Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol 2 - Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Caiff y CDLl2 ei lywio gan yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) i sicrhau yr asesir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y CDLl2.

Mae gofyniad statudol i Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) fod yn destun Arfarniad Cynaladwyedd (AC). Dylai'r Arfarniad Cynaladwyedd ymgorffori gofynion y Rheoliadau Arfarniad Cynaladwyedd Strategol (ACS); asesiad o'r CDLl2 newydd ar yr iaith Gymraeg; ac Asesiad Effaith Iechyd. Felly, fe'i hadwaenir yn gyffredin fel Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI). 

Rôl yr ACI yw asesu'r ffordd y bydd polisïau a chynigion datblygol y CDLl2 yn helpu i gyflawni'r amcanion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach. 

Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaladwyedd 

Cam cyntaf yr ACI yw'r cam 'cwmpasu'. Mae'n gam casglu tystiolaeth, pan adolygir cynlluniau, rhaglenni, strategaethau a pholisïau sy'n berthnasol i baratoi'r CDLl2 er mwyn nodi sylfaen dystiolaeth o les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, iechyd a diwylliannol presennol y sir. Cyflwynir materion arwyddocaol yn yr ardal sy'n berthnasol i'r system cynllunio defnydd tir. Mae'r Adroddiad Cwmpasu hefyd yn cynnwys y Fframwaith ACI sy'n cynnwys amcanion/meini prawf yr asesir strategaeth,

Ymgynghorwyd ar Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI) drafft yn ystod y cyfnod o fis Awst i fis Hydref ac mae'r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiwygio yn ôl yr angen yn dilyn yr ymgynghoriad, a bydd yr wybodaeth ynddo'n cael ei diweddaru  drwy gydol y broses ACI ailadroddol i lywio gwaith paratoi'r CDLl2.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Cymru a Lloegr) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a  Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 yn nodi'r angen i'r cyngor gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) (gan gynnwys Asesiad Priodol os oes angen) o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl2). 

Pwrpas yr ARhC yw canfod a fydd y CDLl2 yn cael unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar gyfanrwydd safleoedd bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol sy'n rhan o Rwydwaith Safleoedd Cenedlaethol y DU, yn benodol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) (y'u hadwaenid yn flaenorol fel safleoedd Naura 200), ac, fel mater o bolisi'r Llywodraeth, safleoedd Ramsar, naill ai ar wahân, neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill, ac i roi cyngor ar fecanweithiau polisi priodol ar gyfer darparu mesurau lliniaru lle caiff effeithiau o'r fath eu nodi.

Cam cyntaf yr ARhC fydd sgrinio ar gyfer Effeithiau Sylweddol Tebygol (ESTau) y cynllun ar safleoedd dynodedig o fewn a gerllaw Abertawe. Cyhoeddir manylion pellach yma wrth i hyn gael ei baratoi.

Close Dewis iaith