Toglo gwelededd dewislen symudol

Stori'r ddogfen

Sut y daeth contract priodas Edward ac Isabella i Abertawe, a beth ddigwyddodd iddo?

Gwyddom fod y brenin wedi anfon trysor a dogfennau i Abertawe wrth geisio ffoi, a chredwn fod y contract priodas yn eu plith. Pan ddaeth y comisiynwyr brenhinol i'r castell i adfeddiannu'r trysor, canfuwyd bod y lle wedi'i anrheithio. Roedd adfeddiannu'r hyn y gallent yn cymryd amser ac roedd llawer ohono wedi mynd am byth. Efallai fod y ddogfen wedi'i chadw fel cofrodd gan rywun a oedd yn cofio'r brenin gyda hoffter. Yr hyn sy'n amlwg yw ei fod wedi aros yn nwylo olyniaeth o bobl a'i coleddodd ac a oedd yn deall ei werth. 

George Grant Francis

Erbyn y 1830au roedd yn nwylo Dr David Nicol, meddyg o Abertawe. Cafodd y stori eithaf rhamantus am sut roedd y ddogfen wedi dod i'w feddiant ef ei hadrodd yn gryno gan lywydd Cymdeithas Archaeolegol Cambrian ym 1960: 

'Derbyniodd Dr Nichol o Abertawe...tua chanol y ganrif ddiwethaf, fel arwydd o ddiolchgarwch gan fythynnwr tlawd o fro Gŵyr yr oedd wedi'i drin yn broffesiynol, focs bach a dynnwyd i lawr o'i guddfan yn y gwellt toi. Pan gafodd ei agor, canfuwyd ei fod yn cynnwys y memrwn gwreiddiol, a ysgrifennwyd yn Ffrangeg, o'r contract dyweddïo rhwng Edward a 'Madame Issabel', merch Brenin Ffrainc, dyddiedig 20 Mai 1303.' 

Sefydlwyd Sefydliad Brenhinol De Cymru ym 1835. Byddai ei bencadlys, a adeiladwyd ym 1839-41, yn dod yn Amgueddfa Abertawe. Dros y blynyddoedd, rhoddodd yr aelodau amrywiaeth o arteffactau, sbesimenau, llyfrau a llawysgrifau ac ym 1848 adroddodd yr aelod sefydlu George Grant Francis hanes dogfen Dr Nicol: 

'Mi es ati'n bryderus i geisio unrhyw beth a phopeth a oedd yn debygol o ychwanegu at ddiddordeb ein hamgueddfa ifanc ar y pryd; ymhlith eraill, daeth fy ffrind, Dr Nicol, â blwch bach o'i storfeydd a oedd yn cynnwys memrynau llwydaidd amrywiol a seliau hynod, y mae sawl un ohonynt yn anffodus wedi dirywio; roedd un o'r uchod wedi ennyn fy niddordeb cryn dipyn, a chan ei fod mewn cyflwr bregus iawn, rhoddais bapur sidan yn ofalus y tu ôl iddo, ei osod ar banel derw, ei wydro a'i fframio, gan fewnosod y tair sêl a ganfuwyd wedi'u clymu gydag ef. Mae bellach yn addurno astudfa'r meddyg teilwng; hoffwn pe bai'n cael ei drosglwyddo i'r amgueddfa, gyda'i roddion eraill.' 

Full document RISW

Bu farw'r meddyg ym 1865 a phrynodd y Sefydliad Brenhinol y ddogfen dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Fe'i harddangoswyd gan ei bod yn un o'r eiddo mwyaf gwerthfawr. Diolch byth, tynnwyd ffotograff (a gedwir hefyd yn yr Archifau) tua'r adeg hon: gellir darllen y testun yn glir yn y llun ond mae ei chyflwr bregus yn amlwg iawn. Arhosodd yno yn ei ffrâm, gyda lleithder a golau'r haul yn cyfuno i bylu'r testun a diraddio'r memrwn. Ym 1985, yn rhy hwyr, fe'i trosglwyddwyd i Archifau Prifysgol Abertawe, lle'r oedd y rhan fwyaf o archifau'r Sefydliad Brenhinol yn cael eu storio. Fe'i hanfonwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i'w hadfer, ond roedd wedi'i difrodi'n ormodol. Dyma ran o adroddiad y gwarchodwyr: 

'Mae'n debyg bod y difrod i'r ddogfen yn bennaf oherwydd datguddiad hir i olau'r haul; mae'r memrwn yn fregus iawn ac mae llawer o'r sgript bellach yn annarllenadwy, hyd yn oed o dan olau uwchfioled. Barnwyd ei bod yn well gadael y ddogfen ar ei phapur cefnu yn hytrach na cheisio'i hailgefnu. Tynnwyd côt o farnais o wyneb y ddogfen. Ym 1986 nid oedd y seliau bellach wedi'u cysylltu wrth y ddogfen.'

Yn 2004 trosglwyddwyd holl gasgliadau archifau'r Sefydliad Brenhinol i Archifau Gorllewin Morgannwg i'w cadw a'u catalogio'n ddiogel a dyna pryd y cawsom afael ar gontract priodas Edward ac Isabella am y tro cyntaf. Mae'n parhau gyda ni a'i gyfeirnod yw RISW DN 32. Rhoddodd gwarchodwyr medrus yn y Llyfrgell Genedlaethol y driniaeth orau y gallent iddo: maent wedi'i lanhau, wedi adfer y tair sêl ac wedi gosod popeth mewn blwch solet. Ond mae'n amhosibl gwrthdroi'r difrod sydd wedi'i wneud. Nid yw'n cael ei arddangos heddiw, ond caiff ei gadw'n ddiogel mewn amgylchedd rheoledig.

Ond nid dyma'r diwedd: gan ddefnyddio'r ffotograff Fictoraidd, rydym wedi trawsgrifio'r ddogfen a gwneud cyfieithiad newydd, ac rydym yn ei chyflwyno yma ar-lein, fel yr arferai fod ac fel y mae ar hyn o bryd, ac yn yr iaith wreiddiol ac mewn cyfieithiad. Y ddogfen.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Chwefror 2023