Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Siarter Bwrdeistref Aberafan

Charter for header

Un o'r trysorau yn ein casgliadau yw'r siarter a roddwyd i fwrdeiswyr Afan yn oddeutu 1306. Roedd yn nodi dechreuad ffurfiol y fwrdeistref a fyddai'n tyfu i fod yn Bort Talbot.

Mae'r ddogfen, sy'n ddiddorol, yn unigryw ac yn cael ei warchod yn angerddol, ac a roddwyd i'r dref a ehangodd ar ei dir, yn un o'r darnau o dystiolaeth go iawn o Arglwyddi Afan o Gymru, a oedd yn falch o fod yn annibynnol.

Dyma hanes y siarter, sut y'i lluniwyd, yr hyn y mae'n ei ddweud a'r hyn a ddigwyddodd iddi dros y blynyddoedd.

Darllenwch drawsysgrifiad y siarter a'i chyfieithiad

Darganfyddwch y rheswm pam y cafodd ei llunio a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym

Darllenwch am gist y siarter a sut helpodd i achub y siarter ym 1648

Sut daeth hon i'r Gwasanaeth Archifau?

Mae hanes y siarter hon yn un o oroesi er gwaethaf pob anhawster. Roedd Ernest Ambrose Vivian, Barwn Abertawe'n berchen arno yn ystod Oes Victoria, ond hanner canrif yn ddiweddarach, nid oedd neb yn gwybod ei lleoliad. Cafodd ei hailddarganfod mewn ffordd gyffrous ym 1953 gan Edward Barker o Gofentri pan werthwyd tŷ yng Nghernyw: sylweddolodd yr hyn yr oedd yn ei olygu a'i chyflwyno i Fwrdeistref Port Talbot. Roedd wedi'i phlygu ac roedd yn fregus, ac fe'i hanfonwyd i Swyddfa Gofnodion Morgannwg i'w chadw'n ddiogel, lle cafodd ei llyfnhau a'i hatgyweirio. Daeth i Abertawe yn y 1980au ynghyd â chofnodion ar gyfer swyddfa gofnodion newydd Gorllewin Morgannwg, ac mae bellach yn cael ei thrysori yn ein casgliadau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2024