Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhaglen Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025 / 2026 - Canllawiau Ymgeisio am Grant

Grant eligibility criteria and guidelines.

Arweiniad ynghylch Gwneud Cais am Grant Cyfalaf ac amodau'r grant

  • Rhaid i ymgeiswyr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos, mewn perthynas â darpariaethau newydd, eu bod yn gweithio tuag at gael eu cofrestru gydag AGC. Bydd angen i Gyngor Abertawe fod yn fodlon bod bwriad gwirioneddol i fod yn weithredol ar adeg gwneud y cais.
  • Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn Abertawe.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod yn gallu cwblhau'r holl geisiadau dan y rhaglen gyfalaf a gwario'r arian yn llawn erbyn 31 Mawrth, 2026.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos tystiolaeth o'r angen am y buddsoddiad. 
  • Rhaid i ymgeiswyr ymgynghori â'u Swyddog Datblygu, lle bo hynny'n berthnasol.
  • Rhaid i ymgeiswyr gydnabod y buddsoddiad y maent wedi'i dderbyn mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo a roddir i rieni a/neu'r cyhoedd ehangach.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos ymrwymiad neu fwriad clir i ddarparu gofal plant am o leiaf 5 mlynedd. Os oes llai na 5 mlynedd yn weddill ar brydles, efallai y bydd angen estyn y cytundeb.
  • Rhaid i ymgeiswyrgydymffurfioâ chytundebau grant blaenorol.
  • Ni ddylai fod gan ymgeiswyr ôl-ddyledion mewn perthynas â rhaglenni gofal plant Llywodraeth Cymru; gan gynnwys Dechrau'n Deg neu'r cynnig gofal plant 30 awr.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i weithio ochr yn ochr â thîm Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar Cyngor Abertawe a/neu Swyddogion Datblygu Sefydliadau Partner i sicrhau gofal plant parhaol o safon a chynaliadwyedd tymor hir.

Canllawiau cwblhau grant

Cyflwyno cais

  • Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy'r ffurflen gais ar-lein.
  • Gellir cyflwyno ceisiadau lluosog hyd nes y bydd y dyraniad uchaf wedi'i ddyfarnu ar gyfer y darparwr unigol.
  • Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu gan Swyddog y Cyngor. Os bydd unrhyw ran o'r ffurflen yn anghyflawn, bydd y cais yn cael ei ddychwelyd i'r ymgeisydd er mwyn iddo ddarparu manylion pellach.
  • Gall ceisiadau y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt fod yn destun ymweliad lleoliad. 
  • Rhennir ceisiadau â'r sefydliad partner perthnasol y mae'r ymgeisydd wedi nodi ei fod yn aelod ohono.
  • Bydd pob cais yn destun craffu gan y panel a bydd y panel yn gwneud penderfyniad cyfunol. Bydd y penderfyniad hwn yn derfynol.

 


Dyfarniad Grant Cyfalaf Bach

Blaenoriaethau

Bydd grantiau bach yn cael eu blaenoriaethu i:

  • Gefnogi'r rheini sy'n cefnogi Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yr awdurdod lleol a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.
  • Lleoliadau sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a/neu sydd â phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg.
  • Lleoliadau sy'n cefnogi agenda cydleoli gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, er enghraifft ar safleoedd ysgolion, mewn canolfannau cymunedol a hybiau iechyd.
  • Lleoliadau sy'n darparu neu'n ehangu'r cynnig gofal plant a/neu leoedd Dechrau'n Deg mewn lleoliadau.
  • Gofal plant y gellir ei ddarparu yn ystod y diwrnod llawn, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posib i deuluoedd ar draws y flwyddyn.

 

Symiau
DarparwrUchafswm dyfarniad
Gwarchodwyr plant£5,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru ar gyfer 15 o leoedd neu lai£10,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru ar gyfer 16 i 29 o leoedd£15,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru ar gyfer 30 o leoedd neu fwy£20,000

Bydd swm y grant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a chyfiawnhad o'i angen. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl ddeunyddiau grant ac wedi siarad â'r Swyddog Datblygu priodol (lle y bo'n berthnasol) cyn cyflwyno unrhyw gais. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dyfernir symiau dros y symiau a ddangosir uchod.

Beth gellir ei ariannu?

Gellir cynnig cyllid ar gyfer gwaith cyfalaf amrywiol y gall fod ei angen, megis:

  • Gwaith adnewyddu cyffredinol, gan gynnwys paentio, gosod carpedi newydd, etc.
  • Gwella cyfleusterau chwarae yn yr awyr agored, fel ailosod yr arwyneb chwarae awyr agored, llochesi neu ddarparu canopi i alluogi chwarae a dysgu ym mhob tywydd.
  • Newid/atgyweirio gosodiadau a darnau gosod fel toiledau, cyfleusterau cegin, ffenestri, drysau etc.
  • Newid cyfarpar/dodrefn/offer chwarae sydd wedi treulio a allai beri risg i iechyd a diogelwch.
  • Addasiadau i wella mynediad, llif ac/neu ansawdd cyffredinol y profiad ar gyfer plant yng ngofal y darparwr.

Offer TG, ar yr amod y gellir dangos yn glir ei fod yno i gefnogi'r lleoliad i ddarparu cynnig mwy digidol i rieni (h.y. caniatáu i leoliad anfon adroddiadau drwy e-bost) a datblygiad plant.

TG
Cyfraniad ar gyfer bwrdd gwaithUchafswm o £450.00
Cyfraniad ar gyfer gliniadurUchafswm o £300.00
Cyfraniad ar gyfer argraffyddUchafswm o £100.00
Ni fydd ceisiadau am fyrddau gwyn rhyngweithiol, consolau gemau, iPads a / neu dabledi yn cael eu hystyried fel ceisiadau cymwys dan y grant hwn.

 

  • Darparu offer, celfi ac/neu addasiadau pwrpasol a fydd yn galluogi darparwr i wella arferion cynhwysol.
  • Prynu offer i wella'r defnydd o'r Gymraeg.
  • Cyfraniad tuag at brynu cerbyd.
    • Uchafswm o £10,000
      Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhoddir cyfraniad ar gyfer cerbyd. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth y bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gludo plant rhwng y lleoliadau gofal plant ac addysg. Bydd angen ffurflen gais ar wahân. Ni ellir gwneud cais am gyllid ar gyfer costau prydlesu na chostau cynnal fel yswiriant, petrol, gwaith atgyweirio, etc. Cais am gerbyd

Cyflenwyr dibynadwy, ansawdd a hirhoedledd

Mae gan y Rhaglen Gyfalaf gymal gofyniad 5 mlynedd; felly, rhaid i ymgeiswyr ystyried hirhoedledd tymor hir yr eitemau a'r gwaith y gwnaed cais amdanynt. I sicrhau bod cynnyrch yn bodloni safonau diogelwch uchel mae'n rhaid iddynt gael eu prynu gan gyflenwyr blynyddoedd cynnar dibynadwy, megis:

Community Playthings, HOPE, TTS, COSY Direct, ROMPA etc.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn ystyriol bod yr holl eitemau a brynwyd yn bodloni safonau diogelwch a manylebau BSN a bod ganddynt warantiad digonol.

Bydd angen o leiaf dau ddyfynbris ar gyfer gwaith adeiladu. Rhaid darparu dyfynbrisiau ar bapur pennawd a rhaid cynnwys dadansoddiad llawn o'r gwaith.

Beth na ellir ei ariannu?

Mae'r arian grant ar gyfer pryniannau cyfalaf yn unig, ni ellir ei ddefnyddio i ariannu'r canlynol:

  • Prynu nwyddau traul, fel papur, deunyddiau glanhau, cewynnau etc.
  • Costau staff fel cyflogau, hyfforddiant, teithio a chynhaliaeth.
  • Prynu dillad, e.e. Gwisgoedd, esgidiau glaw etc.
  • Biliau cyfleustodau fel nwy, trydan, ardrethi.
  • Darparu costau cynnal ar gyfer cysylltiad wifi.
  • Costau yswiriant e.e. yswiriant adeiladu, yswiriant atebolrwydd cyflogwyr etc.
  • Teganu

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw eitem yn gymwys, e-bostiwch ruth.james@abertawe.gov.uk

Nodiadau pellach am geisiadau grant gan warchodwyr plant

Gan fod gwarchodwyr plant yn gweithio ar safleoedd domestig, dylent ddangos yn glir natur yr hyn y gofynnir amdano a pham, a sut mae hyn o fudd i'r lleoliad gwarchod plant a'r plant yn eu gofal. Oni bai fod amgylchiadau eithriadol, ni ddylid darparu cyfraniad grant bach ar gyfer cerbydau, gwaith adnewyddu cyffredinol, ailosod neu atgyweirio ffitiadau o fewn yr eiddo domestig. Fodd bynnag, bydd pob achos yn cael ei asesu yn ôl yr angen, yr amgylchiadau a'r amgylchedd lle mae'r ddarparieth gwarchod plant yn cael ei darparu.

Nodiadau pellach i ymgeiswyr sydd wedi'u lleoli yn adeiladau'r awdurdod lleol

  • Rhaid i'r holl waith arfaethedig ar neu o fewn adeiladau'r awdurdod lleol gael ei drafod â swyddogion perthnasol cyn cyflwyno unrhyw geisiadau.
  • Bydd unrhwy geisiadau a dderbynnir nad ydynt yn trafod y prosiect nac wedi cael y caniatâd angenrheidiol, h.y. caniatâd y landlord, yn cael eu gwrthod yn awtomatig.
  • Rhaid i'r holl waith arfaethedig ar neu o fewn adeiladau'r awdurdod lleol gael ei gwblahu drwy'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol.
  • Ni ddylid cysylltu â'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol am ddyfynbrisiau hyd nes y cytunir ar y cynnig mewn egwyddor.
  • Y lleoliad a / neu'r ysgol fydd yn gyfrifol am unrhyw ffioedd a godir pan na chytunir ar waith cyfalaf ac ni fyddant yn cael eu derbyn fel tâl i'r rhaglen gyfalaf.
  • Ni ddylai gwaith arfaethedig symud unrhyw fan chwarae swyddogaethol sylweddol o safle'r ysgol.

Proses cymeradwyo grant

  • Bydd pob cais llwyddiannus yn derbyn llythyr dyfarnu. Bydd y llythyr yn cynnwys yr amodau a thelerau llawn. Dim ond ar ôl i'r dyfarniad gael ei dderbyn yn ffurfiol, gan gynnwys copi wedi'i lofnodi o'r amodau a thelerau, y bydd unrhyw ddyfarniad yn cael ei ryddhau.
  • Lle teimlir ei fod yn briodol, gellir rhannu dyfarniadau yn daliadau ar wahân. Mewn achosion o'r fath, ar ôl i daliad cychwynnol gael ei wneud, gwneir rhandaliadau pellach ar ôl cwblhau'r gwaith yn llwyddiannus a / neu sicrhau contractwyr addas.
  • Rhaid i unrhyw welliannau / addasiadau i adeilad gydymffurfio â rheoliadau adeiladu cyfredol a / neu gadw at safonau rheoleiddio h.y. rhaid i ffenestr gael ei gosod yn ôl cymeradwyaeth FENSA etc.
  • Bydd unrhyw bryniant a / neu waith a gwblhawyd oherwydd dyfarniad cyfalaf yn cael ei fonitro'n agos. Bydd angen i geisiadau llwyddiannus lenwi dogfennaeth sicrhau ansawdd, darparu tystiolaeth o wariant a derbyn ceisiadau gan swyddogion yr Awdurdod Lleol i ymweld â'r lleoliad.
  • Rhaid i unrhyw newidiadau i'r cais gwreiddiol gael eu trafod a'u cytuno arnynt gan swyddog y cyngor cyn clustnodi unrhyw grant i'r cynnig newydd. Gall hyn olygu y bydd angen i chi ail-ymgeisio.

Nodiadau ychwanegol

  • Mae'r holl gyllid a roddir drwy'r rhaglen gyfalaf am flwyddyn yn unig ac mae'n rhaid ei wario a chwblhau unrhyw waith erbyn 31 Mawrth 2026.
  • Bydd Tîm Partneriaeth a Chomisiynu Cyngor Abertawe yn archwilio'r cyllid yn ystod ac ar ôl cwblhau'r prosiect.
  • Rhaid i unrhyw gyfrifon gywnnys tystiolaeth lawn o wariant, gyda derbynebau.
  • Bydd dau gyfarfod panel: Gweler isod. Dim ond ar ôl eu cwblhau'n llawn y bydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno i'r panel. Caniatewch o leiaf 7 niwrnod gwaith cyn dyddiadau'r paneli er mwyn sicrhau y gellir derbyn eich cais.

 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn caisDyddiad panel dros dro
Dydd Mawrth 20 MaiDydd Iau 29 Mai
Dydd Mawrth 14 HydrefDydd Iau 23 Hydref

Rydym yn disgwyl y bydd galw uchel am y grant. Gwnewch yn siŵr bod yr holl geisiadau'n realistig ac yn cynnwys y dystiolaeth briodol. Caiff yr holl geisiadau eu hasesu ar sail unigol. Efallai y cynhelir cyfarfod panel ychwengol ar gyfer ceisiadau brys.

Amodau a thelerau

Disgwylir i bob darparwr sy'n derbyn arian dderbyn y cynnig yn ffurfiol yn ysgrifenedig (mae e-bost yn dderbyniol), a llofnodi'r ddogfen amodau a thelerau'r grant sydd ynghlwm wrth y llythyr dyfarnu.

I gael cymorth ychwanegol wrth gwblhau cais am grant, gweler: Canllawiau cwblhau grant

Dolenni ychwaengol:

 


Os ydych am dynnu eich cais yn ôl ar unrhyw adeg, rhowch wybod i'r tîm ar unwaith.

I drafod eich cais a / neu dderbyn rhagor o wybodaeth am y grantiau, siaradwch â Ruth James: ruth.james@abertawe.gov.uk neu 07554 554768

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ebrill 2025