Cist siarter Aberafan a sut helpodd i achub y siarter ym 1648
Hanes anghredadwy'r porthfaer a'r bloc pren
Gwerthfawrogwyd y siarter gan y dref fel ei grant cyntaf o statws a braint. Ym 1350, derbyniodd y dref siarter arall oddi wrth ddisgynnydd Leysan, Thomas d'Avene, Arglwydd Afan: roedd yn cadarnhau'r siarter wreiddiol ac yn ychwanegu mwy o hawliau pori. Yna, ym 1373, rhoddwyd siarter arall gan Edward le Despenser y tro hwn, sef Arglwydd Morgannwg, ac roedd yn nodi diwedd cyfnod Afan fel arglwyddiaeth Gymreig annibynnol. Roedd yn rhoi'r un statws i'r fwrdeistref ag yr oedd gan Gastell-nedd a Chynffig, a sefydlodd ddwy ffair flynyddol. Rhoddodd y tair dogfen hyn ei hawliau i'r fwrdeistref, ac roedd y trefolion yn gofalu amdanynt yn ofalus.
Yn ystod y rhyfel cartref, roedd pobl Aberafan ar ochr plaid y brenin. Yn ôl yr hanes, fel dial, daeth dynion Oliver Cromwell i'r dref ym 1648 er mwyn cymryd ei siartrau a dirymu statws y dref. Efallai y byddant wedi llwyddo pe na fyddai'r porthfaer wedi bod yn barod amdanynt.
Roedd ganddo floc o bren derw, a gwnaeth dorri adran ohono gyda chlawr. Pan glywodd fod y dynion yn nesáu, cuddiodd y dogfennau y tu mewn iddo. Pan wnaethant gyrraedd, daethant o hyd iddo gyda bwyell yn ei law ac wrthi'n torri pren: "Siartrau? Pa siartrau?"
Mae'r bloc pren, a lwyddodd i arbed siartrau'r dref, yn bodoli hyd heddiw a gellir ei weld mewn cas gwydr yn nerbynfa Canolfan Ddinesig Port Talbot. Boncyff a naddwyd yn fras ydyw, ac mae oddeutu 4 troedfedd 2 fodfedd o hyd a'i led a'i uchder yw 14 modfedd. Dyfnder y gwagle a ddaliodd y dogfennau yw oddeutu 6 modfedd ac mae ganddo olion clawr colynnog. Dywedir y gellir gweld marciau bwyell y porthfaer o hyd.
Ni wyddys lleoliad y ddwy siarter arall, ond gwnaed trawsysgrifiad ohonynt yn ystod Oes Victoria. Er gwaethaf ei holl anturiaethau, mae siarter gyntaf Aberafan yma o hyd, ac fe'i cedwir yn ddiogel yn Archifau Gorllewin Morgannwg.