Toglo gwelededd dewislen symudol

Adfywio Treforys

Adfywio Treforys yw grŵp partneriaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi adfywio Treforys yn economaidd, gan ganolbwyntio ar Stryd Woodfield.

Mae ei rôl yn cynnwys y canlynol:

  • nodi materion adfywio allweddol 
  • adnabod a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau lleol 
  • rhannu gweithgareddau/adnoddau o bosib er mwyn cyd-gyflwyno camau gweithredu 
  • cyfle i ddefnyddio asedau'n well a sut gall cyrff cyhoeddus weithio'n well gyda'i gilydd 
  • casglu barn pobl a busnesau lleol er mwyn llywio'r Cynllun Gweithredu
  • mwyafu'r buddion i bobl a busnesau lleol trwy weithgareddau adfywio 
  • hyrwyddo agenda adfywio economaidd Treforys 
  • cysylltu â phartneriaethau/grwpiau perthnasol eraill yn yr ardal er mwyn chwilio am arfer gorau a'i adnabod

Cynnydd hyd yma

  • Nifer o eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto mewn partneriaeth â'r sector preifat - disgwylir i ragor agor yn 2023 gan gynnwys man cyd-weithio
  • Digwyddiad Nadolig Fictoraidd blynyddol i ddathlu treftadaeth y dref a denu rhagor o ymwelwyr i'r dref
  • Cyfres o daflenni llwybrau cerdded a throeon treftadaeth a gynhelir gan grwpiau cyfeillion lleol, bellach ar gael ar ap Llwybrau Tawe
  • Fforwm busnesau lleol ar waith
  • Cwblhawyd y gwaith gwyrddu Cam 1 yn gynnar yn 2022 i wella Woodfield Street fel lle deniadol i bobl siopa ac ymweld ag ef: Map o gynllun gwella Woodfield Street (PDF, 3 MB)
  • Mae amrywiaeth o gyngor a chymorth i fusnesau (gan gynnwys grantiau dechrau busnes) ar gael drwy dîm cymorth i fusnesau y cyngor
  • Bydd llwybrau cerdded treftadaeth a ddatblygwyd ar gyfer ardal Cwm Tawe Isaf yn denu ymwelwyr i'r ardal
  • Sefydlwyd hwb cyflogadwyedd yng Nghapel Seion Newydd i helpu pobl i ddod o hyd i waith - ar agor bob dydd Mercher
  • Dechreuodd ymgyrch siopa'n lleol i helpu i gynyddu masnach ar Woodfield Street ym mis Tachwedd 2020: Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhreforys
  • Posteri i gefnogi siopa'n lleol etc. ar gael yn totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)
  • Trafodaethau ag asiantaethau allweddol i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch: Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
  • Map cymunedol lleol wedi'i ddatblygu gan y Tabernacl - Map Ein Treforys (gan y Tabernacl) (PDF, 7 MB)
  • Cynllun prawf i wella blaenau siopau - pedwar cynllun
  • Trefnwyd bod arian o'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi ar gael i berchnogion eiddo/busnesau er mwyn iddynt ailddefnyddio lle masnachol gwag
  • Arian grant i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto
  • Yn gweithio gyda pherchnogion eglwys Sant Ioan i'w hailddefnyddio er mwyn annog ymwelwyr lleol - agorwyd ym mis Hydref 2025
  • Mae grŵp wedi'i greu ar WhatsApp er mwyn ymgysylltu â masnachwyr
  • Gweithio gyda grwpiau cyfeillion er mwyn datblygu cyfleoedd a chyllid a sicrhawyd i hyrwyddo treftadaeth Treforys
  • Cwblhawyd gwaith mapio ar asedau a gweithgareddau cymunedol cyfredol yn Nhreforys
  • Arolygiad o berchnogaeth eiddo a deiliaid ar Stryd Woodfield
  • Gweithio gyda pherchnogion eiddo lleol i ailddefnyddio adeiladau
  • Cynhaliwyd digwyddiad canolfan fusnes ar 6 Rhagfyr 2018
  • Datblygwyd cynllun gweithredu a chaiff ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid

Adfywio Abertawe

Gweithio mewn partneriaeth i fwyafu buddion economaidd o brosiectau adfywio er mwyn gwella ffyniant yn yr ardal leol a'i phobl yw Adfywio Abertawe.

Cyngor i fusnesau

Rydym yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid i roi cyngor a chymorth ni waeth beth yw maint neu sector eich busnes.

Apps Abertawe

Apiau ar gael i'w lawrlwytho i'ch dyfeisiau symudol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2025