Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad ardaloedd cadwraeth

Mae'n ddyletswydd arnom i lunio a chyhoeddi polisïau a chynigion ar gyfer cadw a gwella ardaloedd cadwraeth

Diben Adolygiad o Ardal Gadwraeth yw llunio:

  1. 'Arfarniad Cymeriad' cyfoes sy'n nodi cymeriad yr ardal gan gynnwys adeiladau a mannau, ynghyd â nodweddion cadarnhaol a negyddol.
  2. 'Cynllun Rheoli' sy'n nodi sut caiff cymeriad yr ardal ei warchod a'i wella drwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys rheoli datblygu, rheoli ardaloedd cyhoeddus a gwelliannau amgylcheddol posib.
  3. 'Adolygiad o ffiniau' i weld a ddylid ychwanegu neu eithrio unrhyw ardaloedd.

Bydd yr arfarniad ardal gadwraeth yn cael ei gynhyrchu mewn ymgynghoriad â chymunedau a rhanddeiliaid lleol a bydd y dogfennau terfynol yn cael eu mabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol i Bolisïau HC 1 a HC 2 y CDLl.

Caiff dogfennau a ddiweddarwyd eu hychwanegu at Fynegai'r Ardal Gadwraeth.

Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd

Mabwysiadwyd yr adolygiadau Ardal Gadwraeth canlynol fel CCA i'r CDLl ac fe'u hychwanegwyd at fynegai'r ardal gadwraeth:

Adolygiad o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls - Adolygiad wedi'i gwblhau

Adolygwyd Ardal Gadwraeth y Mwmbwls a mabwysiadwyd y ffin estynedig/arfarniad cymeriad/cynllun rheoli fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ym mis Chwefror 2021.

Ardal gadwraeth Treforys - Adolygiad wedi'i gwblhau

Mae ardal gadwraeth Treforys wedi'i hadolygu a mabwysiadwyd y ffin estynedig/arfarniad cymeriad/cynllun rheoli fel canllawiau cynllunio atodol (CCA) ym mis Tachwedd 2017.

Ardal gadwraeth Ffynone ac Uplands - Adolygiad wedi'i gwblhau

Yn 2013, gwnaethom benodi ymgynghorwyr (The Conservation Studio) i gynnal adolygiad o Ardal Gadwraeth Ffynone er mwyn ailasesu'r gwerth pensaernïol a hanesyddol arbennig. Roedd hwn yn cynnwys adolygiad o ffiniau.
Close Dewis iaith