Adolygiad o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls - Adolygiad wedi'i gwblhau

Adolygwyd Ardal Gadwraeth y Mwmbwls a mabwysiadwyd y ffin estynedig/arfarniad cymeriad/cynllun rheoli fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ym mis Chwefror 2021.

Mae Adolygiad Ardal Gadwraeth y Mwmbwls wedi'i gwblhau. Cymeradwywyd yr wybodaeth ddiweddaraf fel Canllawiau Cynllunio Atodol gan y Pwyllgor Cynllunio, a chaiff ei lanwytho cyn bo hir. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch DesignSwansea@abertawe.gov.uk

Cynhaliwyd proses Adolygu Ardal Gadwraeth y Mwmbwls i lunio asesiad cyfredol o'r cymeriad a'r materion sy'n effeithio ar ardal ddynodedig Ardal Gadwraeth y Mwmbwls.

Cynhaliwyd ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ym mis Mai-Gorffennaf 2018 i ddechrau, a chynhaliwyd ymgynghoriad pellach ym mis Ionawr-Mawrth 2020 ac roedd y rhain yn rhan o'r ddogfen derfynol.

Yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2021, ystyriodd pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe adolygiad yr Ardal Gadwraeth, gan gynnwys diwygio ffiniau, ynghyd ag adborth yr ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Penderfynwyd newid yr Ardal Gadwraeth fel a gynigwyd. 

Mae'r wybodaeth newydd yn cynnwys:

  • Ffin estynedig
  • arfarniad cymeriad diweddaredig; a
  • Chynllun Rheoli

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Medi 2021