Hanes Siarter Aberafan
Mae Siarter Aberafan yn unigryw ac yn arbennig i hanes De Cymru. Pam y cafodd ei llunio a beth mae'n ei ddweud wrthym?
Disodlwyd Iestyn ap Gwrgant, rheolwr Cymreig annibynnol olaf Morgannwg, yn oddeutu 1080 gan Robert FitzHamon a'i griw enwog o ddeuddeg o farchogion. Goresgynnodd y Normaniaid y rhan fwyaf o dir Morgannwg a'i droi'n Arglwyddiaeth Morgannwg y Gororau. Roedd Arglwyddiaeth Afan yn eithriad: am dros 300 o flynyddoedd, fe'i cadwyd gan ddisgynyddion Iestyn - Arglwyddi Afan. Roeddent yn falch o fod yn Gymreig, a gwnaethant lwyddo i gadw eu safle trwy arfau, trwy briodasau a thrwy ddiplomyddiaeth.
Erbyn y 14eg ganrif, sefydlwyd anheddiad ger croesfan afon Afan, yn nhiroedd Arglwydd Afan a than ei warchodaeth. Roedd eglwys blwyf yno, ac roedd y bobl a oedd yn byw yno'n rhentu eu tir gan yr arglwydd. Roedd Leysan ap Morgan, Arglwydd Afan, am osod ei dref fach ar sail gyfreithiol go iawn fel trefi cyfagos Castell-nedd a Chynffig, felly gofynnodd am lunio siarter yn oddeutu 1306. Dyma'r unig enghraifft leol o fwrdeistref a grëwyd gan arglwydd o Gymru.
Crëwyd bwrdeistrefi eraill Arglwyddiaethau Gŵyr a Morgannwg gan y Normaniaid: fe'u hamddiffynnwyd trwy godi cestyll a waliau, ac un o'u prif bwrpasau oedd amddiffyn yn erbyn ymosodiadau gan fyddinoedd o Gymru. Ymsefydlwyr o Loegr oedd llawer o'r bwrdeiswyr a oedd yn byw yno, a chawsant eu denu trwy addo statws, tir a chyfleoedd masnachu iddynt. Ym 1324, cafodd fwrdeistrefi Caerdydd, Castell-nedd, Cynffig a'r Bont-faen, ynghyd â Chaerllion, Brynbuga a Chasnewydd, eu cynnwys mewn grant hawliau gan Edward II. Roedd Abertawe eisoes wedi derbyn rhywbeth tebyg ym 1234 ac ym 1312. Ar y llaw arall, ni dderbyniodd Afan Siarter Frenhinol ar yr adeg hon ac roedd yn amlwg yn cael ei ystyried i fod yn wahanol i'r bwrdeistrefi lleol eraill.
Felly, pam rhoddwyd y siarter? Mae'r testun yn nodi bod y trefolion yn talu 40 swllt (£2) ar ei gyfer, felly mae'n rhesymol i feddwl eu bod wedi gofyn amdani er mwyn sicrhau eu statws a'u galluogi i ffynnu. Er hynny, roedd masnach yn golygu rhenti a thollau ac mae'n debygol bod Leysan ap Morgan wedi bod yn edrych ar arglwyddiaethau cyfagos Castell-nedd a Chynffig, yr oedd ganddynt fwrdeistref, a sylweddolodd fod manteision ariannol o ganlyniad i gynnal tref a chanolfan fasnach yn ei diriogaeth. Roedd yn rhywbeth a oedd yn fuddiol i ardal Afan, ei bobl a'i arglwydd.
Beth mae'n ei ddweud wrthym?
Dogfennau economaidd yw siartrau: nid ydynt yn rhoi manylion o bethau a oedd yn sicr, ond yn hytrach yn cynnwys cymalau ynghylch hawliau newydd lle roedd elfen o ansicrwydd. Nid yw'r siarter hon yn rhoi manylion am lywodraethu'r fwrdeistref neu ei ffiniau, ac nid oes cymal sy'n cadarnhau bwrdeiswyr a'u lleiniau tir bwrdais. Yn hytrach, mae'r ffordd y mae'n trafod trefolion Afan yn dangos eu bod yno eisoes.
Rhennir y trefolion yn ddau grŵp: y grŵp cyntaf oedd y 'bwrdeiswyr Seisnig', ond nid ydym yn gwybod a yw hyn yn golygu eu bod yn ymsefydlwyr o Loegr mewn gwirionedd, neu'n fwy tebygol, yr ystyriwyd eu statws bwrdeisiwr i fod yn un Seisnig. Roedd y bwrdeiswyr yn cynnal y fwrdeistref mewn gwirionedd: roeddent yn dewis eu harweinydd, y porthfaer a'i gyngor a'r henaduriaid, ac roeddent yn talu rhent i'r arglwydd.
Mae'r siarter yn nodi grŵp arall, y'i gelwir yn chenseresyn Lladin. Mae hen lyfrau'r gyfraith yn cyfieithu hyn i'r Saesneg fel 'censers', nad yw'n golygu unrhyw beth i ni: felly, pwy oedden nhw, a sut roedden nhw'n wahanol i'r bwrdeiswyr? Mae gwreiddyn y gair chens-/cens-yn Lladin yn cyfeirio at dalu rhenti, felly tenantiaid oedd y 'censers' mewn gwirionedd: roeddent yn talu rhent ac yn byw yn y dref, ond nid oedd ganddynt yr un hawl i gynnal ei materion.
Yn ddiddorol, er bod y siarter yn nodi'r bwrdeiswyr a'r 'censers', mae Leysan yn rhoi'r un breintiau i'r ddau grŵp. Mae'n dechrau trwy roi hawliau iddynt y gellid eu harfer yn y dref ac ar ei diroedd, ond nid ydym yn gwybod beth ydyn nhw, oherwydd ei fod ond yn dweud y byddant yr un peth â'r rheini sydd gan ddinasyddion Bwrdeistref Cynffig, ac nid yw ei siarter sefydlu wedi goroesi. Nid yw'r arfer o gopïo hawliau o un fwrdeistref i'r llall yn anghyffredin a digwyddodd yr un peth yn oddeutu 1150 pan roddwyd siarter i Fwrdeistref Castell-nedd gan gyfeirio at siarter Caerdydd.
Yna, rhoddodd yr hawl werthfawr iddynt gasglu pren ar ei dir ar gyfer adeiladu a chodi ffensys, ac i'w hanifeiliaid bori yn ystod y tymor agored (y misoedd pan fydd y gwair yn tyfu) ar dir wrth ochr Mynydd Dinas. Roedd melin y gallant ei defnyddio hefyd, yr oedd angen iddynt dalu treth amdani - gyda chwrw.
Y tystion a'r sêl
Yn olaf, mae rhestr y tystion yn rhoi mwy o wybodaeth i ni: y cyntaf, a'r person â'r statws uchaf, yw Thomas, sef abad Abaty Margam sydd gerllaw. Er nad oes dyddiad ar y siarter, mae'r ffaith ei fod wedi'i gynnwys yn ein helpu i'w dyddio. Yna mae Eynon, sef rheithor eglwys Afan - fersiwn gynnar o Eglwys y Santes Fair, ac yna Henry y clerc, stiward Afan, a dau ddyn anhysbys. Yn olaf, ychwanegwyd y sêl er mwyn ei dilysu, ac mae mewn cyflwr da o hyd. Fe'i gwnaed o gwyr gwyrdd tywyll, ac mae ganddi ddiamedr o oddeutu 2.5cm, ac ar ryw adeg, rhoddwyd farnais arni i'w chadw. Ar y blaen, mae arfbais y gwarantwr 'gules, three chevrons Argent' (sef tair llinell onglog arian ar gefndir coch), ac mae digon o'r llythyrau'n bodoli o'u cwmpas i sillafu'r arysgrif + S. LE[YSA]N [AP M]ORGAN (sêl Leysan ap Morgan). Mae'r cefn yn blaen ac yn grwn.
Nesaf, Cist siarter Aberafan a sut helpodd i achub y siarter ym 1648. →