Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiad ynghylch y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Mae angen i ni ddadansoddi data ein gweithlu er mwyn deall a oes bwlch cyflog rhwng y rhywiau o dan reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 ar gyfer cyflogwyr sydd â 250 o weithwyr neu ragor, yn seiliedig ar 'ddyddiad cipolwg'.

Mae'r adroddiad presennol yn adlewyrchu'r data ar 30 Mawrth 2023. Gallwn hefyd gadarnhau bod y Cyngor wedi cyhoeddi'r wybodaeth angenrheidiol ar wefan GOV.UK (Yn agor ffenestr newydd).

Er bod y ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar fylchau cyflog yn ôl rhyw, mae'r Cyngor yn ymrwymedig i gyfle cyfartal i bob grŵp sydd â nodweddion gwarchodedig fel yr amlinellir yn adroddiad ein hadolygiad blynyddol o gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau (Mawrth 2024) (Word doc) [38KB]

Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023

  1. Datganiad agoriadol gan y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Arweinydd
  2. Beth yw'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau?
  3. Beth ydyn ni'n ei gynnwys yn ein cyfrifiadau?
  4. Data chwartel
  5. Cynllun Gweithredu i Gau'r Bwlch

1. Datganiad agoriadol gan y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Arweinydd

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 a chyhoeddi gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer ei weithlu yn flynyddol. Rhaid iddo wneud hyn drwy gyflwyno'r wybodaeth i'r Llywodraeth a'i roi ar wefan y Cyngor. Mae hyn yn cael ei gydnabod hefyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 lle, o dan "Cymru sy'n fwy cyfartal", nodir y dylai cyrff y sector cyhoeddus fod yn "cyhoeddi data ar nodweddion a warchodir a graddau cyflog yn y gweithlu", fel bod gennym "gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau".

Fel cyflogwr enghreifftiol, mae'r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r amcan sydd wedi'i gynnwys yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol i "leihau bylchau cyflog a chreu gweithlu mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu cymunedau amrywiol Abertawe'n well". Rydym eisiau sicrhau bod ein gweithwyr yn cael eu talu'n deg. Byddwn yn sicrhau bod ein strwythur cyflog a graddio, ein polisïau corfforaethol a'n harferion mewnol yn hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn fel ein bod yn cyflawni ein hamcan yn Strategaeth y Gweithlu i fod â "staff galluog sy'n cael eu cymell, eu cydnabod a'u hysgogi'n briodol i gyflawni diwylliant perfformiad uchel ar draws pob tîm ac arddangos ein gwerthoedd craidd". 

Wrth i ni barhau i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor a'r Ddinas rydym yn eu gwasanaethu, ni fu erioed yn bwysicach defnyddio manteision cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ganolog i hyn. Rydym yn falch o weld bod data 2023 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cau ymhellach a bod tegwch o ran cyflog yn gwella.

David Hopkins - Dirprwy Arweinydd

Martin Nicholls - Prif Weithredwr

2. Beth yw'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau?

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fesur o'r gwahaniaeth yng nghyflog cyfartalog (cymedrig neu ganolrifol) dynion a menywod, waeth beth fo natur eu gwaith, ar draws y sefydliad cyfan. Mae hyn fel arfer yn cael ei fynegi fel canran o gyflog dynion, gyda ffigwr positif o blaid dynion, a ffigwr negyddol o blaid menywod. 

Mae'n wahanol i gymharu cyflog cyfartal, sef cymharu dau berson neu grŵp o bobl sy'n cyflawni'r un gwaith, gwaith tebyg neu gyfwerth. Mae'r bwlch cyflog cyfartal yn cyfeirio at wahaniaethau na ellir eu cyfiawnhau mewn cyflog i ddynion a menywod sy'n ymgymryd â gwaith o werth cyfartal, lle mae hyn yn mynd drwy broses graffu ar lefel unigol, er enghraifft drwy broses Gwerthuso Swyddi.

Mae'r rheoliadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sydd â dros 250 o weithwyr gyhoeddi ystod o ddata gan gynnwys: 

  • Y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau 
  • Y bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau 
  • Y bwlch tâl bonws cymedrig rhwng y rhywiau 
  • Y bwlch tâl bonws canolrifol rhwng y rhywiau
  • Cyfran y dynion sy'n derbyn taliad bonws 
  • Cyfran y menywod sy'n derbyn taliad bonws 
  • Cyfran y dynion a'r menywod ym mhob band cyflog chwartel

Er mwyn bodloni'r gofynion adrodd, ar hyn o bryd mae gwybodaeth Ysgolion wedi'i heithrio, gan y dylai cyrff llywodraethu adrodd yn uniongyrchol lle mae'r sefydliadau'n cyflogi 250 neu fwy o staff.

3. Beth ydyn ni'n ei gynnwys yn ein cyfrifiadau?

Er mwyn bodloni gofynion adrodd rheoleiddiol, mae'n ofynnol i ni adrodd ar gyflogau llawn gweithwyr perthnasol yn unig, sy'n cael ei grynhoi ar ein gwefan a'i adrodd ar wefan .GOV

Er mwyn datblygu dealltwriaeth o wir ddarlun ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau, cynhaliodd y cyngor ddadansoddiad mwy manwl o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar draws pob un o'r graddau yn y prif strwythur cyflog yn 2019, fel y gellir tynnu sylw'n syth at faterion a allai gael dylanwad uniongyrchol ar faterion cyflog rhwng y rhywiau. Cyhoeddwyd y dadansoddiad hwn yn yr adroddiad blynyddol ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. 

Mae'r data a adroddir ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 ac mae'n seiliedig ar dâl 'gweithwyr perthnasol cyflog llawn' (ac eithrio ysgolion, gan gynnwys gweithlu achlysurol gweithredol).

Nid yw'n cynnwys tâl goramser, tâl sy'n ymwneud â dod a chyflogaeth i ben nac unrhyw fuddion eraill nad ydynt yn arian parod.

Rhoddodd y Cyngor ei brosiect Statws Sengl ar waith ym mis Ebrill 2014, gan ddileu pob taliad bonws i staff. Felly, adroddir bod hyn yn 0% ar wefan .GOV.

Gan ddefnyddio'r rheoliadau adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chanllaw "Public Sector: Gender Pay Gap Reporting" ACAS, rydym wedi casglu data cyflog gan weithwyr perthnasol gweithlu'r Cyngor, y mae 60% ohonynt yn fenywod a 40% yn ddynion. 

Rhywedd

Llawn Amser

Rhan Amser

Menywod

26%

34%

Dynion

34%

6%

 

Byddai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer y gweithlu llawn amser a rhan amser nad yw'n gweithio mewn ysgol, fel a ganlyn:

Tâl cyfartalog (cymedrig) fesul awr (31 Mawrth 2023)
 

Cymedrig

Tâl cyfartalog fesul awr 

Llawn Amser

Rhan Amser

Pawb

Dynion 

£15.61

 £12.74

 £15.17

Menywod 

£17.45

 £12.85

 £14.87

Bwlch Cyflog % 

-10.55%

-0.86%

2.01%

 

Tâl canolrifol fesul awr (31 Mawrth 2023)
 

Canolrifol

Tâl canolrifol fesul awr

Llawn Amser

Rhan Amser

Pawb

Dynion 

£15.25

 £11.38

 £14.43

Menywod 

£16.11

 £11.80

 £13.91

Bwlch Cyflog % 

-5.34%

-3.56%

3.73%

 

Mae ffigur positif yn dangos bod dynion yn derbyn cyflog uwch na menywod, mae ffigur minws yn dangos bod menywod yn derbyn cyflog uwch na dynion yn seiliedig ar y gyfradd tâl fesul awr.

Mae'r data'n dangos bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi'i nodi, ond mae hyn yn debygol o fod oherwydd y ganran uchel o weithwyr rhan amser yn y sefydliad sy'n fenywod. Mae'r Cyngor yn hyrwyddo gweithio'n hyblyg ac mae gweithwyr benywaidd yn fwy tebygol na gweithwyr gwrywaidd o wneud cais i weithio'n hyblyg. 

Mae gostyngiad yn y bwlch cyflog cyfartalog cyffredinol o 5.64% ar 31 Mawrth 2022 i 2.01% ar 31 Mawrth 2023. Mae'r bwlch cyflog canolrifol cyffredinol hefyd wedi gostwng o 12.64% ar 31 Mawrth 2022 i 3.73% ar 31 Mawrth 2023. 

4. Data chwartel

Mae'r gwahaniaeth yng nghanran y gweithwyr gwrywaidd a benywaidd ym mhob chwartel cyflog, yn seiliedig ar dâl fesul awr ar 31 Mawrth 2023, fel a ganlyn:

Isaf 

Canol Is 

Canol Uwch 

Uchaf 

Dynion 

Menywod 

Dynion 

Menywod 

Dynion 

Menywod 

Dynion 

Menywod 

70%

30%

64%

36%

53%

47%

42%

58%

Mae'r data hwn yn dangos gwahaniaeth cadarnhaol o blaid menywod yn y chwartel uchaf a gwahaniaethiad negyddol yn y chwarteli isaf. Mae cynnydd o 13% yn y menywod yn y chwartel uchaf yn amlwg o'i gymharu â 2022 ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol ar y bwlch cyflog.

5. Cynllun Gweithredu i Gau'r Bwlch

Yn 2024/25, bydd y Cyngor, fel rhan o'n Strategaeth Gweithlu pum mlynedd yn:

  • Adolygu ein dull o recriwtio a dethol i ystyried a oes rhwystrau i fenywod rhag ymgeisio am rolau ar draws pob chwartel yn y Cyngor.
  • Parhau i ddatblygu ein polisïau cyfeillgar i deuluoedd sy'n rhoi'r cyfle i ddynion a menywod weithio'n hyblyg er mwyn cynnal ymrwymiadau teuluol a phersonol
  • Ystyried materion yn ymwneud â rhywedd yn ein gweithgareddau cynllunio gweithlu a chynllunio olyniaeth
  • Ymdrechu i gyflogi gweithlu sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
  • Cefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd y gellir eu rheoli i gael gwaith ar bob lefel