Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiadau Risg Newid yn yr Hinsawdd

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal asesiad o risgiau a wynebir gan y DU yn sgîl newid yn yr hinsawdd bob 5 mlynedd, sy'n ofynnol o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008.

Mae hyn yn seiliedig ar y ddogfen Independent Assessment of UK Climate Risk, y cyngor statudol a ddarparwyd gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC) a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig.

Mae'r asesiad risg yn ystyried chwe deg un risg hinsawdd a chyfle ar draws y DU sy'n torri ar draws amryfal sectorau'r economi ac yn blaenoriaethu'r wyth maes risg canlynol i weithredu arnynt:

  • risgiau i hyfywedd ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau daearol a dŵr croyw oherwydd peryglon lluosog
  • risgiau i iechyd pridd oherwydd llifogydd a sychder cynyddol
  • risgiau i storfeydd carbon naturiol a dal a storio carbon oherwydd peryglon lluosog
  • risgiau i gnydau, da byw a choed masnachol oherwydd peryglon hinsawdd lluosog
  • risgiau i gyflenwadau bwyd, nwyddau a gwasanaethau hanfodol oherwydd methiant cadwyni cyflenwi a rhwydweithiau dosbarthu yn sgîl yr hinsawdd  
  • risgiau i bobl a'r economi oherwydd methiant y system bŵer yn sgîl yr hinsawdd
  • risgiau i iechyd, lles a chynhyrchedd yn sgîl dod i gysylltiad cynyddol â gwres mewn cartrefi ac adeiladau eraill
  • amryfal risgiau i'r DU oherwydd effeithiau newid yn yr hinsawdd dramor

I weld yr adroddiad llawn ewch i UK Climate Change Risk Assesment 2022 (publishing.service.gov.uk)

Rydym yn un o dri awdurdod lleol sy'n cymryd rhan mewn prosiect ymchwil o'r enw 'Adaptation Pathways' gyda Phrifysgol Caerdydd i ddadansoddi'r 61 asesiad risg. Nod yr ymchwil hon yw cefnogi sefydliadau lleol ac arweinwyr cymunedol i ddeall yr effeithiau tebygol, digonolrwydd y cynllunio cyfredol a nodi camau gweithredu penodol i ddatblygu'r  gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2024