Toglo gwelededd dewislen symudol

Blodau gwyllt

Ar hyn o bryd rydym yn hau oddeutu 40,000 metr sgwâr (bron 10 erw neu tua 6 cae pêl-droed) o flodau gwyllt ar draws oddeutu 190 o safleoedd yn Abertawe.

Blodau gwyllt ger y morglawdd ym Mhen-clawdd.

Drwy gydol diwedd y gwanwyn/yr haf mae'r blodau'n cynnig amrywiaeth o liwiau llachar i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau, yn ogystal â darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer pryfed a bywyd gwyllt ar draws ymylon ffyrdd, cylchfannau, parciau a thir garw.

Mae ein timau parciau a natur yn gweithio gyda'i gilydd i greu'r hafanau blodau gwyllt hyn er mwyn gwarchod a gwella bioamrywiaeth yr ardal.

Gwneud eich cymysgedd o hadau blodau gwyllt eich hun

Gallwch brynu'r hadau hyn mewn pecynnau unigol a'u cymysgu gyda'i gilydd gydag ychydig o dywod, a'u hau yn syth yn y pridd. Gallwch gymysgu'r cyfan gyda'i gilydd neu ddewis eich cymysgedd eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r pecynnau i weld faint o hadau sydd eu hangen i orchuddio'r ardal, ac addaswch yn ôl faint o becynnau rydych chi'n eu defnyddio a pha ardal yr hoffech ei hau.

Mae'r rhain yn gymysgedd o rywogaethau brodorol ac anfrodorol anymledol, a fydd yn denu ac yn bwydo pryfed peillio fel gwenyn ac ieir bach yr haf.

  • Glas yr Ŷd
  • Cosmos Mecsico cymysg
  • Pabïau coch
  • Melyn Mair cymysg
  • Tafod yr ych glas
  • Godetia cymysg 
  • Hocys cymysg

Sylwer mai blodau unflwydd yw'r rhain - byddant yn para blwyddyn yn unig a bydd angen eu hau bob gwanwyn.

Prosiectau bywyd gwyllt y dyfodol

Ar hyn o bryd rydym yn treialu hau cymysgeddau o hadau brodorol ar ardaloedd o dir a oedd wedi'u hau'n flaenorol, ac y mae angen mwy o faeth arnynt. Rydym wedi hau 5,000 metr sgwâr yn ystod hydref 2021. Mae hau planhigion lluosflwydd yn golygu unwaith y maent wedi'u hau, byddant yn dychwelyd bob blwyddyn gan farw yn yr hydref ac aildyfu yn y gwanwyn.

Ein harddangosfeydd blodau gwyllt

Dyma ddetholiad bach yn unig o arddangosfeydd blodau gwyllt haf y gorffennol. Sylwer y gall safleoedd amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Gallwch glicio ar y llun i weld fersiwn fwy.

 
 
 
 
 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Chwefror 2022