Y ddogfen
Y cytundeb priodas gwreiddiol
(Cliciwch ar y llun i'w ehangu)
Er mwyn ei astudio'n fanwl, lawrlwythwch fersiwn PDF (PDF) [1MB]
Y testun Ffrangeg gwreiddiol
A Touz ceus [qui ce]s presentes lettres verront et orront Looys Filz du Roi [de] France Cuens de Evreux Robert de Burgoigne et Jehan de Bretaigne duks et Pierre Sires de Chambli Chevalir et Chambellan notre Seigneur le Roi de France messages et procureurs du dit roi a ce establiz Salut.
Nous fesons savoir que comme il ait este prononcie par le Pape comme par privee persone et comme Benoit Gaytan par la vertu du compromis [fait en] li que mariage se face de monsire Edouard filz du Roi dengletérre et de madame ysabel fille le Roi de France notre Seigneur devant dit [si tost] comme elle vendra en aage de faire mariage dedenz les quatre mois apres ce qu il en ara este requis depar notre dit Seigneur le Roi o douaire de dis et wit mile libres de tornois petiz de rente sur certeinnes condicions [et] peinnes mises et ajostees en la prononciation desus dite et es lettres faites sur ce.
Et quant au dit mariage il ait oste les epeschemenz qui i estoient ou poaient estre par raison de lignage et ait dispense par auctorite dapostole et empres la dite prononciacion aucuns traitiez et acorz aient este euz et faiz a mostereul entre les messages et procureurs des diz Rois condicions et peines mises et aiostees quant a la fermete du dit mariage si come elles sont plus pleinement contennes es lettres faites sur ce.
Nous la prononciacion les traitiez et les acorz desus diz et chascun diceus sur les peines et sur les condicions de[sus] dites comme messages et procureurs du dit notre Seigneur le Roi en nom de li pour li pour ses hoirs et pour ses successeurs et pour madame ysabel desus dite Ratefions agreons et approvons et prometons en nom du dit notre Seigneur le Roi a les tenir garder et acomplir fermement sur les peines desus dites
Item les diz Contes de Savoie et de Nicole comme messages et procureurs du dit Monsire Edouard filz du dit Roi dengleterre pour li et in nom de li fiancerent presentement en la presence du dit notre Seigneur le roi de France et de haute dame madam Jehenne par celle meime grace Reine de France mere de la dite madame ysabel icelle madame ysabel present et receuant [et] elle presenz ses diz parenz et les diz procureurs recevanz fiança le dit Monsire Edouard en la main de honor[able] pere Gile par celle meime grace Arcevesque de Narbon sur les peines et sur les condicions desus dites.
En tesmoign de laquele chose nous avons fait sceller ces lettres de noz seaus. Donne a Paris la vintieme jour de mai En lan de grace mil Trois cenz et Trois.
-----
Cyfieithiad
I bawb a welant neu a glywant y llythyrau presennol hyn, Louis, mab Brenin Ffrainc, Iarll Evreux, y dugiaid Robert o Fwrgwyn a Jean o Lydaw a Pierre Sires de Chambli, marchog a siambrlen ein harglwydd, brenin Ffrainc, negeswyr ac asiantiaid y brenin dywededig a benodwyd i'r pwrpas hwn, gyfarchion.
Yr ydym yn hysbysu, yn gymaint ag y mae wedi'i ddatgan gan y Pab fel person preifat ac fel Benoit Gaytan1, drwy rinwedd yr addewid a wnaed ynddi, y bydd priodas rhwng yr arglwydd Edward, mab brenin Lloegr a'r arglwyddes Isabella, merch brenin Ffrainc ein harglwydd dywededig, a chyn gynted ag y delo hi i oed priodi, ymhen pedwar mis wedi hynny, gofynnir gan ein harglwydd y brenin dywededig agweddi o ddeunaw mil o livres tournois2 bach a bennwyd ac a draethwyd yn y datganiad a grybwyllir uchod, a'r llythyrau a wnaed am hyn.
Ac o ran y briodas ddywededig, y mae wedi dileu yr atalion a oedd yno neu a allasai fod yno, oherwydd achau, ac wedi gweithredu trwy awdurdod apostolaidd; ac ar ôl y datganiad dywededig, cafwyd a gwnaethpwyd rai contractau a chytundebau ym Montreuil rhwng negeswyr ac asiantiaid y brenhinoedd dywededig, gydag amodau a chosbau wedi'u gosod a'u hychwanegu er mwyn sicrhau'r briodas ddywededig, fel y'u cynhwysir yn llawnach yn y llythyrau a wnaed am hyn.
Yr ydym yn cadarnhau, yn cytuno ar ac yn cymeradwyo'r datganiad, y contractau, a'r cytundebau dywededig, a phob un ohonynt, ar y cosbau a'r amodau, fel negeseuwyr ac asiantiaid ein harglwydd, y brenin dywededig, yn ei enw ef, dros ei etifeddion a'i olynwyr, a thros yr arglwyddes Isabella rhagddywededig; ac addawn yn enw ein harglwydd y Brenin dywededig i'w cadw, eu gwarchod a'u cyflawni'n gadarn yn amodol ar y cosbau a grybwyllir uchod.
Ymhellach, mae ieirll dywededig Savoy a Lincoln, fel negeseuwyr a phrocuraduron y dywededig arglwydd Edward, mab y brenin Lloegr, drosodd ac yn ei enw ef, ym mhresenoldeb ein dywededig arglwydd, brenin Ffrainc, ac ei huchelder yr arglwyddes Joan, brenhines Ffrainc drwy'r un gras, mam y foneddiges Isabella ddywededig, yn dyweddïo'r un foneddiges Isabella, sy'n bresennol ac yn ei derbyn; ac y mae hithau, yn bresennol, a'i rhieni a'r procuraduron dywededig yn derbyn, yn dyweddïo'r arglwydd Edward dywededig, trwy law y tad anrhydeddus Giles archesgob Narbonne drwy'r un gras hwnnw, yn amodol ar y cosbau a'r amodau a roddir uchod.
Yn dystiolaeth o'r mater hwn, yr ydym wedi gwneud y llythyrau hyn sydd wedi'u selio â'n seliau. Rhoddwyd ym Mharis ar yr ugeinfed dydd o Fai yn y flwyddyn o ras mil tri chant a thri.
Nodiadau
1. Pan seliwyd y ddogfen hon, roedd Boniface VIII yn Bab. Benedetto Caetani oedd ei enw gwreiddiol a Benoit Gaytan yw'r fersiwn Ffrengig ohono.
2. Roedd y livre tournois, neu bunt Tours, yn un o sawl uned o arian cyfred a ddefnyddiwyd yn Ffrainc ganoloesol, y daeth ei henw o dref Tours lle cafodd ei bathu.