sgrinio ac imiwneiddio o hyd.

Os bydd rhiant yn e-bostio electivehomeeducation@abertawe.gov.uk, gellir ei gyfeirio at wybodaeth a chymorth ynghylch yr uchod a gwasanaethau cymorth eraill sy'n benodol i anghenion y teulu.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Chwefror 2025