Contract priodas Edward II, 1303
Dyma stori dogfen a gedwir yn Archifau Gorllewin Morgannwg, a chwaraeodd ran hollbwysig ym mywyd a marwolaeth drasig un o frenhinoedd canoloesol Lloegr.
Nid oedd Edward II yn frenin llwyddiannus. Bu'n teyrnasu ar adeg o helbul rhwng y brenin a'r barwniaid ac roedd bygythiad cyson o ryfel cartref. Wedi'i ymlid gan ei wraig, ei arestio, ei ddiorseddu, ei garcharu a'i lofruddio, mae ei stori ef yn un drasig. Credir yn gyffredinol ei fod wedi bod yn hoyw ac roedd ganddo berthynas agos â'i ymgynghorydd Piers Gaveston a Hugh Despenser, Arglwydd Morgannwg.
Fe ganed Edward yng Nghaernarfon, yn fab i'r Edward I arswydus, ac ym 1301, ac yntau'n 16 oed, daeth yn dywysog cyntaf Lloegr i gael ei enwi'n Dywysog Cymru. Roedd yn 'dal a chryf, ac yn ddyn golygus'. Roedd yn weithgar, yn fedrus ac yn hoff o gerddoriaeth, ac roedd yn boblogaidd iawn i ddechrau, ond ni fyddai hyn yn para.
Yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg rydym yn cadw'r ddogfen sy'n nodi adeg arwyddocaol yn ei fywyd: ei gontract priodas gydag Isabella, merch y Brenin Philip IV o Ffrainc a'r Frenhines Joan de Navarre, dyddiedig 20 Mai 1303. Roedd Isabella tua 8 oed bryd hynny, ac nid rhamant oedd ei phwrpas, ond yn hytrach i sicrhau heddwch rhwng Lloegr a Ffrainc ar ôl blynyddoedd o densiwn. Cynhaliwyd y briodas ym 1308, ac erbyn hynny roedd Edward wedi dod yn frenin.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1312, deisebodd Bwrdeistref Abertawe am gadarnhad o'r siarter frenhinol yr oeddent wedi'i derbyn gan Harri III ym 1234. Derbyniwyd hyn yn brydlon ganddynt, wedi'i selio gan Edward II, ac fe'i cedwir hefyd yn Archifau Gorllewin Morgannwg.
Er gwaethaf ei rhwystredigaeth gyda hoffter y brenin o Gaveston, roedd Isabella yn gefnogol i'w gŵr i ddechrau, ond roedd yn gweld bai ar ei ffefryn newydd, Hugh Despenser, yr oedd yn ei gasáu. Cafodd ei chau allan yn gynyddol gan Edward a Despenser ac erbyn 1322 roedd y brenin a'r frenhines wedi gwahanu i bob pwrpas. Ym 1325, fe'i hanfonwyd i Ffrainc i drafod cytundeb. Pan oedd hi yno penderfynodd na allai oddef y sefyllfa mwyach a gwrthododd ddod adref. Ymunodd â'r barwn alltud Roger Mortimer a dychwelodd y ddau i Loegr gyda byddin, gyda'r bwriad o ddiorseddu'r brenin.
Ffodd Edward i Gymru mewn panig, gan anfon dogfennau a thrysorau ymlaen i Gastell Abertawe i'w cadw'n ddiogel. Ei nod oedd anelu am Ynys Wair a chroesi oddi yno i Iwerddon i godi byddin, ond cafodd ei atal gan stormydd. Ymochelodd lle y gallai, yng Nghaerdydd, Caerffili, Margam, Abaty Castell-nedd ac o bosib Abertawe, ond roedd y cyfan yn ofer. Ar 16 Hydref 1326 cafodd ei arestio, ger Castell-nedd neu Lantrisant. Ar 21 Ionawr 1327 gorfodwyd y brenin i ildio'r goron a chafodd ei garcharu yng Nghastell Berkeley, Swydd Gaerloyw. Mae amgylchiadau ei farwolaeth yn ddirgel, ac mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno ei fod wedi'i lofruddio.
Beth ddigwyddodd nesaf? Darllenwch am y cytundeb priodas a sut y death i fod yn Archifdy Gorllewin Morgannwg.