Cynllun Datblygu Lleol 2 - cytundeb cyflawni
Y Cytundeb Cyflawni (CC) yw'r cam allweddol cyntaf ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2)
Dyma grynodeb o gamau allweddol y broses ar gyfer y dyfodol:
Mae'r Cytundeb Cyflawni (CC) yn nodi'r amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl2. Mae hyn yn cynnwys y dyddiadau disgwyliedig ar gyfer cynhyrchu'r cynllun cyn 'adnau' drafft a chynnal yr 'Archwiliad Cyhoeddus' ar ei bolisïau a'i gynigion.
Mae'r CC hefyd yn cynnwys cynllun cynnwys y gymuned sy'n nodi sut a phryd y gall aelodau o'r cyhoedd, a rhanddeiliaid eraill, gymryd rhan yn y broses paratoi cynllun.
Cymeradwywyd Cytundeb Cyflawni CDLl2 diwygiedig (PDF, 1 MB) ar gyfer y CDLl gan y Cyngor ar 30 Ionawr a chytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith ar CDLl2 yn mynd rhagddo yn unol â'r CC.
Camau allweddol
Mae'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer camau allweddol proses y CDLl2 wedi'u nodi yn y Cytundeb Cyflawni fel a ganlyn:
Cam 2: Cyfranogiad Cyn-Adnau
- Galwad am safleoedd ymgeisio: Gwahoddir datblygwyr a hyrwyddwyr safle i gyflwyno safleoedd ymgeisiol (daeth cyfnod yr alwad am safleoedd i ben ar 31 Hydref 2023)
- Gweledigaeth ac Amcanion: Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu'r weledigaeth a'r amcanion a'r opsiynau strategol - Medi 2023 i Medi 2024 - daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Mehefin 2024.
Cam 3: Ymgynghoriad cyn-adnau
- Strategaeth a Ffefrir: Ymgynghoriad ac ymgysylltu cyhoeddus ar y strategaeth a ffefrir, a'r adroddiad arfarniad cynaladwyedd cychwynnol - Chwefror-Ebrill 2025.
Cam 4: Cyfranogiad/Ymgynghoriad Adnau
- Cynllun Adnau: Ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y CDLl2 drafft (a adwaenir fel y cynllun 'adnau') a'r adroddiad arfarniad cynaladwyedd terfynol - Haf/Hydref 2026. Bydd y Cynllun Adnau'n cyflwyno'r polisïau manwl a'r dyraniadau safle, yn seiliedig ar y materion allweddol, yr amcanion a'r dystiolaeth ategol ar gyfer y cynllun
Cam 5: Cyflwyno i'w Archwilio
- Cyflwyno'r CDLl2 a'r sylfaen dystiolaeth gyfatebol i Lywodraeth Cymru ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus - Gwanwyn 2027.