Arweiniad rhiant i addysg ddewisol yn y cartref yn Abertawe
Nod Cyngor Abertawe yw darparu arweiniad ar gyfer rhieni sy'n ystyried neu wedi dewis rhoi Addysg Ddewisol yn y cartref (ADdC) i'w plentyn. Mae Cyngor Abertawe yn parchu ac yn derbyn hawl rhieni i addysgu eu plentyn gartref.
Mae'r diffiniad o riant neu ofalwr at ddibenion y ddogfen hon yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn a pherson sy'n gofalu am blentyn.
Addysg ddewisol yn y cartref yw pan fydd rhieni'n penderfynu darparu addysg yn y cartref i'w plentyn yn hytrach na'i anfon i'r ysgol. Felly, nid yw plant sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref wedi'u cofrestru mewn ysgolion prif ffrwd nac ysgolion arbennig.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn dderbyn addysg o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd pan fydd yn 16 oed.
Ni ddylid byth gwneud y penderfyniad i addysgu yn y cartref ar chwarae bach. Cyn i rieni benderfynu gwneud ymrwymiad o'r fath, mae angen iddynt siarad a gwrando ar eu plentyn a hefyd ystyried yr amser a'r egni y bydd angen iddynt eu buddsoddi. Dylai rhieni fod yn ymwybodol, os ydynt yn dewis addysgu yn y cartref, eu bod yn cymryd cyfrifoldeb ariannol am addysg eu plentyn, gan gynnwys costau cyfarpar, ymweliadau, llyfrau a thiwtoriaid, yn ogystal â chost unrhyw arholiadau cyhoeddus.
Bydd yr Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref yn ceisio datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda rhwydweithiau addysg yn y cartref a bydd yn cydweithio â rhieni ADdC i alluogi plant i gael y dewisiadau bywyd gorau sydd ar gael iddynt, a bydd yn ymdrechu i gefnogi plant a theuluoedd drwy sicrhau bod plant yn cael mynediad at eu hawl i addysg.
Nod yr wybodaeth yn y ddogfen hon yw nodi sefyllfa gyfreithiol rhieni sy'n ymgymryd â chyfrifoldeb addysg plentyn, yn ogystal â dyletswyddau'r Awdurdod Lleol (ALl).