Adfywio Abertawe
Gweithio mewn partneriaeth i fwyafu buddion economaidd o brosiectau adfywio er mwyn gwella ffyniant yn yr ardal leol a'i phobl yw Adfywio Abertawe.
Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector preifat, cyhoeddus, addysg, gwirfoddol ac iechyd ac mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys:
- datblygu prosiectau a rôl datrys problemau i helpu i ddatrys problemau cyflwyno
- cysylltu rhaglenni cyflogadwyedd ac egwyddorion Y Tu Hwnt i Frics a Morter â gweithgareddau adfywio
- casglu gwybodaeth i gyfeirio cynlluniau adfywio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
- hyrwyddo agenda adfywio economaidd Abertawe
- gweithio gyda Bwrdd y Gwasanaeth Cyhoeddus i arwain thema'r Fargen Ddinesig ac Isadeiledd
- gweithredu fel Bwrdd Prosiect Rhanddeiliaid Lleol ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Adfywio Treforys
Adfywio Treforys yw grŵp partneriaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi adfywio Treforys yn economaidd, gan ganolbwyntio ar Stryd Woodfield.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024