Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet

Bydd angen i breswylwyr sydd am fynd â'u gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet gadw dyddiad a slot amser penodol o flaen llaw. Pwrpas hyn yw sicrhau y gallwn reoli lefelau traffig yn ddiogel yn ein prif ganolfan ailgylchu.

Rydym yn cynnig argaeledd i hyd at 18 cerbyd fynd i mewn i'n canolfan ailgylchu fesul slot amser. Dyrennir cyfanswm o 10 munud i bob cerbyd.

Mae canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Llansamlet ar agor i breswylwyr Cyngor Abertawe yn unig. Gofynnir i chi ddangos prawf o'ch cyfeiriad wrth i chi gyrraedd.

I drefnu archeb, dewiswch y dyddiad a'r amser yr hoffech ymweld â'r ganolfan. Mae slotiau ar gael bob pymtheg munud o 8.30am i 4.45pm.

Yna gallwch gofnodi'ch rhif cofrestru'r cerbyd a'ch manylion cyswllt. Gellir creu archeb ar gyfer ceir a hefyd faniau ac ôl-gerbydau os oes gennych drwydded ddilys

Pa fath o gerbydau a ganiateir yn y canolfannau ailgylchu?

Blaenorol

Hydref 2024

Nesaf
Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sadwrn Dydd Sul Dydd Llun
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu