Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiad Ymgysylltu Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-2028

Cafodd datblygiad ein Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-2028 ei oruchwylio gan y Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol.

Y broses ymgysylltu

Cafodd datblygiad ein Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-28 ei oruchwylio gan y Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol. Cadeirydd y Bwrdd yw Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Diwylliannol a Chydraddoldeb ac mae'r aelodaeth hefyd yn cynnwys Aelod y Cabinet dros Les a'r Cynghorydd Hyrwyddo dros Amrywiaeth, yn ogystal ag amrywiaeth o swyddogion sydd â chyfrifoldeb i ddarparu cyngor mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Diben y Bwrdd yw darparu trosolwg strategol mewn perthynas â chyfrifoldebau'r Cyngor o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Cyn datblygu Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-28 cytunodd y Bwrdd ar yr egwyddorion canlynol i lywio'r broses:

  • Ymgysylltu cynnar ac agored - mewn perthynas â nodi materion cydraddoldeb a chamau posib (camau gweithredu).
  • Ymgysylltu cymesur ac adeiladu ar sgyrsiau blaenorol - gan ddefnyddio gwaith ymgynghori ac ymgysylltu blaenorol.
  • Gonestrwydd a thryloywder - mewn perthynas ag ymgysylltu, rhoi adborth i bobl a'r camau posib y gall y Cyngor eu cymryd.
  • Egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth - dylai datblygiad amcanion cydraddoldeb strategol gael ei lywio gan ganlyniadau'r broses ymgysylltu cynnar a'r sylfaen dystiolaeth ehangach.
  • Sicrhau bod digon o arian ar gael - dylid cynnwys yr holl gamau (camau gweithredu) sy'n rhan o'r amcanion cydraddoldeb strategol dim ond os oes cyllideb i dalu amdanynt h.y. eu bod wedi'u cynnwys yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor ac yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.
  • Monitro a gwerthuso - dylai pob amcan a cham cydraddoldeb strategol (camau gweithredu) gynnwys mesurau llwyddiant a DPA lle bo hynny'n bosib i fonitro cynnydd a gwerthuso canlyniadau.

Ymgysylltu

Dechreuodd y cam ymgysylltu cynnar ym mis Medi 2023 drwy ffurfio grŵp ymgysylltu CCS trawsadrannol mewnol. Daw aelodau'r grŵp o holl gyfarwyddiaethau a gwasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Tai, Lleoedd a Mynediad at Wasanaethau. Diben y grŵp oedd hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau ymgysylltu drwy:

  • nodi unrhyw ymgysylltu/ymgynghori diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • nodi unrhyw grwpiau cydraddoldeb presennol, y pwynt cyswllt/hwylusydd arweiniol;
  • amlinellu unrhyw gyfarfodydd/ddigwyddiadau yn y dyfodol, lleoedd lle gall pobl nodi materion cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • cefnogi datblygu cynllun ymgysylltu;
  • cefnogi datblygu pecyn adnoddau, cwestiynau allweddol a/neu nodi unrhyw ddeunydd, proses neu adnoddau eraill a all helpu grwpiau i nodi materion cydraddoldeb allweddol;
  • nodi unrhyw fylchau mewn perthynas ag ymgynghori â grwpiau â nodweddion gwarchodedig ac awgrymu ffyrdd y gellir llenwi'r rhain;
  • adolygu'r wybodaeth a gafwyd o'r gwaith ymgysylltu er mwyn llywio'r amcanion cydraddoldeb drafft;
  • tynnu sylw at unrhyw risgiau a materion allweddol o ran ymgysylltu â'r Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol ac wedyn i'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol

Nododd adolygiad ymgysylltu/ymgynghori diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth nifer o gynhyrchion ymgysylltu ac ymgynghori diweddar allweddol y gellid eu defnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun a'r amcanion cydraddoldeb strategol:

  • Adroddiad Ymgysylltu Hawliau Dynol Abertawe (2022).
  • Adroddiad Ymgysylltu Cynllun Gweithredu Hawliau Dynol Abertawe (2023).
  • Cynllun Corfforaethol y Cyngor - canlyniadau ymgynghori (2023).
  • Cyllideb Refeniw'r Cyngor - canlyniadau ymgynghori (2023).
  • Arolwg Ymgysylltu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (2022): Asesiad o Les Lleol.
  • Abertawe Mwy Diogel: Diwrnodau Ymgysylltu â'r Gymuned (2022).
  • Gwrando ar Blant a Phobl Ifanc (2023).
  • Plant a Phobl Ifanc - Gwerthoedd a Rennir (2023), Diwrnod Rhuban Gwyn (2022) a Murluniau Cymunedol (2022).
  • Strategaeth Trechu Tlodi'r Cyngor.

 

Themâu a materion o ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol
YmgysylltuThemâu a materion
Hawliau dynol Abertawe
  1. Trechu Tlodi
  2. Plant a theuluoedd sy'n agored i niwed
  3. Mynd i'r afael â gwahaniaethu
  4. Cam-drin Domestig a Thrais
  5. Ymwybyddiaeth o Hawliau Dynol
Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2023-28
  1. Diogelu pobl rhag niwed
  2. Gwella addysg a sgiliau
  3. Trawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd
  4. Mynd i'r afael â thlodi a galluogi cymunedau
  5. Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd
  6. Trawsnewid a Chadernid Ariannol
Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2023-24
  1. Darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, yn hytrach na'u colli
  2. Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol
  3. Gofalu am Bobl Hŷn ac Oedolion Anabl, Atgyweirio Strydoedd / Ffyrdd, Tai a Digartrefedd, Cadw Plant yn Ddiogel, Trechu Tlodi a Pharciau a Mannau Gwyrdd.
Asesiad o Les Lleol - Bwrdd
  1. Lles cymdeithasol: (Iechyd meddwl, iechyd corfforol, trosedd a diogelwch)
  2. Lles economaidd: (cyfleoedd cyflogaeth da, incwm digonol, cyfleoedd dysgu)
  3. Lles amgylcheddol: (gwastraff ac ailgylchu, natur, ansawdd aer)
  4. Lles diwylliannol: (asedau diwylliannol gan gynnwys lleoedd / pobl, cyfranogiad cymunedol / gwirfoddoil a'r celfyddydau / treftadaeth
Amrywiol - Plant a Phobl Ifanc
  1. Diogelwch a theimlo'n ddiogel yn ein cymuned
  2. Gwell chwaraeon, cydraddoldeb a chyfleusterau
  3. Iechyd meddwl
  4. Newid yn yr hinsawdd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol
  5. Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol - cydraddoldeb
  6. LHDTC+
  7. Camddefnyddio sylweddau a fepio
  8. Ymwybyddiaeth o anableddau gweladwy a rhai nad ydynt yn weladwy a chydraddoldeb
Trechu Tlodi
  1. Cynhwysiant digidol
  2. Cefnogaeth gymunedol
  3. Gwybodaeth, arweiniad a chyngor
  4. Stigma a gwahaniaethu
  5. Tlodi plant
  6. Mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal
  7. Iechyd a Lles

Methodoleg

(i) Grwpiau

Mewn perthynas â nodi grwpiau cydraddoldeb presennol ac unrhyw gyfarfodydd/ddigwyddiadau yn y dyfodol, lleoedd lle gall pobl nodi materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, nododd aelodau grŵp ymgysylltu'r Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol  gysylltiadau allweddol, grwpiau, a digwyddiadau/cyfarfodydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol. Defnyddiwyd techneg samplu arall - lle gofynnwyd i'r cysylltiadau allweddol hyn nodi cyfranogwyr posib eraill.Arweiniodd y dechneg hon at recriwtio cyfranogwyr ychwanegol ym Mhrifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolwyr y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae Tabl 1 isod yn dangos cyrhaeddiad y gwaith ymgysylltu cynnar gyda grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig1 (gan gynnwys 3 ystyriaeth ychwanegol sy'n berthnasol i Abertawe mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth):

1Aseswyd mapio yn ôl nodweddion gwarchodedig a'r tair ystyriaeth ychwanegol ar gyfer Abertawe ar sail materion/camau gweithredu posib a grybwyllwyd gan y grŵp, yn hytrach na chyfansoddiad aelodau'r grŵp. Ni ddylid ystyried bod y grwpiau hyn yn gynrychioliadol o bob grŵp o bobl â nodweddion gwarchodedig, ond fel cipolwg ansoddol ar rai o'r materion a'r camau gweithredu posib.

Tabl 1: Cyrhaeddiad y gwaith ymgysylltu cynnar
Digwyddiad / sesiwnOedranAnableddAilbennu rhyweddBeichiogrwydd a mamolaethHilCrefydd neu gredPriodas / partneriaeth sifilRhywCyfeiriadedd rhywiolDyletswydd economaiddY GymraegCenedlaethau'r dyfodolDinas hawliau dynol
Cynrychiolwyr rhyng-ffydd         
Sesiwn ymgysylltu CCS x 2        
Cwtsh Cydweithio x 2   
Fforwm LHDT y Cyngor        
Fforwm Rhieni / Gofalwyr           
Cynghorwyr Hyrwyddo         
Ceiswyr lloches a ffoaduriaid         
Grŵp Cyswllt Anableddau            
Cydlynwyr PDG         
Darparwyr Gofal Cartref         
Digwyddiad BGC / Gwasanaeth Tân          
Diwrnod Hawliau Plant    
Eiriolaeth eich Llais        

(ii) Data ac offer gwybodaeth a 'chwestiynau allweddol'

Er mwyn llywio'r broses ymgysylltu gynnar, datblygodd grŵp ymgysylltu Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol y Cyngor becyn adnoddau a chyflwyniad, gan gynnwys datblygu "cwestiynau allweddol" y gellid eu defnyddio i nodi materion a chamau gweithredu posib, gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddata a dulliau ac offer casglu gwybodaeth.  Cytunwyd ar "gwestiynau allweddol" i sicrhau bod thema ymchwilio gydlynol ar draws y gwahanol fathau o offer a dulliau casglu data a gwybodaeth a ddefnyddiwyd.

Roedd y prif ddulliau ac offer casglu data a gwybodaeth fel a ganlyn:

  • grwpiau ffocws ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda grwpiau/rhwydwaith cydraddoldeb presennol (gweler Tabl 1 uchod);
  • trafodaeth ag unigolion mewn digwyddiadau galw heibio fel y siop dan yr unto yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, Fforwm Rhieni Gofalwyr, Eiriolaeth Eich Llais a Diwrnod Hawliau Plant;
  • datblygu holiadur ymgysylltu cynnar ar-lein, a gynhelir ar wefan y Cyngor;
  • cynnwys cwestiynau penodol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn arolwg i breswylwyr Cyngor Abertawe.

Gan ystyried yr egwyddorion y cytunwyd arnynt ar ddechrau'r broses ymgysylltu, datblygwyd dau gwestiwn penagored allweddol a chawsant eu defnyddio ar draws yr holl ddulliau casglu data a gwybodaeth at ddibenion ymgysylltu:

  • Beth rydych chi'n meddwl yw'r materion anghydraddoldeb mwyaf arwyddocaol sy'n effeithio ar bobl yn Abertawe?
  • Pa gamau y gall y Cyngor eu cymryd i fynd i'r afael â materion anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe?

Hyrwyddwyd cyfleoedd i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu yn fewnol drwy ein sianeli cyfathrebu corfforaethol fel Staffnet, cylchlythyrau a Blog y Prif Weithredwr. Bu aelodau o grŵp ymgysylltu'r CCS hefyd yn hyrwyddo gwybodaeth am y gwaith ymgysylltu drwy eu cyfarwyddiaeth eu hunain a fforymau sy'n benodol i'r gwasanaeth a chylchlythyrau fel ein Fforwm Trechu Tlodi a dulliau cyfranogiad tenantiaid. Yn olaf, gwnaethom hefyd gynyddu ymwybyddiaeth o'r broses ymgysylltu â'n partneriaid fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a rannodd y dolenni i'n harolygon a chan amlinellu ffyrdd eraill o gymryd rhan yn y broses drwy ymuno â grŵp ffocws neu drwy fynd i gyfarfod/ddigwyddiad grŵp neu sesiwn galw heibio. 

Canlyniadau ymgysylltu

Mae crynodeb o ganlyniadau'r arolwg i breswylwyr ar gael isod:

Crynodeb o ganfyddiadau allweddol arolwg i breswylwyr 2023
ThemâuIs-themâu
Gwahaniaethu (45%)

Anabledd - materion sy'n ymwneud â mynediad (e.e. adeiladau, yr amgylchedd adeiledig, parcio, trafnidiaeth, toiledau) diffyg cefnogaeth/gwasanaethau, ac eisiau mwy o gyfranogiad wrth wneud penderfyniadau.

Hilliaeth - enghreifftiau o hiliaeth (o bobl ddu ac ethnig leiafrifol) a grwpiau eraill yn wynebu hiliaeth (e.e. di-Gymraeg), barn senoffobig a lleoliaeth.

Gwahaniaethu ar sail oedran - pobl hŷn ac ifanc. Pobl hŷn - cyrchu gwasanaethau, cefnogaeth, unigrwydd ac unigedd. Pobl ifanc - tai, cyflogaeth a mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Homoffobia a thrawsffobia - nid yw troseddau casineb yn cael eu trin yn effeithiol ar ôl adrodd amdanynt ac mae  digwyddiadau cymunedol yn cael eu hymyleiddio.

Rhywiaeth / rhywedd - cyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig, cyflog anghyfartal, hawliau merched, diogelwch a rhyddid rhag camdriniaeth ac aflonyddu.

Iaith - rhagfarn tuag at y Gymraeg. Ieithoedd a fformatau eraill.

Digidol - anawsterau o ran cyrchu a thalu am wasanaethau ar-lein.

Tlodi (21%)

Anallu i sicrhau incwm, adnoddau a mynediad digonol at wasanaethau.

Tlodi - ysgogydd anghydraddoldeb sylweddol, ond hefyd yn ganlyniad i anghydraddoldeb.

Anghydraddoldeb rhwng gwahanol gymunedau daearyddol - rhaniad incwm a chyfoeth.

Tai (13%)

Anhawster wrth gael mynediad at dai cymdeithasol fforddiadwy o ansawdd da.

Sector rhentu preifat - drud ac o ansawdd gwael.

Bylchau penodol o ran tai ar gyfer pobl ifanc.

Canfyddiadau o annhegwch mewn perthynas â dyrannu tai cymdeithasol.

Digartrefedd.

Cymunedau (13%)

Camddefnyddio sylweddau (cyffuriau ac alcohol) a throsedd (gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ofn troseddau).

Diffyg gwasanaethau a chefnogaeth yn y gymuned.

Anghydraddoldebau rhwng cymunedau daearyddol yn Abertawe.

Trafnidiaeth (9%)

Darpariaeth, hygyrchedd a fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus - yn enwedig bysus.

Effeithiau trafnidiaeth gyhoeddus - mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau.

Grwpiau sy'n agored i niwed i dlodi trafnidiaeth - yr henoed, pobl ifanc a phobl mewn tlodi.

Gwaith (9%)

Anhawster cael mynediad at swyddi o ansawdd da sy'n talu'n dda.

Trafnidiaeth gyhoeddus, oedran, cyfrifoldebau gofalu (gan gynnwys gofal plant).

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Canfyddiad bod rhai pobl sy'n gweithio yn waeth eu byd na phobl nad ydynt yn gweithio.

Iechyd (6%)

Anhawster wrth gyrchu rhai gwasanaethau/darpariaeth, rhestrau aros.

Diffyg cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl.

Addysg (4%)

Effaith tlodi ar addysg a chanlyniadau hirdymor.

Tlodi yn effeithio ar y gallu i gymryd rhan mewn addysg yn llawn.

Cael mynediad at addysg gynhwysol. Niwroamrywiaeth

Gofal Cymdeithasol (3%)

Cael mynediad at ofal cymdeithasol a diffyg darpariaeth.

Diffyg cefnogaeth i'r henoed, pobl ag anableddau a gofalwyr.

Gwahaniaethau daearyddol o ran mynediad a chymorth canfyddedig

Digidol (2%)Anawsterau sy'n ymwneud â chael mynediad at wasanaethau ar-lein - pobl hŷn a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau.

Arolwg i breswylwyr

Yn holiadur i breswylwyr y cyngor, ymatebodd cyfanswm o 676 o bobl i gwestiwn a oedd yn gofyn i bobl nodi'r materion anghydraddoldeb mwyaf arwyddocaol yn Abertawe. O'r 676 o ymatebion, ni roddodd 31 ateb cadarnhaol, dywedodd 25 nad oeddent yn credu bod unrhyw faterion anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe ac roedd 6 arall yn ansicr. Felly cyfrifwyd y sylfaen ar gyfer dadansoddi fel 614.

Materion anghydraddoldeb mwyaf arwyddocaol yn Abertawe

Gofynnwyd dau gwestiwn penagored i ymatebwyr a dadansoddwyd atebion wedi hynny gan ddefnyddio ffrâm godio. Cafodd themâu cychwynnol eu drafftio ar sail themâu allweddol yn y sylfaen dystiolaeth ehangach ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, gwaith ymgynghori blaenorol a nifer y cyfeiriadau yn yr holiadur. Cafodd pob ymateb ei godio yn ôl y thema(themâu) a grybwyllwyd. Cafodd ymatebion a oedd yn cynnwys mwy nag un thema eu codio yn ôl pob thema a grybwyllwyd. Felly rhoddwyd ymatebion a oedd yn cynnwys themâu lluosog i bob thema a grybwyllwyd. Mae canlyniadau'r hoiadur isod yn cyfeirio at nifer a chyfran yr amseroedd y crybwyllwyd y thema, yn hytrach na nifer a chyfran yr ymatebwyr yn unig.

Roedd y materion anghydraddoldeb sylweddol a nodwyd amlaf fel a ganlyn:

  • Gwahaniaethu, gan gynnwys canfyddiadau o degwch, urddas a pharch. Crybwyllwyd y mater hwn gan ychydig o dan hanner yr holl ymatebwyr (43% n=265). O'r ymatebwyr hynny a soniodd am y mater hwn, cyfeiriwyd at anghydraddoldeb mewn perthynas ag anabledd, hiliaeth, oedran, homoffobia, trawsffobia, rhywiaeth, rhywedd ac iaeth.

    Soniodd bron i 1 o bob 4 o bobl (24% n=64) a soniodd am wahaniaethu fel mater anghydraddoldeb sylweddol, am y mater hwn mewn perthynas ag anabledd. Roedd ymatebwyr yn ystyried anabledd fel mater anghydraddoldeb sylweddol mewn perthynas ã materion mynediad, diffyg cefnogaeth / gwasanaethau a chyfranogiad wrth wneud penderfyniadau. O ran anabledd a materion mynediad, cyfeiriwyd sawl gwaith at anawsterau'n ymwneud â mynediad ffisegol i adeiladau a'r amgylchedd adeiledig, parcio a thrafnidiaeth:

    O'r ymatebwyr hynny a soniodd am wahaniaethu, soniodd 15% (n=41) yn benodol am hiliaeth, fel anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe:

    O'r ymatebwyr hynny a soniodd am wahaniaethu, soniodd 16% (n=42) yn benodol am oedran (pobl hŷn a phobl ifanc), fel mater anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe. O ran pobl hŷn, crybwyllwyd gwahaniaethu ar sail oed yn gyffredinol ac mewn perthynas ag anawsterau sy'n gysylltiedig â chael mynediad at wasanaethau, cymorth, unigrwydd ac arwahanrwydd.

    O'r ymatebwyr hynny a soniodd am wahaniaethu, soniodd 4% (n=12) yn benodol am homoffobia fel mater anghydraddoldeb sylweddol. Rhoddwyd enghreifftiau mewn perthynas â throseddau casineb yr adroddwyd amdanynt nad oeddent yn cael eu trin yn effeithiol a digwyddiadau cymunedol sydd wedi'u gwthio i'r cyrion.

    O'r ymatebwyr hynny a soniodd am wahaniaethu, soniodd 4% (n=12) yn benodol am ryw a rhywedd, fel mater anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe. Rhoddwyd enghreifftiau mewn perthynas â gwahaniaethau o ran cyflogaeth a dilyniant a chyflog. Cyfeiriodd un neu ddau o ymatebwyr hefyd at yr anghydraddoldeb a brofir gan fenywod mewn perthynas â rhyw fiolegol a rolau rhyw a luniwyd yn gymdeithasol.

    Nododd nifer bach o ymatebwyr y Gymraeg fel anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe (n=8). Mewn rhai achosion, roedd yn anodd deall ym mha ffyrdd yr oedd y Gymraeg yn sbardun i anghydraddoldeb gan fod rhai ymatebwyr wedi ysgrifennu 'y Gymraeg' yn unig yn yr holiadur. Fodd bynnag, awgrymodd nifer bach o ymatebwyr fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth / tuedd dros y Saesneg.

 

  • Tlodi. Soniodd ychydig dros un rhan o bump (21% n=132 o ymatebwyr) a nododd broblem anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe, am dlodi mewn rhyw ffordd.

    Nododd bron i 60% o'r ymatebwyr (n=78) fod termau cyffredinol tlodi yn brif ysgogydd anghydraddoldeb yn Abertawe.

    Soniodd rhai ymatebwyr am dlodi fel anghydraddoldeb sylweddol o ran anallu i sicrhau incwm, adnoddau neu fynediad digonol at wasanaethau.

    Soniodd ymatebwyr eraill am effaith tlodi fel ysgogydd anghydraddoldeb sylweddol a / neu dlodi fel canlyniad i faterion hirdymor eraill. Soniodd rhai ymatebwyr am dlodi o ran anghydraddoldeb rhwng gwahanol gymunedau yn Abertawe.

 

  • Tai. O'r ymatebwyr hynny a nododd broblem anghydraddoldeb sylweddol, soniodd 13% (n=82) am dai fel maes anghydraddoldeb. Awgrymodd mwyafrif yr ymatebwyr, sef 65% (n=54) a nododd dai fel mater anghydraddoldeb sylweddol fod anawsterau yn ymwneud â chael mynediad at dai cymdeithasol a fforddiadwyedd tai o ansawdd da yn y sector rhentu preifat.

    Nododd rhai cyfranogwyr broblemau penodol gyda'r sector rhentu preifat a oedd yn cael ei ystyried yn ddrutach ac o ansawdd gwaeth na thai cymdeithasol.

    Soniodd rhai ymatebwyr am fylchau penodol mewn tai ar gyfer pobl ifanc.

    Roedd canfyddiad hefyd gan rai ymatebwyr fod rhai agweddau ar y polisi dyrannu tai cymdeithasol yn annheg.

    Soniodd ychydig dros draean o'r ymatebwyr (38% n=31) a nododd dai fel materion anghydraddoldeb sylweddol am ddigartrefedd a chymorth cysylltiedig.

 

  • Cymunedau. Soniodd ychydig dros 10% o ymatebwyr a nododd broblem anghydraddoldeb sylweddol (13% n=79) am faterion cymunedol fel maes anghydraddoldeb. Roedd enghreifftiau'n cynnwys camddefnyddio sylweddau, troseddau a diogelwch cymunedol, diffyg gwasanaethau yn y gymuned ac anghydraddoldebau rhwng cymunedau penodol yn Abertawe.

    Soniodd ymatebwyr fod y canfyddiadau o ddibyniaeth ar gyffuriau a chamddefnyddio alcohol weithiau'n amlygu ofn troseddau a theimlo'n anniogel.

    Soniwyd hefyd am ddiffyg cefnogaeth a darpariaeth yn y gymuned. O'r ymatebwyr hynny a nododd faterion cymunedol fel mater anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe.

 

  • Trafnidiaeth. O'r ymatebwyr hynny a nododd broblem anghydraddoldeb sylweddol, soniodd 9% (n=57) am drafnidiaeth fel maes anghydraddoldeb. Awgrymodd tua dwy ran o dair o'r ymatebwyr, sef 66% (n=37) a ddywedodd fod trafnidiaeth yn broblem anghydraddoldebau sylweddol fod anawsterau'n ymwneud â darpariaeth, hygyrchedd a fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus.

    Nododd rhai ymatebwyr fod trafnidiaeth yn adnodd hanfodol o ran cael mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau iechyd ac adnoddau eraill.

    O'r ymatebwyr hynny a nododd fod trafnidiaeth yn broblem sylweddol o ran anghydraddoldeb, annigonolrwydd teithio ar fysus fel math o drafnidaeth gyhoeddus a grybwyllwyd amlaf gan y grŵp hwn.

    Soniodd rhai ymatebwyr am grwpiau penodol o bobl fel yr henoed, pobl ifanc, pobl ag anableddau a phobl sy'n byw mewn tlodi fel rhai sy'n wynebu risg arbennig o effaith trafnidiaeth gyhoeddus wael.

 

  • Gwaith. Soniodd ychydig o dan 1 o bob 10 o ymatebwyr (9% n=55) am waith fel anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe. O'r ymatebwyr hyn, cyfeiriodd dros draean (36% n=20) o bobl a soniodd am waith fel anghydraddoldeb sylweddol at yr anhawster sy'n gysylltiedig â chael mynediad at waith o ansawdd da sy'n talu'n dda.

    Un o'r prif rwystrau i gyflogaeth a grybwyllwyd gan nifer o ymatebwyr oedd trafnidiaeth. Roedd rhwystrau eraill i gyflogaeth a grybwyllwyd yn ymwneud ag oedran a chyfrifoldebau gofalu.

    Soniodd cwpl o ymatebwyr hefyd am ganfyddiadau a oedd yn ymwneud â bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

    Roedd y thema olaf a nodwyd gan ymatebwyr a soniodd am waith fel anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe yn ymwneud â diffyg cymorth i bobl sy'n gweithio o gymharu â phobl nad ydynt yn gweithio.

 

  • Addysg. Nododd nifer bach o ymatebwyr (4% n=26) fod addysg yn fater anghydraddoldeb sylweddol. O'r ymatebwyr hynny a soniodd am addysg, soniodd sawl ymatebydd am anghydraddoldeb o ran y berthynas rhwng tlodi ac addysg a chanlyniadau hirdymor.

    Soniodd un neu ddau o ymatebwyr am anghydraddoldeb mewn perthynas â gallu plant a phobl ifanc i gymryd rhan lawn mewn addysg. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn gweld anghydraddoldebau o ran darparu ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

  • Gofal cymdeithasol. Nododd nifer bach o ymatebwyr (3% n=22) ofal cymdeithasol fel mater anghydraddoldeb sylweddol. O'r ymatebwyr hynny a soniodd am ofal cymdeithasol, soniodd mwyafrif yr ymatebwyr (86% n=19) am anghydraddoldeb mewn perthynas ag anawsterau sy'n gysylltiedig â chael mynediad at ofal cymdeithasol, neu ddiffyg cefnogaeth ganfyddedig:

    O'r ymatebwyr hynny a soniodd am anhawster o ran cael mynediad at ofal cymdeithasol neu ddiffyg cefnogaeth ganfyddedig, crybwyllwyd grwpiau penodol gan gynnwys yr henoed a phobl ag anableddau.

    Yn ogystal, soniodd rhai ymatebwyr am fwlch penodol o ran cymorth i ofalwyr.

    Soniodd un neu ddau o ymatebwyr am fylchau daearyddol canfyddedig o ran mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol.

 

  • Iechyd. Nododd nifer bach o ymatebwyr (6% n=36) hefyd fod iechyd yn fater anghydraddoldeb sylweddol. O'r ymatebwyr hynny a soniodd am iechyd fel anghyfartaledd sylweddol, soniodd sawl un am anawsterau yn ymwneud â chael mynediad at wasanaethau iechyd a / neu ddiffyg darpariaeth ganfyddedig.

    O'r bobl hynny a soniodd am iechyd fel anghydraddoldeb sylweddol, soniodd nifer o ymatebwyr yn benodol am ddiffyg cymorth ar gyfer iechyd meddwl.

 

  • Digidol. Nododd nifer bach o ymatebwyr (2% n=10) sgiliau digidol fel mater anghydraddoldeb sylweddol. O'r ymatebwyr hynny a soniodd am sgiliau digidol fel anghydraddoldeb sylweddol, soniodd y mwyafrif am anawsterau a oedd yn ymwneud â chael mynediad at wasanaethau ar-lein - gan gynnwys pobl hŷn a phobl iau ag anghenion dysgu ychwanegol / anableddau.

    Yn olaf, roedd meysydd eraill o anghydraddoldeb sylweddol a nodwyd yn Abertawe yn cynnwys mynediad i fannau gwyrdd a'r amgylchedd naturiol, isadeiledd y ddinas, parcio a chyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

 

Tystiolaeth: Canfyddiadau allweddol o: A yw Cymru'n decach? (2023)
GrwpiauCanfyddiadau allweddol
Oedran, pobl hŷn
  • Cynyddodd cyfraddau tlodi ymhlith pobl 65-74 oed, gan gynnwys aelwydydd tlawd o ran tanwydd.
  • Mae oedolion hŷn mewn mwy o berygl o allgáu digidol.
  • Mae cyfradd cyflogaeth pobl dros 65 oed wedi codi, ond maent yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr.
  • Bwlch sylweddol mewn blynyddoedd o iechyd da - 16.9 mlynedd o wahaniaeth i fenywod a 13.4 mlynedd o wahaniaeth i ddynion yn y rhan fwyaf a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Mae pobl hŷn dros 65 oed yn fwy tebygol o adrodd bod gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth wedi eu helpu.
Oedran, plant a phobl ifanc
  • Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol.
  • Mae 8,200 o ofalwyr ifanc yng Nghymru sy'n fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd difreintiedig.
  • Er bod cyfran y bobl ifanc NEET wedi gostwng, pobl ifanc 16 - 24 oed sydd â'r gyfradd uchaf o ddiweithdra.
  • Mae lefelau tlodi yn parhau i fod yn uchel ymhlith plant a phobl ifanc.
  • Mae'r pandemig wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl - mae 24% yn nodi materion sylweddol.
  • Mae nifer y plant 10-17 oed o Gymru yn y ddalfa wedi gostwng i'r nifer isaf a gofnodwyd erioed.
Hil
  • Gwahaniaethau rhwng cyrhaeddiad addysgol gwahanol grwpiau ethnig, y rhan fwyaf ar gyfer Teithwyr, Sipsiwn, Roma.
  • Cyrhaeddiad uwch ymhlith lleiafrifoedd ethnig o'i gymharu â Gwyn Prydeinig.
  • Roedd gweithwyr ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr ac yn ennill llai.
  • Pobl ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o brofi digartrefedd a gorlenwi.
  • Mae grwpiau ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn fwy tebygol o adrodd am brofiadau o wahaniaethu a bwlio yn y gweithle.
  • Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o grwpiau ethnig leiafrifol yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn.
  • Mae nifer y troseddau a waethygwyd gan hiliaeth neu grefydd a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu, fodd bynnag, mae cyfran y troseddau sy'n arwain at gyhuddiad wedi gostwng.
  • Mae pobl ddu ac ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o fod wedi profi ymosodiad rhywiol.
Anabledd
  • Mae'r bwlch cyrhaeddiad addysg ar lefel y cyfnod sylfaen rhwng plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl wedi ehangu.
  • Mae oedolion anabl yn llai tebygol o gael eu cyflogi nag oedolion nad ydynt yn anabl. Er bod bylchau cyflogaeth yn gwella, mae bylchau enillion yn gwaethygu.
  • Mae pobl anabl wedi cael eu gorgynrychioli'n sylweddol mewn marwolaethau o ganlyniad i COVID-19.
  • Mae cyfran y bobl anabl sy'n adrodd eu bod wedi profi cam-drin domestig tua thair gwaith yn fwy nag eraill.
  • Mae pobl anabl hefyd yn llai tebygol o fod â hyder yn y system cyfiawnder troseddol.
Ailbennu rhywedd
  • Bylchau tystiolaeth sylweddol ar draws pob agwedd ar fywyd.
  • Tystiolaeth bod y rhai sy'n nodi nad ydynt yn fachgen neu'n ferch yn dweud bod ganddynt iechyd meddwl gwaeth.
  • Ar hyn o bryd mae amseroedd aros ar gyfer Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn is na rhannau eraill o'r DU, ond mae'n uwch na thargedau LlC.
  • Nid oes gan ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yr wybodaeth sydd ei hangen i ofalu amdanynt, yn enwedig wrth iddynt fynd yn hŷn.
  • Mae pobl draws yng Nghymru yn ofni wynebu gwahaniaethu yn y gweithle a gallant guddio eu hunaniaeth yn y gwaith.
Rhyw (gan gynnwys statws priodasol, beichiogrwydd a mamolaeth)
  • Mae gan fwy o fenywod gymwysterau ôl-orfodol ar lefel 4 neu uwch, ond mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n parhau.
  • Mae anghenion gofal plant a chyfrifoldebau gofalu yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol mewn cyflogaeth ac addysg.
  • Mae menywod yn dal i fod yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr di-dâl.
  • Mae cartrefi rhieni sengl yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi, mae bron i 90% o'r aelwydydd hyn yn cael eu harwain gan fenywod.
  • Mae menywod yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt ganlyniadau iechyd meddwl gwaeth, eu bod yn byw gydag anabledd neu fod ganddynt salwch gydol oes.
  • Mae menywod yn parhau i fod yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig na dynion.
Crefydd neu gred
  • Mae tystiolaeth gyfyngedig yng Nghymru yn canolbwyntio ar grefydd neu gred fel nodwedd warchodedig.
  • Disgrifiodd llai na hanner poblogaeth Cymru eu hunain fel Cristnogion - 43.6%.
  • Mae lleiafrifoedd crefyddol yn llai tebygol o gael eu cyflogi na'r rhai heb unrhyw gysylltiad crefyddol.
  • Mae cyfraddau tlodi wedi cynyddu mewn cartrefi â phenteulu Cristnogol.
  • Y dirywiad mwyaf mewn iechyd da a adroddwyd rhwng lleiafrifoedd crefyddol, o'i gymharu ag eraill.
Cyfeiriadedd rhywiol
  • Mae oedolion hoyw a lesbiaidd yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth na gweithwyr heterorywiol.
  • Mae gweithwyr heterorywiol yn fwy tebygol o weithio yn y diwydiannau adeiladu, gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth, ynni a dŵr na grwpiau cyfeiriadedd rhywiol eraill.
  • Mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn perygl o brofi amrywiaeth o ymddygiadau gwahaniaethol neu fwlio tra yn y gwaith ac mewn addysg.
  • Mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn mwy o berygl o droseddau casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol.
  • Mae grwpiau lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn profi iechyd corfforol a meddyliol gwaeth nag oedolion heterorywiol.
  • Cyfeiriadedd rhywiol oedd yr ail ffactor ysgogol mwyaf ar gyfer troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu ac mae'n cynyddu.

Yn ogystal â chanfyddiadau allweddol ar gyfer grwpiau penodol o bobl â nodweddion gwarchodedig, nododd A yw Cymru'n Decach 2023? hefyd rai materion allweddol sy'n effeithio ar sawl grŵp a grynhoir isod:

  • mae tlodi yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel yn barhaus;
  • mae bylchau mewn cyrhaeddiad addysg yn parhau (h.y. rhwng plant a phobl ifanc ag anableddau, y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a phlant a phobl ifanc sy'n sipsiwn, roma neu Deithwyr);
  • er bod cyfran y bobl sydd â rhai nodweddion gwarchodedig mewn cyflogaeth wedi cynyddu, mae bylchau o ran cyflog hefyd wedi cynyddu, gyda chyfran uwch o bobl â nodweddion gwarchodedig mewn cyflogaeth isel ac ansicr;
  • mae allgáu digidol yn parhau i fod yn gyson ar gyfer pobl hŷn, pobl anabl, y rhai mewn tlodi a phoblogaethau gwledig;
  • mae rhai pobl â nodweddion gwarchodedig yn fwy tebygol o roi gwybod am iechyd meddwl a salwch gwaeth nag eraill;
  • mae cyfrifoldebau gofal plant a gofalu yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gydraddoldeb;
  • mae rhai grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig yn fwy tebygol o fod mewn llety a / neu lety dros dro sy'n anaddas ar gyfer eu hanghenion;
  • bu cynnydd yn nifer yr achosion o droseddau casineb yr adroddwyd amdanynt (yn erbyn gwahanol grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig), ond nid yw hyn wedi arwain at gynnydd cymharol yng nghyfran y troseddau sy'n arwain at gyhuddiad.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2024