Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Y siarter mewn trawsgrifio a chyfieithu

Ysgrifennwyd y ddogfen wreiddiol yn Lladin, fel oedd yr arfer ar y pryd. Dyma beth mae'n ei ddweud, a beth mae hynny'n ei olygu:

Mae'r ddogfen wedi cael ei darllen a'i dehongli sawl gwaith. Dyma trawsgrifiad a chyfieithiad hollol newydd gan ein staff.


Cyfieithiad

Bydded i bobl yn y presennol a'r dyfodol wybod fy mod i, Leysan ap Morgan, Arglwydd Afan, mab ac etifedd Morgan Vachan, wedi rhoi, a thrwy hyn, fy siarter bresennol, wedi cadarnhau, ar fy rhan innau a'm hetifeddion neu'm haseinïaid, i'r holl fwrdeisiaid Seisnig a hefyd i'm tenantiaid o Afan a'u hetifeddion a'u haseinwyr, yr holl ryddid yn fy nhref Afan ac yn fy holl arglwyddiaeth o fewn terfynau Afan sydd gan fwrdeisiaid Cynffig yn nhref Cynffig ac o fewn arglwyddiaeth yr Arglwydd Iarll Caerloyw a Hertford, cymaint ag y gallaf.

A rhoddant wyth galwyn o unrhyw fragdy, yn rhent y felin ac yn dreth i mi, fy etifeddion a'm haseinïaid.

Rhoddais hefyd, ar fy rhan innau, fy etifeddion a'm haseinïaid, i'm bwrdeisiaid a'm tenantiaid dywededig o Afan, a'u hetifeddion a'u haseinïaid, yr hawl i gasglu pren ar gyfer adeiladu tai a ffensys yn holl goedwigoedd fy wŷr sy'n eu dal ar fy rhan, a hynny'n rhydd, yn dawel, yn dda, mewn heddwch a heb unrhyw ymyrraeth.

Cânt hefyd hawl comin pori, yn rhydd, yn dawel, yn dda ac mewn heddwch am byth, ym mhob man, coedwig, dôl, tir pori a phorfa, yn y tymor agored, ar fy nhir. A hefyd y borfa honno ar ochr y Ddinas sydd rhwng Karnwendrech a lle a elwir yn Kaekedrech o hyd, ac o led rhwng tir âr Tyrruskech cyn belled â'r tir âr ar y Ddinas, bob amser o'r flwyddyn.

A phe bawn innau neu fy etifeddion neu fy aseinïaid yn gosod ffens o amgylch unrhyw dir a bod y ffens ddywededig yn cael ei thorri i lawr gan anifeiliaid y bwrdeisiaid a'r tenantiaid dywededig, mae'n rhaid iddynt ailadeiladu'r ffens honno unwaith eto.

A hefyd bydd ganddynt hawl comin pori yn y tymor agored yn holl goedwigoedd, dolydd, tiroedd pori a phorfeydd fy ngwŷr sy'n eu dal ar fy rhan beth bynnag fo'u gradd.

Ymhellach, ar gyfer y rhodd, y grant a'r cadarnhad hwn o'm siarter bresennol, mae fy mwrdeisiaid a'm tenantiaid a nodwyd uchod wedi rhoi deugain swllt i mi.

A chan fy mod yn dymuno i rodd, grant a chadarnhad fy siarter bresennol gael grym ac effaith dragwyddol, yr wyf wedi cadarnhau'r siarter bresennol hon ag argraff fy sêl. Gyda'r tystion hyn: yr Arglwydd Thomas, abad Margam ar y pryd, Eynon, rheithor eglwys Afan, Harri'r clerc, stiward Afan ar y pryd, Rees ap Morgan, Rees ap Cradoc a llawer o bobl eraill.


Trawsgrifiad

Sciant presentes et futuri quod [ego]1 Leysanus ap Morgan Dominus de Avene filius et heres Morgani Vachan dedi concessi et hac presenti carta mea confirmavi pro me et heredibus seu assignatis meis omnibus anglicanis Burgensibus et etiam chenceribus meis de Avene et eorum heredibus et assignatis omnes libertates in villa mea de Avene et intoto dominio meo infra limites de Avene quas habent Burgenses de kenefeg in villa de kenefeg et infra dominium domini Cometis Glovernie et Hertfordie quantum in me est.

Et dabunt octo lagenas de qualibet bracina pro cervisia molendini et pro assisa mihi et heredibus et assignatis meis.

Concessi etiam pro me et heredibus meis et assignatis predictis burgensibus et chenceribus meis de Avene et eorum heredibus et assignatis libere quiete bene et in pace et sine aliqua calumpnia Housbote et Heybote in omnibus nemoribus hominum meorum de me tenencium.

Et optinebunt communem pasturam libere quiete bene et in pace imperpetuum in omnibus locis silvis pratis pascuis et pasturis intempore aperto super terram meam. Et etiam illam pasturam in latere de Le Dinas que est inter karnwendrecch et locum qui dicitur kaekedrecch in longitudine et in latitudine inter teram arabilem de tyrruskecch2 usque ad terram arabilem super le dinas in omne tempore anni.

Et si contingat me aud heredes vel assingnatos meos circa aliquam terram claustruram facere et dicta claustura prestata fuerit per bestias dictorum burgensium [et] chencoriorum tenentur eandem claustruram iterum construere.

Et etiam habebunt communem pasturam in tempore aperto in omnibus boscis pratis pascuis et pasturis hominum meorum de me tenencium cuiuscunque condicionis fuerint.

Pro hac autem donacione concessione et presentis carte mee confirmacione dederunt mihi predicti Burgenses mei et chenceri quadraginta solidos sterlingorum.

Et quia volo quod hec mea donacio concessio et presentis carte mee confirmacio Robur perpetue stabilitatem optinea[nt, h]anc presentem cartam sigilli mei inprescione Roboravi.

Hiis testibus domino Thoma tunc abbate de Morgan, Enea Rectore ecclesie de Avene, Henrico clerico tunc senescallo de Avene, Reso ap Morgan, Reso ap Cradoc et multis aliis.

-------------

1. Mae testun mewn cromfachau sgwâr ar goll yn y ddogfen wreiddiol ond yn cael ei gyflenwi gan synnwyr y ddogfen.

2. Mae enwau'r tri lle sy'n nodi ffiniau'r borfa ar Fynydd Dinas i gyd yn gorffen yn -ecȝ yn y testun gwreiddiol, a'r nod terfynol yw'r hen lythyren yogh, sy'n cyfateb i ch Gymraeg gyfoes.


Ble i ddarllen mwy...

Mae rhagor o wybodaeth am Arglwyddi Afan, pwy oedden nhw a ble roedden nhw'n byw ar gael ar wefan Calon Afan yn https://calonafan.org/cy/ein-prosiectau/tywysogion-afan/. Mae Calon Afan yn gweithio i hysbysebu etifeddiaeth a hanes unigryw angyhoeddus Port Talbot a Dyffryn Afan.


Nesaf, Hanes Siarter Aberafan  →

Yn ôl i'r cynnwys

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2024