Sero Net 2050
Daw'r targed ar gyfer Sero Net 2050 o Gytundeb Paris yn 2015.
Daeth Cytundeb Paris yn gyfreithiol rwymol y flwyddyn ddilynol a hyd yn hyn, mae 192 o wledydd a'r Undeb Ewropeaidd wedi'i lofnodi. Mae'n dweud y bydd newid yn yr hinsawdd yn cael ei gyfyngu i ddim mwy na 2 radd Celsius, ac 1.5 gradd Celsius o ddewis, uwchlaw tymereddau cyn-ddiwydiannol. Darllenwch fwy am Gytundeb Paris ar wefan y CU (Yn agor ffenestr newydd).
Pam mae hyn yn bwysig? Wel, mae gwyddonwyr yn cytuno os yw tymereddau byd-eang cyfartalog yn mynd yn fwy na 2 radd Celsius yna bydd hyn yn gwneud bywyd ar y Ddaear yn anodd iawn i'r rhan fwyaf o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid gan gynnwys bodau dynol.
Mae Cyngor Abertawe yn cymryd y targed hwn o ddifri'. Gwyddwn fod angen i ni arwain drwy esiampl ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gyrraedd ein targed mewnol o allyriadau sero net erbyn 2030. Mae gennym ni yn Abertawe ffordd bell i fynd i gyrraedd sero net 2050 a'r unig ffordd y gallwn wneud hyn yw os ydym yn gweithio gyda'n gilydd.